Remove ads
Rhwydwaith fyd-eang yn hyrwyddo'r iaith a diwylliant Ffrangeg From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Alliance française [a] neu AF (Ffrangeg: Alliance française, ynganiad Ffrangeg: [aljɑ̃s fʁɑ̃sɛz]), yn sefydliad rhyngwladol sy'n anelu at hyrwyddo'r iaith Ffrangeg a'r diwylliant ffrancoffôn ledled y byd. Crëwyd ym Mharis ar 21 Gorffennaf 1883 dan yr enw Alliance française pour la propagation de la langue nationale dans les colonies et à l’étranger ("Cynghrair Ffrengig ar gyfer lluosogi’r iaith genedlaethol yn y trefedigaethau a thramor"), a elwir bellach yn syml fel L’Alliance française, ei phrif nod yw dysgu Ffrangeg fel ail iaith. Gyda'i bencadlys ym Mharis,[1] roedd gan y Gynghrair 850 o ganolfannau mewn 137 o wledydd ar bob cyfandir cyfannedd yn 2014.[2] Mae'r AF yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad anllywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1883 |
Pennaeth y sefydliad | Director of Alliance Française |
Sylfaenydd | Louis Pasteur |
Isgwmni/au | Alliance française de Toronto, Alliance Française de Chittagong, Biblioteca dell'Alliance Française |
Pencadlys | Paris |
Gwefan | https://www.fondation-alliancefr.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Crëwyd yr Alliance ym Mharis ar 21 Gorffennaf 1883 gan grŵp yn cynnwys y gwyddonydd Louis Pasteur, y diplomydd Ferdinand de Lesseps, yr awduron Jules Verne ac Ernest Renan, a'r cyhoeddwr Armand Colin.
Mae'n ariannu'r rhan fwyaf o'i weithgareddau o'r ffioedd a gaiff o'i gyrsiau ac o rentu ei osodiadau. Mae llywodraeth Ffrainc hefyd yn darparu cymhorthdal sy'n cwmpasu tua phump y cant o'i chyllideb (bron i €665,000 yn 2003)
Mae mwy na 440,000 o fyfyrwyr yn dysgu Ffrangeg yn un o’r canolfannau a redir gan y Gynghrair, y mae ei rhwydwaith o ysgolion yn cynnwys:
Mae'r sefydliadau y tu allan i Baris yn rhyddfreintiau lleol sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol. Mae gan bob un bwyllgor a llywydd. Mae brand Alliance française yn eiddo i ganolfan Paris. Mewn llawer o wledydd, cynrychiolir Alliance française Paris gan général Délégué. Mae Llywodraeth Ffrainc hefyd yn rhedeg 150 o Sefydliadau Diwylliannol Ffrengig ar wahân sy'n bodoli i hyrwyddo iaith a diwylliant Ffrainc.[3]
Mae'r Cynghreiriau yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol, megis arddangosfeydd celf, gwyliau ffilm, cynulliadau cymdeithasol, clybiau llyfrau.[4][5][6][7][8]
Mae'r Alliance Française yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.