Cambodia

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cambodia


Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Cambodia neu Cambodia. Arferai'r wlad gael ei galw'n Kampuchea ac mae ganddi boblogaeth o 14 miliwn o drigolion.[1] Mae'n ffinio â Gwlad Tai i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, Laos i'r gogledd-ddwyrain a Fietnam i'r dwyrain a'r de-ddwyrain. I'r de, daw wyneb yn wyneb â Gwlff Gwlad Tai. Dominyddir daearyddiaeth Cambodia gan yr Afon Mekong a'r Tonlé Sap ("y llyn dŵr ffres"), ffynhonnell bwysig o bysgod.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Cambodia
Gweriniaeth Democrataidd Fietnam
Cộng hòa Xã hội chủ nghĩa Việt Nam
Thumb
ArwyddairTeyrnas Syfrdandod 
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, brenhiniaeth gyfansoddiadol, teyrnas 
PrifddinasPhnom Penh 
Poblogaeth17,423,880 
Sefydlwyd2 Medi 1945 (Datganiad o Annibyniaeth)
AnthemNokor Reach 
Pennaeth llywodraethHun Manet 
Cylchfa amserUTC+07:00, Asia/Phnom_Penh 
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Chmereg 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-ddwyrain Asia 
GwladCambodia 
Arwynebedd181,035 ±1 km² 
Yn ffinio gydaLaos, Gwlad Tai, Fietnam 
Cyfesurynnau12.5°N 105°E 
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLlywodraeth Cambodia 
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Brenin Cambodia 
Pennaeth y wladwriaethNorodom Sihamoni 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Cambodia 
Pennaeth y LlywodraethHun Manet 
Thumb
Thumb
Crefydd/EnwadBwdhaeth, Islam, Cristnogaeth, eneidyddiaeth 
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$26,961 million, $29,957 million 
ArianKHR 
Cyfartaledd plant2.36 
Mynegai Datblygiad Dynol0.593 
Cau

Y Khmeriaid yw'r grŵp ethnig mwyaf a Bwdhaeth yw'r brif grefydd. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Phnom Penh. Cambodia yw'r dalaith olynol i'r Ymerodraeth Khmer Hindŵ a Bwdhaidd, a reolodd y mwyafrif o'r Penrhyn Indo-Tsieineaidd rhwng y 11g a'r 14g.

Gan amlaf, disgrifir person o Gambodia fel "Cambodiad" neu "Khmer", er caiff yr ail derm ei ddefnyddio pan yn disgrifio Khmeriaid ethnig yn unig. Mae'r rhan fwyaf o Gambodiaid yn Fwdistiaid Theravada o dras Khmer, er bod gan y wlad niferoedd sylweddol o Fwslemiaid Cham, yn ogystal â Tsieiniaid, Fietnamiaid a llwythi bychan o'r mynyddoedd.

Prif ddiwydiannau Cambodia yw dillad, twristiaeth ac adeiladu. Yn 2007, daeth dros 4 miliwn o dramorwyr i Angkor Wat.[2] Yn 2005, daethpwyd o hyd o gyflenwadau o olew a nwy naturiol yn nyfroedd tiriogaethol Cambodia, a phan fydd yr echdyniad yn cychwyn yn 2011, gallai'r arian o'r olew effeithio'n sylweddol ar economi'r wlad.[3] Serch hynny, gallai rhan helaeth o unrhyw elw ddiweddu yn nwylo'r gwleidyddion cefnog os na fydd y sefyllfa'n cael ei fonitro'n ofalus.[4]

Daearyddiaeth

Prif: Daearyddiaeth Cambodia

Mae gan Cambodia arwynebedd o 181,035 km sgwâr (69,898 milltir sgwâr), gan rannu ffin o 800 kilomedr (500 mi) gyda Gwlad Tai yn y gogledd a'r gorllewin, ffin o 541 kilomedr (336 mi) gyda Laos yn y gogledd-ddwyrain, a ffin o 1,228 kilomedr (763 mi) gydag Fietnam yn y dwyrain a'r de-ddwyrain. Mae ganddi 443 kilomedr (275 mi) o arfordir ar hyn Gwlff Gwlad Tai. Nodwedd ddaearyddol mwyaf unigryw yw'r paith llynnol, a ffurfiwyd gan lifogydd y Tonle Sap (Y Llyn Mawr), sy'n mesur tua 2,590 kilomedr sgwâr (1,000 milltir sgwâr) yn ystod y tymor sych ac sy'n ehangu i tua 24,605 kilomedr sgwâr (9,500 milltir sgwâr) yn ystod y tymor gwlyb. Mae'r paith poblog hwn, sydd wedi ei neilltuo ar gyfer tyfu reis gwlyb, yng nghefn gwlad Cambodia.

Mae'r rhan fwyaf o'r wlad (tua 75%) ar uchder o 100 medr (330 troedfedd) neu'n îs uwchlaw lefel y môr, ag eithrio'r Mynyddoedd Cardamom (man uchaf 1,813 m / 5,948 troedfedd) a'u hestyniad yn y de-ddwyrain, y Mynyddoedd Dâmrei ("Mynyddoedd yr Eliffantod") (ystod uchder o 500–1,000 m neu 1,640–3,280 troedfedd), yn ogystal â tharenni serth y Mynyddoedd Dângrêk Mountains (uchder cyfartalog 500 m / 1,640 troedfedd) ar hyd y ffin gydag ardal Isan Gwlad Tai. Man uchaf Cambodia ydy Phnom Aoral, ger Pursat yng nghanol y wlad, sy'n 1,813 medr (5,948 troedfedd).

Hanes

Prif: Hanes Cambodia
Thumb
Byddin Khmer yn mynd i frwydro yn erbyn y Cham.

Amcangyfrifir fod y dystiolaeth gynharaf o wareiddiad datblygedig yn y Cambodia fodern yn dod ar ffurf cloddweithiau crwn artiffisial o'r mileniwn gyntaf CC.[5] Yn ystod y 3edd, 4edd a'r 5g, unodd y taleithiau Indianeiddiedig Funan a Chenla i greu'r hyn a elwir yn Cambodia a de-orllewin Fietnam. Tybir gan y mwyafrif o ysgolheigion fod y taleithiau hyn yn rhai Khmer.[6]

Brenhiniaeth gyfansoddiadol ers 1947 yw Cambodia.

Gwleidyddiaeth

Prif: Gwleidyddiaeth Cambodia

Ym mis Medi 2013 penderfynodd pwyllgor etholiad cyffredinol i roi buddugoliaeth i Blaid Bobl Cambodiaidd er honiadau o dwyll etholiadol.[7]

Diwylliant

Prif: Diwylliant Cambodia

Economi

Prif: Economi Cambodia

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.