gwlad yn nwyrain Ewrop From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad a gweriniaeth yn nwyrain Ewrop yw Wcráin. Ystyr y gair "Wcráin" yw'r "wlad gyda ffiniau" (yn debyg i'r "Mers" rhwng Cymru a Lloegr), a gwledydd cyfagos iddi yw Ffederasiwn Rwsia, Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania a Moldofa. Ei ffin i'r de yw'r Môr Du ac i'r de ddwyrain ohoni mae'r Môr Azov. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 41,167,335 (1 Ionawr 2022).
Україна Ukraina Wcreineg | |
Math | Gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | 'ffiniau' (Hen Slafoneg Eglwysig) |
Prifddinas | Kyiv |
Poblogaeth | 41,167,335 |
Sefydlwyd | 24 Awst 1991 (Annibyniaeth oddi wrth yr USSR) |
Anthem | Anthem genedlaethol Wcráin |
Pennaeth llywodraeth | Denys Šmyhal |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, EET, Europe/Kyiv |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Ewrop, Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd, Ewrop |
Arwynebedd | 603,550 km² |
Yn ffinio gyda | Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania, Moldofa, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd |
Cyfesurynnau | 49°N 32°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabinet y Gweinidogion |
Corff deddfwriaethol | Verkhovna Rada |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Wcráin |
Pennaeth y wladwriaeth | Volodymyr Zelenskyy |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Wcráin |
Pennaeth y Llywodraeth | Denys Šmyhal |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $199,766 million, $160,503 million |
Arian | hryvnia |
Canran y diwaith | 8 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.498 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.773 |
Ym Mawrth 2014 cyfeddiannwyd y Crimea gan Rwsia; ar 24 Chwefror 2022 dechreuodd Rhyfel Rwsia ac Wcráin pan ymosododd Rwsia ar Wcráin. Adenillodd Wcráin lawer o'r tir a gollwyd erbyn diwedd 2022; mae'r rhyfel hwn yn parhau.
Mae gan Wcráin arwynebedd o 603,628 km2 (233,062 mi sgw), sy'n golygu mai hi yw'r wlad fwyaf yn Ewrop (o'r gwledydd hynny sy'n gyfan gwbl o fewn Ewrop).[1][2][3]
Bu pobl yn byw yma tua 44,000 o flynyddoedd yn ôl,[4] ac mae'n ddigon posib mai yma y dofwyd y ceffyl am y tro cyntaf,[5][6][7][8] a'r fan lle y cychwynnwyd siarad Ieithoedd Indo-Ewropeaidd.
Mae ehangder ei thiroedd a'i ffermydd ffrwythlon dros y blynyddoedd yn golygu ei bod ymhlith y gwledydd gorau am gynhyrchu grawn ac yn 2011, Wcráin oedd y trydydd gorau drwy'r byd.[9] Yn ôl Cyfundrefn Masnach y Byd, mae Wcráin, felly'n un o'r 10 gwlad mwyaf dymunol i'w meddiannu.[10] Ar ben hyn, mae ganddi un o'r diwydiannau creu awyrennau gorau.
Ceir poblogaeth o oddeutu 44.6 miliwn o bobl gyda 77.8% ohonyn nhw o darddiad Wcreinaidd, 17% yn Rwsiaid, Belarwsiaid, Tatariaid neu'n Rwmaniaid. Wcreineg yw'r iaith swyddogol a'i gwyddor yw'r wyddor Gyrilig Wcraneg. Siaredir y Rwsieg hefyd gan lawer. Y grefydd fwyaf yn y wlad yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol sydd wedi dylanwadu'n helaeth ar bensaernïaeth y wlad yn ogystal a'i llenyddiaeth a'i cherddoriaeth.
Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Ceir sawl esboniad am eirdarddiad (neu etymoleg) yr enw Wcráin. Yn ôl un o'r esboniadau cyntaf a hynaf, mae'n golygu "ffiniau",[11] tra bod rhai astudiaethau ieithyddol mwy diweddar yn honni ystyr gwahanol, sef "mamwlad, rhanbarth, neu wlad".[12]
Yn y Saesneg, arferai The Ukraine fod y ffurf mwyaf cyffredin, a hynny trwy gydol yr 20g,[13] ond ers Datganiad Annibyniaeth Wcráin ym 1991, mae "yr Wcráin" wedi dod yn llai cyffredin yn y byd Saesneg ei iaith, ac mae llawer o ganllawiau'n rhybuddio yn erbyn ei ddefnyddio mewn ysgrifennu proffesiynol.[14][15] Yn ôl llysgennad yr Unol Daleithiau William Taylor, mae "The Ukraine" bellach yn awgrymu diystyru sofraniaeth y wlad.[16] Safbwynt swyddogol Wcrain yw bod y defnydd o "'yr Wcráin' yn anghywir yn ramadegol ac yn wleidyddol."[17]
Gweler hefyd: Rhestr dinasoedd Wcráin.
