gwlad ar ochr ddwyreiniol Môr y Gogledd sy'n un o wledydd Llychlyn From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Teyrnas Norwy neu Norwy yn wlad ar ochr ddwyreiniol Môr y Gogledd. Ynghyd a'i chymydog Sweden i'r dwyrain, mae'n un o wledydd Llychlyn.
Kongeriket Norge | |
Arwyddair | Ei grym yw natur |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | gogledd, ffordd |
Prifddinas | Oslo |
Poblogaeth | 5,550,203 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Ja, vi elsker dette landet |
Pennaeth llywodraeth | Jonas Gahr Støre |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Nawddsant | Olaf II of Norway |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Bokmål, Sami, Nynorsk, Norwyeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwledydd Nordig, Y Penrhyn Sgandinafaidd, Ffenosgandia, Ewrop, Gogledd Ewrop, Ardal Economeg Ewropeaidd, Llychlyn |
Arwynebedd | 385,207 km² |
Gerllaw | Môr Norwy, Môr Barents, Môr y Gogledd, Skagerrak |
Yn ffinio gyda | Sweden, Y Ffindir, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd |
Cyfesurynnau | 65°N 11°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Norwy |
Corff deddfwriaethol | Stortinget |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Norwy |
Pennaeth y wladwriaeth | Harald V, brenin Norwy |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Norwy |
Pennaeth y Llywodraeth | Jonas Gahr Støre |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $490,293 million, $579,267 million |
Arian | krone Norwy |
Canran y diwaith | 3 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.78 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.966 |
Prif Erthygl: Hanes Norwy
O dan y Llychlynwyr (Vikings yn Saesneg) unwyd y wlad erbyn yr 11g. Ym 1387 bu farw brenin olaf y llinell Norwyaidd, a daeth y wlad o dan reolaeth Denmarc. Gelwid yr adeg yma yn 'noson 400 mlynedd' gan y Norwywyr, gan fod Norwy yn bartner gwan yn yr undeb. Ym 1814, ar ôl i Ddenmarc gefnogi Napoleon yn y rhyfeloedd Ewropeaidd, daeth Sweden i reoli Norwy. Blinodd y Norwywyr ar reolaeth Sweden, ac ym 1905 daeth Norwy yn annibynnol wrth i'r llywodraeth gynnig brenhiniaeth y wlad i Dywysog Carl o Ddenmarc, a ddaeth yn frenin y wlad newydd, gan gymeryd yr enw Haakon VII.
Yn yr Ail Ryfel Byd fe wnaeth byddinoedd yr Almaen o dan Adolf Hitler oresgyn Norwy, ac oherwydd hyn daeth y wlad yn aelod o NATO ym 1949 er mwyn diogelwch. Roedd hefyd yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig o'r dechrau. Mae Norwy yn aelod o EFTA ac Ardal Economaidd Ewrop, ond mae'r etholaeth wedi pleidleisio dwywaith (ym 1972 ac ym 1994) yn erbyn ymuno a'r Undeb Ewropeaidd.
Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth
Mae Norwy yn frenhiniaeth ond mae'r pŵer gwleidyddol yn nwylo'r senedd, y Storting. Mae'r gyfundrefn yn debyg i'r hyn a gaed yn y Deyrnas Unedig, gan fod ambell i swyddogaeth pwysig gan y brenin, ond fe'u defnyddir trwy gyngor y Cabinet fel arfer.
Mae 165 o aelodau gan y Storting. Fe etholir yr aelodau drwy gynrychiolaeth gyfrannol o'r 11 sir yn y wlad, am gyfnodau o bedair mlynedd. Ar ôl etholiadau, mae'r Storting yn rhannu'n ddau siambr—yr Odelsting a'r Lagting—sydd weithiau'n cwrdd ar wahan, ac weithiau gyda'i gilydd, yn ôl y deddfwriaeth sy'n cael ei ddadlau.
