9 Tachwedd yw'r trydydd dydd ar ddeg wedi'r trichant (313eg) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (314eg mewn blynyddoedd naid). Erys 52 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.
1938 - Ymosododd dilynwyr y Natsïaid ar Iddewon a'u heiddo a llosgwyd synagogau. Cawsant eu cymell gan araith Joseph Goebbels a chafodd yr heddlu a'r gwasanaeth tân orchmynion i beidio ag amddiffyn eiddo'r Iddewon. Gelwir y noswaith hon yn Kristallnacht (noson y gwydr drylliedig).
1989 - Caniatawyd i bobl o Ddwyrain Berlin i groesi i'r Gorllewin pan agorwyd croesfannau Mur Berlin yn wrth i dyrfaoedd enfawr geisio manteisio ar y llacio yn y rheolau teithio a gyhoeddwyd yn gynharach yn y dydd. Dechreuodd y tyrfaoedd a ymgasglodd yn ystod y nos ar y ddwy ochr i'r mur ar y gwaith o'i ddadfeilio.