Mae Wcráin yn wlad fawr yn Nwyrain Ewrop, sy'n gorwedd yn bennaf yng Ngwastadedd Dwyrain Ewrop. Hi yw'r wlad Ewropeaidd ail-fwyaf, ar ôl Rwsia. Mae'n cynnwys ardal o 603,628 metr sg ac mae ganddi arfordir o 2,782 km.[18] Mae'n gorwedd rhwng lledredau 44 ° a 53 ° Gog, a hydoedd 22 ° a 41 ° Dwyr.
Mae adnoddau naturiol sylweddol yn Wcrain yn cynnwys mwyn haearn, glo, manganîs, nwy naturiol, olew, halen, sylffwr, graffit, titaniwm, magnesiwm, caolin, nicel, mercwri, pren a digonedd o dir âr. Er gwaethaf hyn, mae'r wlad yn wynebu nifer o faterion amgylcheddol mawr fel cyflenwadau annigonol o ddŵr yfed, datgoedwigo, llygredd aer a dŵr, ynghyd â ymbelydredd damwain 1986 Atomfa Niwclear Chernobyl.[19]
Mae gan Wcrain hinsawdd dymherus ar y cyfan, ac eithrio arfordir deheuol y Crimea sydd â hinsawdd isdrofannol.[20] Mae'r hinsawdd yn cael ei dylanwadu gan aer gweddol gynnes a llaith sy'n dod o Gefnfor yr Iwerydd.[21] Gall y tymeredd blynyddol cyfartalog amrywio o 5.5–7 °C (41.9–44.6 °F) yn y gogledd, i 11–13 °C (51.8–55.4 °F) yn y de.[21] Dosberthir y dyodiad yn anghymesur: mae ar ei uchaf yn y gorllewin a'r gogledd ac ar ei isaf yn y dwyrain a'r de-ddwyrain.[21] Mae Gorllewin Wcráin, yn enwedig ym Mynyddoedd Carpathia, yn derbyn tua 1,200 mm o law yn flynyddol, tra bod Crimea ac ardaloedd arfordirol y Môr Du yn derbyn tua 400 mm.[21] Mewn cymhariaeth, ceir cyfartaledd o 4,473 mm o law ar y Grib Goch, yr Wyddfa, yn flynyddol.[22]
Mae Wcráin yn cynnwys chwe ecoregions daearol: coedwigoedd cymysg Canol Ewrop, cyfadeilad coedwigoedd Isdrofannol y Crimea , paith coedwig Dwyrain Ewrop, coedwigoedd cymysg Pannonaidd, coedwigoedd conwydd mynyddig Carpathia, a'r paith Pontig.[23] Mae Wcráin yn gartref i gasgliad amrywiol o anifeiliaid, ffyngau, micro-organebau a phlanhigion.
Gwelir anheddiad Neanderthalaidd yn Wcráin yn safleoedd archeolegol Molodova (43,000-45,000 CC) sy'n cynnwys esgyrn mamoth.[24][25] Gellir cymharu hyn gyda'r darganfyddiad o ddant Neanderthal yn Ogof Bontnewyd, sy'n dyddio nôl i tua 225,000 o flynyddoedd CP. Ystyrir mai yma hefyd yw'r lleoliad mwyaf tebygol lle dofwyd ceffylau am y tro cyntaf.[7][26][27][28]
Caiff anheddiadau dynol modern yn Wcráin a'i gyffiniaueu dyddio'n ôl i 32,000 CC, gyda thystiolaeth o'r diwylliant Grafetaidd ym Mynyddoedd y Crimea.[29][30] Erbyn 4,500 CC, roedd diwylliant Oes Newydd y Cerrig (neu'r Neolithig) Cucuteni-Trypillia yn ffynnu mewn ardaloedd eang o Wcráin gan gynnwys Trypillia a'r cyfan o Dnieper-Dniester. Yn ystod yr Oes Haearn roedd Cimeriaid, Sgythiaid a Sarmatiaid yn byw ar y tir hwn.[31] Rhwng 700 CC a 200 CC roedd yn rhan o'r Deyrnas Sgythian, neu Sgythia.
