afon yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon sy'n llifo o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws canol sir Ceredigion yw Afon Aeron. Yn yr Oesoedd Canol dynodai'r ffin rhwng cantrefi Uwch Aeron (i'r gogledd o'r afon) ac Is Aeron (i'r de).
Afon Aeron yn Aberaeron | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.2435°N 4.2645°W |
Aber | Môr Iwerddon |
Mae'r afon yn tarddu yn ardal y Mynydd Bach, plwyf Blaen Pennal ac yn llifo i'r de gan ddisgyn yn gyflym i ran uchaf Dyffryn Aeron ger Llangeitho. Yno mae'n llifo i'r gorllewin ar hyd y dyffryn heibio i gymunedau bychain fel Capel Betws Leucu, gan ffurfio llawr gweddol llydan i'r dyffryn.
Ger Trefilan mae'n troi ar gwrs i gyfeiriad y gogledd-orllewin, heibio i Giliau Aeron a Llanaeron, lle daw Afon Mydyr i mewn iddi o'r de, i gyrraedd y môr yn Aberaeron lle mae'n ymarllwys i Fae Ceredigion.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.