Dinas yn Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Leeds.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Leeds.
Math | dinas, ardal ddi-blwyf, dinas fawr, tref goleg |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Leeds |
Poblogaeth | 789,194 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 551.7 km² |
Uwch y môr | 51 metr |
Gerllaw | Afon Aire, Leeds and Liverpool Canal, Meanwood Beck |
Cyfesurynnau | 53.7975°N 1.5436°W |
Cod OS | SE297338 |
Daw'r enw o'r enw ar fforest yn nheyrnas Elfed, sef Loidis. Saif ar lan Afon Aire yng Ngorllewin Swydd Efrog gyda chamlesi hanesyddol yn ei chysylltu â Lerpwl a Goole. Sefydlwyd Prifysgol Leeds yno yn 1904.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Leeds boblogaeth o 474,632.[2]
Yn yr Oesoedd Canol cynnar roedd teyrnas Elfed - a gyfeirir yn aml fel Elmet - yn gysylltiedig â'r rhan yma o Swydd Efrog. Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mersia.
Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").
Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol hon hefyd yn "Elmet".
Mae'r deyrnas wedi cael ei choffau gan nifer o feirdd o Gymru o'r 6g hyd y presennol.
Roedd y bardd Ted Hughes hefyd yn ymwybodol iawn o etifediaeth Frythoneg ei sir enedigol a chyhoeddodd lyfr o gerddi a ffotograffiau o'r enw "Remains of Elmet" hefo Fay Godwin ym 1979. Ail-gyhoeddwyd y llyfr ym 1994 gan Faber and Faber dan yr enw "Elmet".
Mae'r ddinas hefyd yn enwog iawn am ei thim pêl-droed fu'n hynod llwyddiannus yn y 60au a'r 70au ac yn enillwyr cyson yn haen uchaf cynghreiriau Lloegr ac yn y cwpannau Ewropeaidd o dan arweiniaeth Don Revie - bu Terry Yorath cyn gapten a rheolwr Cymru yn rhan allweddol o dim a gynhwysai Billy Bremner, Joe Jordan, Peter Lorimer ac eraill. Cafodd y cyfnod cythrublys a ddilynodd ymadawiad Revie pan ddaeth Brian Clough i reoli'r time ei goffau yn llyfr enwog David Peace - 'The Damned United' a wnaethpwyd yn ffilm gyda'r Cymro Michael Sheen yn actio Clough. Bellach mae Leeds United yn chwarae ym mhencampwriaeth Lloegr - sel ail reng y cynghreiriau.
Mae ar y ffordd Ewropeaidd E22.
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.