Gan ddechrau yn y 6g CC, sefydlwyd cytrefi o Groeg yr Henfyd, Rhufain hynafol, a'r Ymerodraeth Fysantaidd, megis Tyras, Olbia, a Chersonesus, ar lan ogledd-ddwyreiniol y Môr Du. Ffynnodd y cytrefi hyn ymhell i'r 6g OC. Arhosodd y Gothiaid yn yr ardal, ond daethant o dan ddylanwad yr Hyniaid o'r 370au OC ymlaen. Yn y 7g, y diriogaeth sydd bellach yn nwyrain Wcrain oedd canolbwynt Bwlgaria Fawr. Ar ddiwedd y ganrif, ymfudodd mwyafrif llwythau'r Bwlgar i gyfeiriadau gwahanol, a chymerodd y Khazariaid drosodd lawer o'r tir.[32]
Yn y bumed a'r 6g, roedd yr Antes wedi'u lleoli yn nhiriogaeth yr hyn sydd bellach yn Wcráin. Roedd yr Antes yn hynafiaid i'r Wcreiniaid: Croatiaid Gwyn, Severiaid, Polans, Drevlyans, Dulebes, Ulichianiaid, a Tiverianiaid. Sefydlodd ymfudiadau o Wcráin ledled y Balcanau lawer o genhedloedd De Slafaidd. Arweiniodd ymfudiadau gogleddol, a gyrhaeddodd bron i Llyn Ilmen, at ymddangosiad y Slafiaid Ilmen, Krivichs, a Radimichiaid, llinach y Rwsiaid. Ar ôl cyrch Avar yn 602 a chwymp Undeb Antes, goroesodd y mwyafrif o'r bobloedd hyn fel llwythau ar wahân tan ddechrau'r ail mileniwm.[33]
Sefydlwyd ‘Kievan Rus’ yn nhiriogaeth y Polans Dwyreiniol, a oedd yn byw ymhlith afonydd Ros, Rosava, a Dnieper. Daeth yr hanesydd Rwsiaidd Boris Rybakov arbenigwr mewn ieithyddiaeth a chroniclau Rwsia i'r casgliad bod undeb Polans o lwythi'r rhanbarth canol Dnieper yn galw ei hun wrth enw un o'i lwythi, "Ros", a ymunodd â'r undeb ac a oedd yn hysbys o leiaf ers y 6g ymhell y tu hwnt i'r byd Slafaidd.[34] Mae tarddiad tywysogaeth Kyiv yn ddadl fawr ac mae o leiaf dair fersiwn yn bodoli, yn dibynnu ar y dehongliadau o'r croniclau.[35] Yn gyffredinol credir bod Kievan Rus' yn cynnwys rhan ganolog, orllewinol a gogleddol Wcráin fodern, Belarus, llain ddwyreiniol bellaf Gwlad Pwyl a rhan orllewinol Rwsia heddiw. Yn ôl y Prif Gronicle roedd elit y Rus yn cynnwys Varangiaid o Sgandinafiaid i ddechrau.[36]
Yn dilyn Goresgyniad Gwlad Pwyl ym Medi 1939, rhannodd milwyr yr Almaen a Rwsia diriogaeth Gwlad Pwyl. Felly, daeth Dwyrain Galicia a Volhynia gyda'u poblogaeth Wcrain yn rhan o Wcráin. Am y tro cyntaf mewn hanes, unwyd y genedl.[37][38]
Ymosododd byddinoedd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd (gw. Cyrch Barbarossa) ar 22 Mehefin 1941, gan gychwyn bron i bedair blynedd o ryfela. I ddechrau, datblygodd yr Echel yn erbyn ymdrechion enbyd ond aflwyddiannus y Fyddin Goch. Ym mrwydr amgylchynu Kiev, cafodd y ddinas ei chanmol fel "Dinas-Arwr", oherwydd ei gwrthwynebiad ffyrnig. Lladdwyd neu cymerwyd mwy na 600,000 o filwyr Sofietaidd yno, gyda llawer yn dioddef camdriniaeth ddifrifol.[39][40]
Er bod mwyafrif yr Iwcraniaid wedi ymladd yn y Fyddin Goch,[41] yng Ngorllewin Wcrain cododd mudiad Byddin Gwrthryfel Wcrain annibynnol (UPA, 1942). Fe'i sefydlwyd fel llu arfog tanddaear (Mudiad Cenedlaetholwyr Wcreineg, OUN)[42][43] ac fe ddatblygodd yng Ngwlad Pwyl rhwng y ddau ryfel fel sefydliad cenedlaetholgar. Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel, roedd polisïau llywodraeth Gwlad Pwyl tuag at y lleiafrif Wcreineg yn gynnes iawn i ddechrau, ond erbyn diwedd y 1930au daethant yn fwyfwy llym oherwydd aflonyddwch sifil. Cefnogodd y ddau sefydliad, OUN ac UPA y nod o wladwriaeth Wcreineg annibynnol.
