Frankfurt am Main

From Wikipedia, the free encyclopedia

Frankfurt am Main

Mae Frankfurt am Main yn ddinas yn yr Almaen. Frankfurt yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith Hesse a'r bumed dinas yn yr Almaen o ran poblogaeth ar ôl Berlin, Hamburg, München a Cwlen, gyda poblogaeth o 670,095 yn Rhagfyr 2008.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Frankfurt am Main
Thumb
Thumb
Mathdinas fawr, tref goleg, canolfan ariannol, European City, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Hesse, dinas global 
De-Frankfurt am Main2.ogg 
Poblogaeth775,790 
Sefydlwyd
  • 1 g 
Pennaeth llywodraethMike Josef 
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 
Gefeilldref/iKraków 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolStadtregion Frankfurt 
SirDarmstadt Government Region 
Gwlad Yr Almaen
Arwynebedd248.31 km² 
Uwch y môr112 ±1 metr 
GerllawAfon Main 
Yn ffinio gydaOffenbach am Main, Wetteraukreis, Main-Kinzig-Kreis, Offenbach, Main-Taunus-Kreis, Hochtaunuskreis, Groß-Gerau, Bad Vilbel 
Cyfesurynnau50.1106°N 8.6822°E 
Cod post60308–60599, 65929–65936 
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolMagistrat of Frankfurt 
Corff deddfwriaetholcity council assembly of Frankfurt 
Pennaeth y LlywodraethMike Josef 
Thumb
Cau

Gelwir y ddinas yn Frankfurt am Main oherwydd ei lleoliad ar Afon Main ac i'w gwahaniaethu oddi wrth y Frankfurt arall, ar Afon Oder. Fel rheol pan gyfeirir at "Frankfurt", Frankfurt am Main a olygir. Frankurt yw'r drydedd canolfan ariannol yn Ewrop ar ôl Llundain a Paris, ac yn 2001 cyhoeddwyd mai Frankfurt oedd dinas gyfoethocaf Ewrop. Mae'r maes awyr ymhlith y prysuraf yn Ewrop.

Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i sefydliadau Rhufeinig yn y ganrif gyntaf. O 855 hyd 1792, Frankfurt oedd dinas etholiadol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd y ddinas ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dinistriwyd y canol hanesyddol.

Treuliodd y Cymro Richard Davies (a fyddai nes ymlaen yn esgob Llanelwy ac wedyn Tyddewi) gyfnod o alltudiaeth yn y ddinas o 1555 hyd 1558 am ei grefydd.

Mae gan y ddinas nifer o dimau peldroed; yr enwocaf ohonynt yw Eintracht Frankfurt.

Mae'n adnabyddus am Ffair Lyfrau Frankfurt a gynelir bob blwyddyn ers 1949 ond sydd á'u gwreiddiau yn y Canol Oesoedd.

Pobl enwog o Frankfurt am Main

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.