person busnes, gwleidydd (1869-1940) From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o Loegr a fu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o 1937 hyd 1940 oedd Arthur Neville Chamberlain (18 Mawrth 1869 – 9 Tachwedd 1940). Roedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol. Bu’n aelod o Lywodraeth Glymblaid David Lloyd George adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn nes ymlaen, ymhlith swyddi eraill yn ei yrfa gwleidyddol, bu’n Weinidog Iechyd ac yn Ganghellor y Trysorlys. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng Nghynhadledd München.[1]
Neville Chamberlain | |
---|---|
Ganwyd | Arthur Neville Chamberlain 18 Mawrth 1869 Birmingham |
Bu farw | 9 Tachwedd 1940 o canser colorectaidd Reading |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Arglwydd Lywydd y Cyngor, Canghellor y Trysorlys, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Lord Mayor of Birmingham, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Arweinydd y Tŷ Cyffredin |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Joseph Chamberlain |
Mam | Florence Kenrick |
Priod | Anne Chamberlain |
Plant | Dorothy Chamberlain, Francis Chamberlain |
Perthnasau | George Hamilton Kenrick |
Gwobr/au | Ehrendoktor der Universität Straßburg |
llofnod | |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Dirwasgiad a Rhyfel | |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Maes y Gad i Les y Wlad | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Wrth weld Ewrop yn cael ei harwain tuag at ail ryfel byd oherwydd bygythiad Natsïaeth ceisiodd Chamberlain gyfaddawdu a chwrdd â gofynion cynyddol Hitler am ragor o dir a phŵer. Roedd yn gwneud hyn er mwyn ceisio osgoi rhyfel arall. Enw’r polisi yma oedd ‘dyhuddo’. Yn 1938 unodd Hitler Awstria gyda’r Almaen yn yr ‘Anschluss’ a meddiannu Tir y Swdeten (rhan o Tsiecoslofacia) er mwyn creu un Almaen fawr Almaeneg ei hiaith. Ym Medi 1938 llofnododd Chamberlain Gytundeb Munich gyda Hitler er mwyn ceisio osgoi rhyfel ond ofer fu ei ymdrech. Wedi i’r Almaen oresgyn Gwlad Pwyl ar Fedi’r 1af 1939, gorfodwyd Chamberlain i gydnabod ei fod wedi methu rhwystro Hitler. Chamberlain oedd Prif Weinidog Prydain pan gyhoeddodd y wlad ryfel ar yr Almaen ar Medi’r 3ydd, 1939. Prin flwyddyn wedi cychwyn y rhyfel ymddiswyddodd Chamberlain fel Prif Weinidog a throsglwyddwyd awenau pŵer i Winston Churchill fel arweinydd y Llywodraeth newydd.[2]
Ganed ef yn ninas Birmingham, yn fab i Joseph Chamberlain, maer y ddinas, ac yn frawd Austen Chamberlain. Bu farw ei fam pan oedd yn 6 oed. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol yn 42 oed, pan etholwyd ef i gyngor Birmingham. Saith mlynedd yn ddiweddarach, etholwyd ef yn Aelod Seneddol.
Roedd ei dad, Joseph Chamberlain, wedi bod yn weinidog yn Llywodraeth Ryddfrydol y Prif Weinidog William Gladstone, ac hefyd yn nes ymlaen bu’n weinidog yn Llywodraeth Geidwadol yr Arglwydd Salisbury, ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.[1]
Yn ei ugeiniau cynnar bu Neville Chamberlain yn rheolwr ar ystâd 20,000 erw ei dad yn y Bahamas ac yna dychwelodd i weithio yn y diwydiant metel yn Birmingham.[3]
Bu’n gynghorydd lleol a maer yn Birmingham cyn iddo gael ei ethol yn 1918 yn Aelod Seneddol Ceidwadol yn Ladywood, sef ardal yn Birmingham. Cafodd amrywiaeth o swyddi - er enghraifft, Gweinidog Iechyd yn 1923 a Changhellor y Trysorlys yn 1929 yn Llywodraethau Andrew Bonar Law a Stanley Baldwin.[4]
Llywodraeth Genedlaethol oedd yn rheoli Prydain rhwng 1931 a 1939 a gwahoddwyd ef gan Ramsay MacDonald, Prif Weinidog y Llywodraeth Genedlaethol, i ymgymryd â swydd Canghellor yn y llywodraeth honno yn 1931. Penodwyd Chamberlain yn Brif Weinidog y Llywodraeth yn 1937 ac ef oedd wrth y llyw pan gyhoeddodd Prydain ryfel yn erbyn yr Almaen ym Medi 1939. Ymddiswyddodd Chamberlain fel Prif Weinidog a throsglwyddwyd awenau pŵer i Winston Churchill yn 1940.