Gan ddechrau yng nghanol 1943 ac yn para tan ddiwedd y rhyfel, cynhaliodd UPA cyrchoedd dileu Pwyliaid ethnig yn rhanbarthau Volhynia a Dwyrain Galicia, gan ladd tua 100,000 o sifiliaid Pwylaidd.[44] Roedd y cyflafanau trefnus yn ymgais gan OUN i greu gwladwriaeth Wcreineg homogenaidd heb leiafrif Pwylaidd yn byw o fewn ei ffiniau, ac i atal y wladwriaeth Bwylaidd ar ôl y rhyfel rhag honni ei sofraniaeth dros ardaloedd a oedd wedi bod yn rhan o Wlad Pwyl cyn y rhyfel.[45] Ar ôl y rhyfel, parhaodd yr UPA i ymladd yr Undeb Sofietaidd tan y 1950au.[46][47] Ar yr un pryd, ymladdodd Byddin Annibyniaeth Wcrain, mudiad cenedlaetholgar arall, ochr yn ochr â'r Natsïaid.
Amcangyfrifir bod cyfanswm yr Iwcraniaid ethnig a ymladdodd yn rhengoedd y Fyddin Sofietaidd rhwng 4.5 miliwn[48] a 7 miliwn.[49] Amcangyfrifir bod y niferoedd a ymladdodd fel milwyr gerila, pleidiol i'r Sofietiaid yn Wcrain yn 47,800 ar y dechrau, i tua 500,000 yn ei anterth ym 1944, gyda thua 50% yn Wcraniaid ethnig.[50] Yn gyffredinol, mae ffigurau Byddin Gwrthryfel Wcrain yn annibynadwy, gyda ffigurau'n amrywio o 15,000 i gymaint â 100,000 o ymladdwyr.[51][52]
Difrodwyd y weriniaeth yn drwm gan y rhyfel, ac roedd angen ymdrechion sylweddol i'w hadfer. Dinistriwyd dros 700 o ddinasoedd a threfi a 28,000 o bentrefi.[53] Gwaethygwyd y sefyllfa gan newyn ym 1946-47, a achoswyd gan ddinistr y rhyfel. Mae'r nifer a fu farw yn y newyn hwn yn amrywio, gyda hyd yn oed yr amcangyfrif isaf yn y degau o filoedd.[54] Ym 1945, daeth SSR Wcráin yn un o aelodau-sefydlu cyntaf y Cenhedloedd Unedig,[55] rhan o gytundeb arbennig yng Nghynhadledd Yalta.[56]
Erbyn 1950, roedd y weriniaeth wedi rhagori ar lefelau cynhyrchu diwydiannol cyn y rhyfel.[57] Yn ystod cynllun pum mlynedd 1946-1950, buddsoddwyd bron i 20% o'r gyllideb Sofietaidd yn Wcrain, cynnydd o 5% o gynlluniau cyn y rhyfel. O ganlyniad, cododd gweithlu Wcrain 33.2% rhwng 1940 a 1955 tra tyfodd allbwn diwydiannol 2.2 gwaith yn yr un cyfnod.
Yn fuan daeth Wcráin Sofiet yn arweinydd Ewropeaidd ym maes cynhyrchu diwydiannol,[58] ac yn ganolfan bwysig yn y diwydiant arfau Sofietaidd ac ymchwil uwch-dechnoleg. Arweiniodd rôl mor bwysig at ddylanwad mawr yr elît lleol. Daeth llawer o aelodau arweinyddiaeth yr Sofietiaid o Wcráin, yn fwyaf arbennig Leonid Brezhnev. Yn ddiweddarach, fe gymerodd le Khrushchev a daeth yn arweinydd Sofietaidd rhwng 1964 a 1982. Daeth llawer o chwaraewyr, gwyddonwyr ac artistiaid amlwg o Wcráin.
Ar 26 Ebrill 1986, ffrwydrodd adweithydd yn Atomfa Niwclear Chernobyl, gan arwain at drychineb Chernobyl, damwain yr adweithydd niwclear gwaethaf mewn hanes.[59] Hwn oedd yr unig ddamwain i dderbyn y sgôr uchaf bosibl o 7 gan y Raddfa Digwyddiad Niwclear Rhyngwladol, tan drychineb niwclear Fukushima Daiichi ym mis Mawrth 2011.[60] Ar adeg y ddamwain, roedd 7 miliwn o bobl yn byw yn yr ardal, gan gynnwys 2.2 miliwn yn Wcráin.[61]
Ar 21 Ionawr 1990,[62] trefnwyd cadwyn ddynol fel rhan o'r ymgyrch dros annibyniaeth Wcráin rhwng Kiev a Lviv, er cof am uniad 1919 (Deddf Uno) Gweriniaeth Pobl Wcráin a Gweriniaeth Genedlaethol Gorllewin Wcráin. Daeth dinasyddion allan i'r strydoedd a'r priffyrdd, gan ffurfio cadwyni o bobl yn dal dwylo i gefnogi annibyniaeth eu gwlad.
Ar 16 Gorffennaf 1990, mabwysiadodd y senedd newydd y Datganiad o Sofraniaeth Gwladwriaethol Wcráin.[63] Sefydlodd hyn egwyddorion hunanbenderfyniad, democratiaeth, annibyniaeth, a blaenoriaeth cyfraith Wcráin dros gyfraith Sofietaidd. Fis yn gynharach, mabwysiadwyd datganiad tebyg gan senedd SFSR Rwsia. Dechreuodd hyn gyfnod o wrthdaro â'r awdurdodau Sofietaidd canolog. Ar Hydref 2–17, 1990, cynhaliwyd "y Chwyldro ar Wenithfaen" yn Wcráin, prif bwrpas y weithred oedd atal llofnodi cytundeb undeb newydd yr Undeb Sofietaidd. Bodlonwyd gofynion y myfyrwyr trwy lofnodi penderfyniad o'r Verkhovna Rada, a oedd yn gwarantu eu gweithredu.[64]
Ym mis Awst 1991 ceisiodd carfan ymhlith arweinwyr Comiwnyddol yr Undeb Sofietaidd coup d'état yn erbyn Mikhail Gorbachev er mwyn adfer pŵer y Blaid Gomiwnyddol. Ond wedi iddi fethu, ar 24 Awst 1991, mabwysiadodd senedd Wcrain y Ddeddf Annibyniaeth.[65]
Yn 2004, cyhoeddwyd mai Viktor Yanukovich, y Prif Weinidog ar y pryd, oedd enillydd yr etholiadau arlywyddol, a oedd wedi eu rigio, fel y dyfarnodd y Goruchaf Lys yn ddiweddarach.[66] Achosodd hyn gryn ymateb gan y bobl, fel cefnogaeth i ymgeisydd yr wrthblaid, Viktor Yushchenko, a heriodd y canlyniad. Yn ystod misoedd cythryblus y chwyldro, yn sydyn aeth yr ymgeisydd Yushchenko yn ddifrifol wael, a buan y canfuwyd gan grwpiau meddygon annibynnol lluosog iddo gael ei wenwyno gan ddeuocsin TCDD.[67][68] Roedd Yushchenko yn amau'n gryf mai Rwsia wnaeth ei wenwyno.[69] Yn y pen draw, arweiniodd hyn oll at y Chwyldro Oren heddychlon, gan ddod â Viktor Yushchenko a Yulia Tymoshenko i rym, wrth fwrw Viktor Yanukovych yn wrthblaid.[70]
Mae Wcráin yn weriniaeth o dan system lled-arlywyddol lled-seneddol gymysg gyda changhennau deddfwriaethol, gweithrediaeth (ecseciwtif) a barnwrol ar wahân. Enw'r senedd yw'r Verkhovna Rada.
Gyda chyhoeddi annibyniaeth ar 24 Awst 1991, a mabwysiadu cyfansoddiad ar 28 Mehefin 1996, daeth Wcráin yn weriniaeth lled-arlywyddol. Fodd bynnag, yn 2004, cyflwynodd y dirprwyon newidiadau i'r Cyfansoddiad, a oedd yn troi'r cydbwysedd pŵer o blaid system seneddol. Rhwng 2004 a 2010, cafodd cyfreithlondeb gwelliannau Cyfansoddiadol 2004 sancsiwn swyddogol, gyda Llys Cyfansoddiadol Wcráin, a'r mwyafrif o'r prif bleidiau gwleidyddol.[75] Er gwaethaf hyn, ar 30 Medi 2010 dyfarnodd y Llys Cyfansoddiadol fod y gwelliannau yn ddi-rym, gan orfodi dychwelyd i delerau Cyfansoddiad 1996 gan wneud system wleidyddol Wcráin yn fwy arlywyddol ei chymeriad.
Daeth y dyfarniad ar welliannau Cyfansoddiadol 2004 yn bwnc o bwys yn y byd gwleidyddol. Roedd llawer o'r pryder yn seiliedig ar y ffaith nad oedd Cyfansoddiad 1996 na Chyfansoddiad 2004 yn darparu'r gallu i "ddadwneud y Cyfansoddiad", fel y byddai gan benderfyniad y Llys Cyfansoddiadol, er y gellir dadlau bod gan gyfansoddiad 2004 restr o weithdrefnau posibl ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol (erthyglau 154–159). Beth bynnag, gellid addasu'r Cyfansoddiad presennol trwy bleidlais yn y Senedd.[75][76][77] [78]
Ar 21 Chwefror 2014 cafwyd cytundeb rhwng yr Arlywydd i ddychwelyd i Gyfansoddiad 2004. Dilynodd y cytundeb hanesyddol, a froceriwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, y protestiadau Euromaidan a ddechreuodd ddiwedd mis Tachwedd 2013 ac a ddaeth i ben gydag wythnos o wrthdaro treisgar lle lladdwyd ugeiniau o wrthdystwyr. Yn ogystal â dychwelyd i Gyfansoddiad 2004, roedd y fargen yn darparu ar gyfer ffurfio llywodraeth glymblaid, galw etholiadau cynnar, a rhyddhau’r cyn Brif Weinidog Yulia Tymoshenko o’r carchar.[79] Diwrnod ar ôl dod i'r cytundeb diswyddodd senedd Wcráin, Viktor Yanukovich, a gosod ei siaradwr Oleksandr Turchynov yn arlywydd dros dro[80] ac Arseniy Yatsenyuk fel Prif Weinidog Wcráin.[81]
Ar ôl diddymu'r Undeb Sofietaidd, etifeddodd Wcráin lu milwrol 780,000 o ddynion gydag arsenal o arfau niwclear - y trydydd-fwyaf yn y byd.[82][83] Ym Mai 1992, llofnododd Wcráin Brotocol Lisbon lle cytunodd y wlad i ildio’r holl arfau niwclear i Rwsia i’w gwaredu ac ymuno â’r Cytundeb Ymlediad Niwclear Niwclear fel gwladwriaeth arfau nad yw’n niwclear. Cadarnhaodd Wcráin y cytundeb ym 1994, ac erbyn 1996 daeth y wlad yn gwbwl rydd o arfau niwclear.[82]
Cymerodd Wcráin gamau cyson tuag at leihau arfau confensiynol hefyd. Llofnododd y Cytundeb Lluoedd Arfog Confensiynol Ewrop, a oedd yn galw am leihau tanciau, magnelau a cherbydau arfog a gostyngwyd lluoedd y fyddin i 300,000. Mae'r wlad yn bwriadu trosi'r fyddin gyfredol sy'n seiliedig ar gonsgript yn llu filwrol gwirfoddol proffesiynol.[84]
Mae'r system o israniadau Wcráin yn adlewyrchu statws y wlad fel gwladwriaeth unedol (fel y nodwyd yng nghyfansoddiad y wlad) gyda chyfundrefnau cyfreithiol a gweinyddol unedig ar gyfer pob uned.
Gan gynnwys Sevastopol a Gweriniaeth Ymreolaethol y Crimea a atodwyd gan Ffederasiwn Rwsia yn 2014, mae Wcráin yn cynnwys 27 rhanbarth: pedwar oblast ar hugain (taleithiau), un weriniaeth ymreolaethol (Gweriniaeth Ymreolaethol y Crimea), a dwy ddinas o statws arbennig - Kiev, y brifddinas, a Sevastopol. Mae'r 24 oblast a Crimea wedi'u hisrannu'n 136 [85] raions (ardaloedd) a bwrdeistrefi dinesig o arwyddocâd rhanbarthol, neu unedau gweinyddol ail lefel.
Wcreineg yw'r brif iaith yng Ngorllewin Wcráin ac yng Nghanol Wcráin, tra mai Rwseg yw'r brif iaith yn ninasoedd Dwyrain Wcráin a De Wcráin. Yn ysgolion SSR Wcrain, roedd dysgu Rwsieg yn orfodol; ar hyn o bryd yn Wcráin fodern, mae ysgolion sydd â Wcreineg fel iaith addysgu yn cynnig dosbarthiadau mewn Rwseg ac yn yr ieithoedd lleiafrifol eraill.[86][87][88][89]
Yn ystod etholiadau mae pleidleiswyr oblasts (taleithiau) Gorllewin a Chanolbarth Wcráin yn pleidleisio'n bennaf dros bleidiau[90][91] ac ymgeiswyr arlywyddol gyda llwyfan diwygio pro-Orllewinol a gwladwriaethol, tra bod pleidleiswyr yn oblasts De a Dwyrain yn pleidleisio dros bleidiau ac ymgeiswyr arlywyddol gyda llwyfan pro-Rwsiaidd a thros gadw'r status quo.[92][93][94][95] Fodd bynnag, mae'r gwahaniaeth daearyddol hwn yn lleihau'n flynyddol.[96][97][98]
Fel trosolwg, mae gan Wcráin 457 o ddinasoedd, mae 176 ohonynt wedi'u labelu'n "oblast", 279 dinas "raion, a dwy ddinas statws cyfreithiol arbennig. Yna ceir 886 o drefi a 28,552 o bentrefi.[99]
Yn ôl Cyfrifiad Wcráin 2001, mae'r Wcreiniaid ethnig yn ffurfio 77.8% o'r boblogaeth. Grwpiau mawr eraill ydy'r Rwsiaid (17.3%), Belarwsiaid (0.6%), Moldofiaid (0.5%), Tatariaid Crimea (0.5%), Bwlgariaid (0.4%), Hwngariaid (0.3%), Rwmaniaid (0.3%), Pwyliaid (0.3%), Iddewon (0.2%), Armeniaid (0.2%), Groegwyr (0.2%) a'r Tatariad eraill (0.2%). Poblogaeth wrban sy gan Wcráin gyda 67.2% yn byw mewn trefi.
