Tonlé Sap
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfuniad o lyn ac afon yng Nghambodia yw Tonlé Sap (Cambodeg, yn golygu "Afon fawr" neu "lyn mawr". Mae'n amrywio'n dymhorol, ond ef yw'r llyn dŵr croyw mwyaf yn ne-ddwyrain Asia. Fe'i dynodwyd yn warchodfa natur bisffer gan UNESCO yn 1997.
Rhwng Tachwedd a Mai, yn y tymor sych, mae'r Tonlé Sap yn llifo i Afon Mekong ger Phnom Penh. Wedi i'r glawogydd ddechrau ym mis Mehefin, mae'r dŵr yn llifo o'r Mekong i'r Tonlé Sap i ffurfio llyn mawr. Amrywia arwynebedd y llyn rhwng 2,700 km2 yn y tymor sych a 16,000 km2 yn y tymor gwlyb.
Ceir nifer fawr o bysgod yn y llyn, ac mae o bwysigrwydd mawr i economi Cambodia.

Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.