Yn ystod y 1930au roedd pryder cynyddol wedi bod ymhlith gwledydd Ewrop ynghylch ymddygiad yr Almaen. Yn ystod y degawd hwnnw roedd yr Almaen wedi ehangu ei phŵer morwrol ac wedi cynyddu ei grym milwrol o dan arweinyddiaeth Adolf Hitler, a oedd wedi dod yn Führer (unben) yr Almaen yn 1934. Roedd Hitler yn awyddus i ddial am y cywilydd a ddioddefodd yr Almaen oherwydd Cytundeb Versailles yn 1919. Yn wyneb hynny, roedd Chamberlain, fel Prif Weinidog, yn awyddus i ddilyn ‘polisi dyhuddo’, sef ceisio rhoi consesiynau i Hitler yn y gobaith y byddai’n medru sicrhau heddwch yn Ewrop. Gobeithiai Chamberlain y byddai datrysiad heddychlon i ymddygiad ymosodol yr Almaen, a bod angen gwneud pob ymdrech i osgoi rhyfel, yn enwedig yn sgil atgfoion erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf.
Er gwaethaf ymdrechion gorau Chamberlain, roedd Hitler yn parhau i yrru ei bolisi tramor ymosodol yn ei flaen. Yn 1938, defnyddiodd Hitler rym i fynd i mewn i Awstria gan honni bod ei gydwladwyr a oedd yn siarad Almaeneg yn y wlad am uno gyda’r Almaen. Protestiodd Chamberlain, ond ni weithredodd. Aeth Hitler ymlaen ac uno gydag Awstria, uniad a oedd yn cael ei adnabod fel yr ‘Anschluss’, gweithred a oedd yn torri un o delerau Cytundeb Versailles. Roedd hyn yn sbardun i Hitler fentro ymhellach a dechreuodd fynnu bod gan Almaenwyr a oedd yn byw yn ardal Swdeten, Tsiecoslofacia, hawl i hunanbenderfyniad. Rhoddodd Hitler orchymyn i Heinlein, arweinydd Almaenwyr Tsiecoslofacia, drefnu gorymdeithiau a gwrthdystiadau yn mynnu eu bod yn cael uno â’r Almaen. Bwriad Hitler oedd adfeddiannu tir y Swdeten, rhan o Tsiecoslofacia, wedi i’r Almaen gael ei gorfodi i roi’r tir yn ôl i Tsiecoslofacia ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gwnaeth Chamberlain un ymdrech olaf a pherswadiodd Hitler i fynychu cynhadledd heddwch y pedwar pŵer (yr Eidal, yr Almaen, Ffrainc a Phrydain) ym München. Llwyddodd Chamberlain a Daladier, Prif Weinidog Ffrainc, i berswadio Hitler i arwyddo cytundeb a oedd yn dweud mai dim ond ardal y Swdeten y gallai ei chymryd. Cytunodd y pedwar pŵer i warantu annibyniaeth gweddill tiriogaeth Tsiecoslofacia. Arwyddodd Hitler a Chamberlain ddatganiad hefyd yn dweud nad oedden nhw’n bwriadu mynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. Dyma oedd Cytundeb München a lofnodwyd ym mis Medi 1938, a welwyd fel elfen bwysig o’r polisi dyhuddo, ac felly rhoddwyd tir y Swdeten i’r Almaen. Dychwelodd Chamberlain i Brydain yn fuddugoliaethus gan ddatgan, ‘Rwy’n credu y cawn heddwch yn ein dyddiau ni.’ Roedd ymdeimlad cyffredinol o ryddhad drwy Brydain ac roedd Chamberlain yn cael ei weld fel arwr cenedlaethol. Ar y llaw arall, roedd pobl Tsiecoslofacia yn teimlo eu bod wedi cael eu bradychu.[5]
Erbyn 1939 cynyddodd y pwysau ar Chamberlain i gyhoeddi rhyfel oherwydd perthynas Prydain gyda gwledydd eraill yn Ewrop a oedd yn wynebu ymddygiad ymosodol yr Almaen. Roedd Prydain a Ffrainc wedi addo i Wlad Pwyl y byddent yn ei chefnogi pe bai Hitler yn mynnu bod y Coridor Pwylaidd yn cael ei ddychwelyd. Rhoddwyd addewid gan y ddwy wlad y byddent yn cyhoeddi rhyfel pe bai milwyr yr Almaen yn goresgyn y wlad. Pwyswyd ar y Llywodraeth Geidwadol i lunio cytundeb gyda Rwsia Sofietaidd ond gwrthododd y Ceidwadwyr wneud hynny. Roedd Stalin, arweinydd y Rwsia Sofietaidd, yn ofni’r Almaen ac oherwydd na allai ymddiried ym Mhrydain na Ffrainc, daeth i gytundeb gyda Hitler ym mis Awst 1939, sef y Cytundeb Natsi-Sofietaidd Di-drais.
