Aachen

dinas, Yr Almaen From Wikipedia, the free encyclopedia

Aachen
Remove ads

Dinas hynafol yng ngorllewin yr Almaen yw Aachen (Ffrangeg: Aix-la-Chapelle, Iseldireg: Aken). Fe'i lleolir yn nhalaith Gogledd Rhein-Westphalia ger y ffin bresennol â Gwlad Belg a'r Iseldiroedd. Mae'n ganolfan ddiwydiannol gyda gweithfeydd dur a haearn. Sefydlwyd prifysgol dechnegol yno ym 1870.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Thumb
Eglwys gadeiriol Aachen o'r de

Aachen oedd prifddinas ogleddol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn nheyrnasiad Siarlymaen. Cafodd Siarlymaen ei gladdu yn yr eglwys gadeiriol a godwyd ganddo yn 796, yn y flwyddyn 814, ac arferid coroni'r Ymerodron Glân Rhufeinig yno ar ôl hynny.

Fideo byr o blasty'r Siarlymaen yn Aachen

Cafodd y ddinas ei difrodi'n sylweddol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Hi oedd y ddinas fawr gyntaf yn yr Almaen i gael ei chipio gan y Cynghreiriaid, ym 1944.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads