Sefydliad Sbaeneg er hyrwyddo iaith, llenyddiaeth a diwylliant Sbaeneg ac America Ladin From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Instituto Cervantes (;Sefydliad Cervantes;) yn sefydliad dielw byd-eang a grëwyd gan lywodraeth Sbaen yn 1991.[1] Fe'i enwir ar ôl Miguel de Cervantes (1547-1616), awdur Don Quixote ac efallai'r ffigwr pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Sbaeneg. Sefydliad Cervantes yw'r sefydliad mwyaf yn y byd sy'n gyfrifol am hyrwyddo astudio a dysgu iaith a diwylliant Sbaeneg. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.
![]() | |
Enghraifft o: | sefydliad diwylliannol, sefydliad addysgiadol, endid tiriogaethol dynol-ddaearyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1991 |
Yn cynnwys | Instituto Cervantes, Berlin |
Pennaeth y sefydliad | cyfarwyddwr Instituto Cervantes |
Aelod o'r canlynol | European Union National Institutes for Culture |
Isgwmni/au | Instituto Cervantes de Varsovia, Instituto Cervantes de Cracovia, Instituto Cervantes Tokio, Instituto Cervantes, Berlin, Instituto Cervantes de Budapest, Instituto Cervantes de Salvador de Bahía, Instituto Cervantes of Manila, Biblioteca María Zambrano. Instituto Cervantes di Roma, Instituto Cervantes de Pekin, Instituto Cervantes de Shanghai, Instituto Cervantes Praga |
Rhiant sefydliad | Secretariat of State for International Cooperation |
Pencadlys | Madrid |
Enw brodorol | Instituto Cervantes |
Rhanbarth | Madrid |
Gwefan | https://www.cervantes.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ni cheir cangen o'r sefydliad yng Nghymru. Mae'r canghennau Prydeinig yn Llundain, Leeds a Manceinion.
Mae'r sefydliad hwn wedi ehangu i 45 o wledydd gyda 88 o ganolfannau wedi'u neilltuo i ddiwylliant Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ac iaith Sbaeneg.[2] Creodd Erthygl 3 o Gyfraith 7/1991, ar 21 Mawrth 1991, yr Instituto Cervantes fel asiantaeth y llywodraeth. Mae'r gyfraith yn egluro mai nodau eithaf y Sefydliad yw hyrwyddo addysg, astudio a defnyddio Sbaeneg yn gyffredinol fel ail iaith; cefnogi'r dulliau a'r gweithgareddau a fyddai'n helpu'r broses o addysg Sbaeneg, a chyfrannu at hyrwyddo diwylliannau Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ar draws gwledydd di-Sbaeneg.[3][4]
Swyddogaethau a gwasanaethau Sefydliad Cervantes yw:
Y Diploma Iaith Sbaeneg, DELE, yw'r dystysgrif swyddogol gyda chydnabyddiaeth ryngwladol sy'n ardystio gwybodaeth o Sbaeneg fel iaith dramor. Fe'i cyhoeddir gan yr Instituto Cervantes ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen.
Yn 2005, ynghyd â'r Alliance française, y Società Dante Alighieri, y Cyngor Prydeinig, y Goethe-Institut, a'r Instituto Camões, dyfarnwyd Gwobr Tywysog Asturias i'r Instituto Cervantes am gyflawniadau eithriadol ym maes cyfathrebu a dyniaethau.
Mae’r Instituto Cervantes wedi datblygu ei brosiect addysgol ar system o sefydliadau a chanolfannau lleol:
Mae rhestr gynrychioliadol yn dilyn, ac mae'r rhestr ddiweddaraf a chyflawn i'w gweld yn www.cervantes.es.
Mae Instituto Cervantes yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.