Ers degawd a mwy mae argyfwng demograffaidd yn y wlad gyda mwy yn marw na'r genedigaethau. Genedigaethau 9.55 /1,000 poblogaeth, Marwolaethau 15.93 /1,000 poblogaeth. Mae lefel iechyd isel yn y wlad yn cyfrannu at hyn ac yn 2007 roedd y boblogaeth yn gostwng ar y pedwerydd gyflymdra yn y byd.
Telir 12,250 hryvnia (tua £120) am y plentyn cyntaf, 25,000 hryvnia (tua £250) am yr ail a 50,000 hryvnia (tua £500) am y trydydd a phedwerydd. Dim ond mewn chwarter o'r ardaloedd mae cynnydd poblogaeth - i gyd yng ngorllewin y wlad. Rhwng 1991 a 2004, symudodd tua 3.3 miliwn i mewn i Wcráin (o'r Undeb Sofietaidd) ac aeth 2.5 miliwn allan - y rhan fwyaf i'r Undeb Sofietaidd. Yn 2006, roedd tua 1.2 million Canadiaid o dras Wcreiniaid yn arbennig yng ngorllewin Canada.
Yn ôl cyfansoddiad Wcráin, rhoddir mynediad i addysg am ddim i bob dinesydd. Mae addysg uwchradd gyffredinol gyflawn yn orfodol yn ysgolion y wladwriaeth sy'n ffurfio'r mwyafrif llethol. Darperir addysg uwch am ddim mewn sefydliadau addysgol gwladol a chymunedol ar sail gystadleuol.[100] Mae yna hefyd nifer fach o sefydliadau addysg uwchradd ac uwch preifat achrededig.
Oherwydd pwyslais yr Undeb Sofietaidd ar fynediad rhydd ac am ddim o fewn y system addysg - i bob dinesydd, amcangyfrifir bod y gyfradd llythrennedd yn 99.4%.[101] Ers 2005, disodlwyd rhaglen ysgol 11-mlynedd gydag un 12-mlynedd: mae addysg gynradd yn cymryd pedair blynedd i'w chwblhau, gan ddechrau yn chwech oed, ac mae addysg ganol (uwchradd) yn cymryd pum mlynedd i'w chwblhau; yna mae'r uwchradd uchaf yn cymryd tair blynedd.[102] Yn y 12fed blwyddyn o addysg, mae'r myfyrwyr yn sefyll profion canolog, y cyfeirir atynt hefyd fel arholiadau gadael ysgol. Defnyddir y profion hyn yn ddiweddarach ar gyfer derbyniadau i brifysgol.
