pentref yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yng Ngheredigion yw Beulah( ynganiad ). Saif hanner ffordd rhwng tref Castell Newydd Emlyn a phentref glan-môr Aberporth ar Fae Ceredigion.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,627, 1,762 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,063.57 ha |
Cyfesurynnau | 52.0873°N 4.5011°W |
Cod SYG | W04000360 |
Cod OS | SN289461 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Mae ardal Cyngor Cymuned Beulah yn cynnwys pentrefi Bryngwyn, Llandygwydd, Betws Ifan, Cwm Cou a'r rhan fwyaf o bentref Cenarth ar lannau afon Teifi ac yn gartref i dros 1,500 o bobl (1,586, Cyfrifiad 2001), 54% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, gyda 45% o'r boblogaeth wedi eu geni y tu allan i Gymru (Cyfrifiad 2001). O blith y trigolion sydd yn enedigol o Gymru, mae bron i 90% yn Gymry Cymraeg (cyfeiriad yn eisiau), felly mae'r cyferbyniad diwylliannol ac ieithyddol rhwng y brodorion a'r mewnfudwyr yn amlwg iawn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Mae'r ardal Cyngor Cymuned yn cynnwys melin ddŵr Felin Geri yng nghwm coediog y Ceri, a rhaeadrau Cenarth.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Beulah, Ceredigion (pob oed) (1,627) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Beulah, Ceredigion) (841) | 52.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Beulah, Ceredigion) (903) | 55.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Beulah, Ceredigion) (283) | 39.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.