cymuned a phentref yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngheredigion yw y Borth. Saif ar arfordir Bae Ceredigion, 9 km i'r gogledd o Aberystwyth. Mae ganddi tua 1,463 o drigolion, 32.4% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2011).
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,399, 1,250 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 745.61 ha |
Yn ffinio gyda | Machynlleth |
Cyfesurynnau | 52.4853°N 4.051°W |
Cod SYG | W04000362 |
Cod OS | SN608894 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref bach pysgotwyr a morwyr fu'r Borth yn y gorffennol ond mae'r Borth, bellach, yn dref glan môr boblogaidd gyda sawl gwersyll carafanio yn y cylch. I'r dwyrain ceir corsdir eang o'r enw Cors Fochno ar lan aber Afon Dyfi. Ar un adeg gellid croesi gyda fferi bach o'r Ynys Las i'r gogledd o'r pentref i Aberdyfi dros Afon Dyfi.
Mae gan y Borth orsaf reilffordd ar Reilffordd y Cambrian.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Ar y traeth rhwng y Borth ac Ynyslas, pan fo'r môr ar drai, gellir gweld boncyffion hen fforest betraidd sy'n profi fod tir yn gorwedd i'r gorllewin yn y gorffennol, cyn iddo gael ei foddi gan y môr ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig.
Yn Ionawr 2014, oherwydd y gwyntoedd cryfion dadorchuddiwyd rhagor o'r bonion coed pan gliriwyd llawer o'r tywod; ymhlith y gwahanol fathau o goed roedd: y binwydden, y wernen, y dderwen a'r fedwen. Gorwedda'r bonion hyn mewn mawn. Dyddiwyd y coed drwy garbon-ddyddio a cheir tystiolaeth eu bod rhwng 4,500 a 6,000 oed.[3] Mae'r bonion yn ymestyn am tua dwy filltir a hanner.[4]
Dyma un rheswm, o bosib, am y chwedl gyfarwydd am Gantre'r Gwaelod, a gysylltir ag ardal Aberdyfi sydd ar yr ochr arall i'r afon, i'r gogledd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Borth (pob oed) (1,399) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Borth) (443) | 32.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Borth) (565) | 40.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Borth) (246) | 37.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 5% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.