Mae gan Wcráin economi incwm canolig-is, sef y 55fed economi fwyaf yn y byd yn ôl cynnyrch mewnwladol crynswth / CMC enwol, a'r 40fed-fwyaf gan PPP. Mae'n un o allforwyr grawn mwyaf y byd,[103][104] ac weithiau fe'i gelwir yn "Fasged Bara Ewrop".[105] Fodd bynnag, y wlad yw' un o'r gwledydd tlotaf yn Ewrop ac mae hefyd ymhlith y rhai mwyaf llygredig yn y cyfandir.[106][107]
Yn 2019, cyrhaeddodd y cyflog enwol ar gyfartaledd yn Wcrain € 300 y mis,[108] tra yn 2018, cyfoeth canolrifol Wcráin fesul oedolyn oedd $40, un o'r isaf yn y byd. Roedd tua 1.1% o Iwcraniaid yn byw o dan y llinell dlodi genedlaethol yn 2019,[109] ac roedd diweithdra yn y wlad yn 4.5% yn 2019,[110] tra bod tua 5-15% o boblogaeth Wcrain yn cael eu categoreiddio fel dosbarth canol.[111] Mae dyled llywodraeth Wcráin oddeutu 52% o'i CMC enwol.[112]
Cynhyrcha Wcráin bron pob math o gerbydau cludo a llongau gofod. Allforir awyrennau Antonov a thryciau KrAZ i lawer o wledydd. Mae'r mwyafrif o allforion Wcrain yn cael eu marchnata i'r Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS).[113] Ers annibyniaeth, mae Wcráin wedi cynnal ei asiantaeth ofod ei hun, Asiantaeth Ofod y Wladwriaeth Wcráin (SSAU). Daeth yn gyfranogwr gweithredol mewn archwilio gofod a synhwyro o bell. Rhwng 1991 a 2007, mae Wcráin wedi lansio chwe lloeren a wnaed ganddynt a 101 o gerbydau lansio.[114][115][116]
Mae Wcráin yn cynhyrchu ac yn prosesu ei nwy naturiol a'i betroliwm ei hun. Fodd bynnag, mae'r wlad yn mewnforio'r rhan fwyaf o'i chyflenwadau ynni, ac mae 80% o gyflenwadau nwy naturiol yn cael eu mewnforio'nn bennaf o Rwsia.[117]
Mae Wcráin wedi bod yn wlad allforio ynni net, er enghraifft yn 2011, allforiwyd 3.3% o'r trydan a gynhyrchwyd,[118] ond hefyd yn un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Ewrop.[119] Yn 2011 roedd 47.6% o gyfanswm y trydan a gynhyrchwyd yn dod o ynni niwclear[118] Mae'r gwaith pŵer niwclear mwyaf yn Ewrop, Gwaith Pŵer Niwclear Zaporizhzhia, wedi'i leoli yn Wcrain. Hyd at y 2010au, roedd holl danwydd niwclear (Wraniwm ayb) Wcráin yn dod o Rwsia. Yn 2008 enillodd Westinghouse Electric Company gontract pum mlynedd yn gwerthu tanwydd niwclear i dri adweithydd Wcráinaidd, gan ddechrau yn 2011.[120][121]
Gorsafoedd pŵer thermol glo a nwy a trydan dŵr yw'r ail a'r trydydd math mwyaf o gynhyrchu pŵer yn y wlad.
Yn 2007 Wcráin oedd yr 8fed safle yn Ewrop yn ôl nifer y twristiaid a ymwelodd, yn ôl safleoedd Sefydliad Twristiaeth y Byd.[122] Ceir nifer o atyniadau i dwristiaid: mynyddoedd sy'n addas ar gyfer sgïo, heicio a physgota: arfordir y Môr Du fel cyrchfan boblogaidd yn yr haf; gwarchodfeydd natur gwahanol ecosystemau; eglwysi, adfeilion cestyll a thirnodau pensaernïol a pharciau eraill. Kiev, Lviv, Odessa a Kamyanets-Podilskyi yw prif ganolfannau twristiaeth Wcráin. Arferai twristiaeth fod yn brif gynheiliad economi'r Crimea ond bu cwymp mawr yn nifer yr ymwelwyr wedi 2014.[123]
Saith Rhyfeddod Wcráin a Saith Rhyfeddod Naturiol Wcráin yw'r mannau mwyaf poblogaidd yn Wcráin.
Mae Cristnogaeth Uniongred, y brif grefydd yn y wlad, yn dylanwadu'n drwm ar arferion Wcráin.[124] Mae rolau rhyw hefyd yn tueddu i fod yn fwy traddodiadol, ac mae neiniau a theidiau'n chwarae mwy o ran wrth fagu plant, nag yn y Gorllewin.[125] Mae diwylliant Wcráin hefyd wedi cael ei ddylanwadu gan ei gymdogion dwyreiniol a gorllewinol, a adlewyrchir yn ei phensaernïaeth, ei cherddoriaeth a'i chelf.[126]
Cafodd yr oes Gomiwnyddol ddylanwad eithaf cryf ar gelf a llenyddiaeth Wcráin.[127] Ym 1932, gwnaeth Stalin bolisi gwladwriaethol "realaeth sosialaidd" o fewn yr Undeb Sofietaidd. Roedd hyn yn mygu creadigrwydd a gwahniaeth barn yn fawr. Yn ystod yr 1980au cyflwynwyd glasnost (didwylledd) a daeth artistiaid ac ysgrifenwyr Sofietaidd yn rhydd unwaith eto i fynegi eu barn eu hunain.[128]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.