Oceania
ardal ddaearyddol sy'n cynnwys Awstralia From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Oceania (/ˌəʊʃiˈeɪniə/) – weithiau Ynysoedd y Determinoleg – yn rhanbarth daearyddol, ac yn aml daearwleidyddol, sydd yn cynnwys nifer o diroedd – ynysoedd gan mwyaf ond fel arfer yn cynnwys Awstralia – yn y Cefnfor Tawel a chyffiniau. Mae hefyd yn cael ei hystyried yn gyfandir, ond mae hyn yn bwnc dadleuol. Mae diffiniad ystent union Oceania yn amrywio, gyda dehongliadau yn cynnwys Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, ac ynysoedd gwahanol yn Ynysfor Malei. Oceania yw'r cyfandir lleiaf yn nhermau arwynebedd a'r lleiaf ond un yn nhermau poblogaeth, yn dilyn yr Antarctig.


Trosolwg

Mae defnydd pennaf y term Oceania yn disgrifio rhanbarth macroddaearyddol sydd rhwng Asia a'r Amerig, gyda chyfandir Awstralia fel y brif ehangdir ac yn cynnwys rhyw 25 000 o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir yr enw "Oceania" yn hytrach nag Awstralia oherwydd, yn annhebyg i ddosbarthiadau cyfandirol eraill, y cefnfor a'r moroedd cyfagos yn hytrach na'r cyfandir sydd yn cysylltu'r tiroedd at ei gilydd.
Geirdarddiad
Daw Oceania o'r gair Groegaidd Okeanís (Ὠκεανίς), merch nymff y duw Okeanís (Ὠκεανός), y Titan cyntaf-anedig. Daeth y term i'r Gymraeg trwy'r Saesneg: daw'r gair Saesneg am "gefnfor" – ocean – o Okeanos.
Terminoleg
- Prif: Oceania (terminoleg)
Mae Oceania yn aml yn cael ei chymysgu â thermau arall am ranbarthau yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir y term Awstralasia i gyfeirio at Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, a nifer o'r ynysoedd llai sydd yn yr ardal, y rhan fwyaf ohonynt yn nwyrain Indonesia. Mae'r term yn cynnwys prif ynysoedd Oceania, ond nid yw'n cynnwys yr ynysoedd a chylchynysoedd bychain yn y Cefnfor Tawel. Mae "Awstralasia" yn aml yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg i ddisgrifio Oceania, gan nad yw "Oceania" yn ymddangos fel gair Cymraeg. Mae "Ynysoedd y De" i'w gweld ar draws y we fel term Cymraeg am Oceania, ond gan nad yw hyn wedi'i sefydlu fel gair safonol, defnyddir "Oceania" trwy'r erthygl hon.
Daearyddiaeth
Economi
Chwaraeon
Gweler hefyd
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.