iaith Slafonaidd Ddwyreiniol yw'r Wcreineg, sef iaith swyddogol yr Wcráin a phrif iaith yr Wcreiniaid. From Wikipedia, the free encyclopedia
Iaith Slafonaidd Ddwyreiniol yw'r Wcreineg. Hon yw iaith swyddogol Wcráin a phrif iaith yr Wcreiniaid. Siaredir hefyd gan gymunedau Wcreinaidd yng Nghasachstan, Moldofa, Gwlad Pwyl, Rwmania, Lithwania, a Slofacia. Fe'i ysgrifennir gan ddefnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae rhywfaint o gyd-ddealltwriaeth rhwng yr Wcreineg a'r Felarwseg a'r Rwseg, ac ohonyn nhw y tarddodd yn y 12fed a'r 13g. Fel y Felarwseg, mae ynddi lawer o eirfa a fenthyciwyd o'r Bwyleg.[4]
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Slafeg dwyreiniol |
Rhagflaenwyd gan | Rwtheneg |
Rhagflaenydd | Rwtheneg, Hen Rwtheneg |
Enw brodorol | українська мова |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | uk |
cod ISO 639-2 | ukr |
cod ISO 639-3 | ukr |
Gwladwriaeth | Wcráin, Rwsia, Gwlad Pwyl, Canada, Casachstan, Belarws, Rwmania, Slofacia, Serbia, Unol Daleithiau America, Hwngari, Tsiecia, Moldofa |
Rhanbarth | Dwyrain Ewrop, Canolbarth Ewrop |
System ysgrifennu | Yr wyddor Gyrilig |
Corff rheoleiddio | Academi Genedlaethol Gwyddorau Wcráin, Institiwt yr Iaith Wcreineg, Sefydliad Ieithyddiaeth Potebnia, Commissioner for the Protection of the State Language |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Wcreineg yn iaith asiadol (fusional), enwol-gwrthrychol (nominative-accusative), ac mae'n defnyddio arddodiaid i gyfleu cyfeiriad a natur symud (satellite framed). Mae'r iaith yn gwahaniaethu rhwng 'ti' a 'chi', ac mae'n gallu gollwng y goddrych (null-subject). Trefn arferol y frawddeg yw Goddrych-Berf-Gwrthrych (SVO)[5]. Mae trefnau eraill yn gyffredin oherwydd y rhyddid y mae system ffurfdroi'r iaith yn ei ganiatáu.
Mae gan enwau un o 3 chenedl: gwrywaidd, benwyaidd, diryw; maen nhw'n ffurfdroi yn ôl:
Mae ansoddeiriau'n cytuno gydag enwau yn ôl cenedl, cyflwr a rhif.
Ceir 4 amser i'r ferf yn Wcreineg:
Wszystkie czasowniki mają dwa aspekty – dokonany (доконаний) і niedokonany (недоконаний).
Mae'r amser gorberffaith wedi'i golli yn yr Wcreineg modern, fel yn Pwyleg, yn y bôn nid yw'n cael ei ddefnyddio. Erbyn hyn, mae o'n cael ei ystyried yn hynafol. Ar lafar, prin y'i defnyddir o gwbl; dim ond mewn arddull lenyddol y gall ymddangos.
Mae'n bosib gwahaniaethu dau grŵp o dafodieithoedd Wcreineg – gogleddol a deheuol. O fewn y grŵp deheuol ceir dau is-grŵp, gorllewinol a dwyreiniol (gweler y llun)[6]:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.