Rhennir Norwy'n 15 sir (fylke, lluosog fylker)[1], sydd yn eu tro yn cael eu rhannu'n 357 cymuned (kommuner). Dyma restr o'r siroedd:
# | Sir 2024[1] | Adran Weinyddol |
---|---|---|
3 | Oslo | Oslo |
11 | Rogaland | Stavanger |
15 | Møre og Romsdal | Molde |
18 | Nordland | Bodø |
31 | Østfold | Sarpsborg |
32 | Akershus | Oslo |
33 | Buskerud | Drammen |
34 | Innlandet | Hamar |
39 | Vestfold | Tønsberg |
40 | Telemark | Skien |
42 | Agder | Kristiansand |
46 | Vestland | Bergen |
50 | Trøndelag | Steinkjer |
55 | Troms | Tromsø |
56 | Finnmark | Vadsø |
Yn ogystal â hyn, mae gan Norwy nifer o diriogaethau ar draws y byd. Ystyrir ynysoedd Svalbard a Jan Mayen i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain o'r wlad yn rannau o'r deyrnas. Ar y llaw arall, ystyrir Ynys Bouvet i'r de o Affrica fel trefedigaeth ar wahan i'r deyrnas ei hunan.
Mae Norwy yn hawlio rhan o dir Antarctica (Dronning Maud Land ac Ynys Pedr I) ond mae'r hawliau hyn bellach yn cael eu anwybyddu ar ôl cytundeb rhyngwladol.
Prif Erthygl: Daearyddiaeth Norwy
Mae tua dwy rhan o dair o dir Norwy yn fynyddoedd, ac mae rhyw 50,000 o ynysoedd yn eistedd ger yr arfordir troellog, sydd dros 20,000 km o hyd. Mae olion Oes yr Iâ i'w weld, gyda sawl ffiord a nifer o rewlifoedd.
Mae Norwy yn rhannol o fewn Cylch yr Arctig, sydd yn golygu nad yw'r haul yn machlud yno am ran o'r haf. Serch hyn, mae'r hinsawdd yn cael ei gadw'n gynnes oherwydd dylanwad Llif y Gwlff, sef llif cynnes o ddŵr a daw o'r trofannau.
Mannau uchaf Norwy yw mynyddoedd Glittertinden (2472m) a Galdhøpiggen (2469m), yng nghadwyn Jotunheimen.
Prif Erthygl: Economi Norwy
Mae Norwy yn wlad llewyrchus, yn bennaf efallai oherwydd fod digonedd o adnoddau naturiol ganddi. Ceir llawer o nwy naturiol ac olew crai yn o dan Môr y Gogledd, ac mae'r wlad yn dibynnu'n gryf ar y diwydiant olew—hwn sy'n creu 35% o holl allforion y wlad. Ond mae diwydiannau eraill pwysig gan Norwy—er enghraifft y diwydiant pysgota. Ceisiodd Norwy ymuno âr Undeb Ewropeaidd (UE) dwywaith, ond methodd y cynlluniau am na fod Norwy am ildio rheolaeth ar y diwydiant hwn. Serch hyn mae Norwy yn aelod o farchnad cyffredin yr UE drwy cytundeb Ardal Economaidd Ewrop.
Mae gan Norwywyr safon uchel o fyw, yn bennaf oherwydd yr arian o'r diwydiant olew. Roedd pryder felly beth fyddai'n digwydd ar ôl i'r olew ddiflannu. I ddatrys y broblem, mae llywodraeth Norwy wedi bod yn buddsoddi rhan o'i hennillion o'r diwydiant mewn cronfa dramor, sy'n cynnwys (ym mis Tachwedd 2003) 114 biliwn doler Americanaidd.
Prif Erthygl: Diwylliant Norwy
Mae 86% o boblogaeth Norwy yn perthyn i eglwys swyddogol Norwy, sy'n eglwys Lwtheraidd.
Dethlir diwrnod cenedlaethol Norwy ar 17 Mai. Ar y diwrnod hwnnw mae llawer o'r Norwyiaid yn gwisgo bunad (gwisg draddodiadol) ac yn gwylio gorymdeithiau ar hyd y strydoedd.
Norwywyr enwog:
Mae dau ffurf ysgrifenedig i'r iaith Norwyeg, Bokmål (iaith llyfr) a Nynorsk (Norwyeg newydd). Enw'r wlad yw Norge yn Bokmål, a Noreg yn Nynorsk. Er fod y ddwy iaith yn swyddogol, y Bokmål traddodiadol sy'n fwy cyffredin. Yn y gogledd, siaredir sawl iaith Saami gan bobl y Saami; mae'r iaith hon yn gwbl wahanol i'r Norwyeg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.