Roedd goresgyn Gwlad Pwyl yn anochel gan fod Hitler bellach yn sicr na fyddai'r Sofietiaid yn dod i’w helpu. Tan y funud olaf roedd Hitler yn mentro y byddai’n well gan Chamberlain a llywodraeth Ffrainc siarad yn hytrach nag ymladd ac na fydden nhw’n cyhoeddi rhyfel, hyd yn oed pe bai’r Almaen yn goresgyn Gwlad Pwyl. Gorymdeithiodd milwyr yr Almaen i mewn i Wlad Pwyl ar Fedi’r 1af gan ddisgwyl na fyddai ymateb oddi wrth y gwledydd eraill. Tybiodd Hitler yn anghywir y tro hwn. O dan yr amgylchiadau gorfodwyd Prydain a Ffrainc i gyhoeddi rhyfel ar yr Almaen ar Fedi’r 3ydd, 1939. Yn ei ddarllediad radio i’r Deyrnas Unedig ar Fedi’r 4ydd, 1939, esboniodd Neville Chamberlain pam ei fod wedi cael ei orfodi i gyhoeddi rhyfel. Rhestrodd yr addewidion roedd Hitler wedi eu torri, yn eu plith, nifer o delerau Cytundeb Versailles, fel yr ‘Anschluss’ gyda’r Almaen a goresgyniad tir y Swdeten, a meddiannu’r Coridor Pwylaidd. Anwybyddodd Hitler delerau Cytundeb Munich a lluniodd gynghrair gyda Stalin, arweinydd gwlad Gomiwnyddol a oedd wedi cael ei ystyried ganddo fel un o elynion pennaf yr Almaen Natsïaidd. Drwy gyfeirio at y rhestr hon o dor-addewidion yn ei araith, sylweddolodd Chamberlain eu bod yn y pen draw wedi arwain at fethiant y polisi dyhuddo ac at achosi'r Ail Ryfel Byd.
Gydag ymosodiad Hitler ar Ddenmarc a Norwy ym 1940 a methiant Prydain i’w helpu nhw i wrthsefyll y goresgyniad, rhoddwyd pwysau cynyddol ar Neville Chamberlain, ac arweiniodd hyn at ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth. Gan hynny, gorfodwyd ef i ymddiswyddo o dan yr amgylchiadau ym Mai 1940.[3]
Gydag ymddiswyddiad dramatig y Prif Weinidog yn 1940 daeth clymblaid dan arweiniad Winston Churchill i rym (roedd Churchill wedi gwasanaethu yng nghabinet rhyfel Chamberlain). Roedd y glymblaid newydd hon yn cynnwys aelodau o blaid Churchill ei hun, y Ceidwadwyr, ac aelodau Llafur a Rhyddfrydol, oedd wedi gwrthod gwasanaethu dan Chamberlain.[6] Bu Chamberlain yn aelod o’r Llywodraeth hon, nes gorfodwyd i ymddiswyddo ddiwedd Medi 1940 ef oherwydd afiechyd. Bu farw rai wythnosau wedi hynny yn Nhachwedd 1940.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.