System ysgrifennu yw'r wyddor Gyrilig, a ddefnyddir heddiw ar gyfer rhai ieithoedd Slafonaidd (Belarwseg, Bwlgareg, Macedoneg, Rwseg, Serbeg ac Wcreineg). Fe'i defnyddir hefyd i ysgrifennu nifer o ieithoedd an-Slafonaidd yn Rwsia a Chanolbarth Asia. Ysgrifennid rhai ieithoedd eraill, megis Aserbaijaneg, yn yr wyddor hon ar adegau yn y gorffennol.
Datblygwyd yr wyddor Gyrilig yn y nawfed ganrif gan ddisgyblion i'r ddau sant, Cyril a Methodius, yn sgil eu hymdrechion i gyflwyno Cristnogaeth i'r pobloedd Slafaidd. Dyma'r rheswm am yr enw.
Llythrennau cyffredin
Mae sawl ffurf wahanol i'r wyddor, ond isod mae tabl o'r llythrennau mwyaf cyffredin. Rhoddir y synau y maent yn eu cynrychioli mewn symbolau IPA.
Teipysgrif | Llawysgrifen | Sain |
---|---|---|
А а | А а | /a/ |
Б б | Б б | /b/ |
В в | В в | /v/ |
Г г | Г г | /g/ |
Д д | Д д | /d/ |
Е е | Е е | /je/ |
Ж ж | Ж ж | /ʒ/ |
З з | З з | /z/ |
И и | И и | /i/ |
Й й | Й й | /j/ |
К к | К к | /k/ |
Л л | Л л | /l/ |
М м | М м | /m/ |
Н н | Н н | /n/ |
О о | О о | /o/ |
П п | П п | /p/ |
Р р | Р р | /r/ |
С с | С с | /s/ |
Т т | Т т | /t/ |
У у | У у | /u/ |
Ф ф | Ф ф | /f/ |
Х х | Х х | /x/ |
Ц ц | Ц ц | /ʦ/ |
Ч ч | Ч ч | /ʧ/ |
Ш ш | Ш ш | /ʃ/ |
Щ щ | Щ щ | /ʃʧ/ |
Ь ь | Ь ь | /ʲ/ |
Ю ю | Ю ю | /ju/ |
Я я | Я я | /ja/ |
Ni chynrichiola'r llythyren ь unrhyw sain penodol. Yn hytrach, mae'n newid sain y llythyren blaenorol, gan ei 'feddalu'. Mewn rhai ieithoedd, mae'r llythyren ъ neu gollnod ’ yn 'caledu' sain y llytheren blaenorol.
Trawslythreniad Cyrilig-Cymraeg
Rwsieg
Felly, byddai "русский" (russkiy sy'n golygu "Rwsieg") yn cael ei drawslythrennu yn Gymraeg fel "rwsci".
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.