From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifddinas, porthladd a'r ail ddinas fwyaf poblog yn Ne Affrica yw Tref y Penrhyn (Saesneg: Cape Town; Affricaneg: Kaapstad, /ˈkɑːpstɑt/; Xhosa: iKapa) a elwir ar lafar yn "Fam Ddinas".[1] Mae'n brifddinas daleithiol Gorllewin y Penrhyn, yn ganolfan bwrdeistref Dinas Tref y Penrhyn ac yma y lleolir Senedd y wlad.[2][3] Lleolir Tref y Penrhyn ym mhen gogleddol Gorynys y Penrhyn yn ne orllewin De Affrica, tua 50 km i'r gogledd o Benrhyn Gobaith Da. Saif ar droed Mynydd y Bwrdd, ar arfordir Bae'r Bwrdd yn ne Cefnfor yr Iwerydd. Mae poblogaeth Tref y Penrhyn oddeutu 3,776,313 (2021), ond Johannesburg yw dinas fwyaf poblog yn Ne Affrica. Ceir dwy brifddinas arall yn Ne Affrica: prifddinas cyfraith y wlad yw Bloemfontein a phrifddinas yr arlywydd, sef Gauteng (Pretoria).[4]
Math | dinas â phorthladd, endid tiriogaethol (ystadegol), dinas fawr, legislative capital, national capital |
---|---|
Enwyd ar ôl | Penrhyn Gobaith Da |
Poblogaeth | 3,776,313 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Geordin Hill-Lewis |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Aachen, Haifa, Hangzhou, Nice, St Petersburg, Funchal, Antwerp, Pune, San Francisco, Buenos Aires, Johannesburg, İzmir, Monterrey |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Western Cape |
Sir | Sir Tref y Penrhyn |
Gwlad | De Affrica |
Arwynebedd | 2,454.72 km² |
Uwch y môr | 5 metr |
Gerllaw | Bae'r Bwrdd |
Cyfesurynnau | 33.9253°S 18.4239°E |
Cod post | 8001, 8000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Cape Town |
Pennaeth y Llywodraeth | Geordin Hill-Lewis |
Enwyd y ddinas yn Brifddinas Dylunio'r Byd, 2014 gan Gyngor Rhyngwladol Cymdeithasau Dylunio Diwydiannol.[5] Yn yr un flwyddyn, enwyd Tref y Penrhyn y lle gorau yn y byd i ymweld ag ef - a hynny gan The New York Times a The Daily Telegraph.[6][7] Mae Cape Town hefyd wedi bod yn ddinas letyol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1995 a Chwpan y Byd FIFA 2010, ac mae'n cynnal cymal Affrica Rygbi'r Byd (Cyfres 7) yn flynyddol.[8]
Oherwydd ei bwysigrwydd fel porthladd lan 'Table Bay', fe'i datblygwyd gan Gwmni Dwyrain India'r Iseldiroedd (VOC) fel gorsaf gyflenwi ar gyfer llongau o'r Iseldiroedd sy'n hwylio i Ddwyrain Affrica, India, a'r Dwyrain Pell. Fe wnaeth dyfodiad Jan van Riebeeck ar 6 Ebrill 1652 sefydlu Gwladfa Cape VOC, yr anheddiad Ewropeaidd parhaol cyntaf yn Ne Affrica. Hyd nes Rhuthr Aur Witwatersrand a datblygu Johannesburg, Cape Town oedd y ddinas fwyaf yn Ne Affrica.
Daethpwyd o hyd i'r olion dynol cynharaf yn y rhanbarth yn Ogof Peers yn Fish Hoek ac maent yn dyddio rhwng 15,000 a 12,000 (CP).[9] Ychydig sy'n hysbys o hanes preswylwyr cyntaf y rhanbarth, gan nad oes hanes ysgrifenedig o'r ardal cyn iddo gael ei grybwyll gyntaf gan y fforiwr Portiwgalaidd Bartolomeu Dias ym 1488, sef yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ardal, a'i enwi'n "Benrhyn y Stormydd" (Cabo das Tormentas). Cafodd ei ailenwi'n ddiweddarach gan John II o Bortiwgal yn "Benrhyn Gobaithe" (Cabo da Boa Esperança) oherwydd y gobaith o fyd gwell, pan agorwyd y llwybr i India a'r Dwyrain. Cofnododd Vasco da Gama iddo weld Penrhyn Gobaith ym 1497.
Yn 1510, ym Mrwydr Salt River, lladdwyd Francisco de Almeida a chwe deg pedwar o'i ddynion a threchwyd ei blaid gan yr !Uriǁ'aekua ("Goringhaiqua" mewn sillafu bras yn yr Iseldireg) - pan ddefnyddiodd wartheg wedi'u hyfforddi'n arbennig.[10] Roedd yr !Uriǁ’aekua yn un o lwythi'r Khoekhoe, fel y’u gelwir, yn yr ardal. Ar ddiwedd yr 16g roedd llongau o Ffrainc, Denmarc, yr Iseldiroedd, Lloegr a Phortiwgal (o Bortiwgal yn bennaf) yn parhau i angori yno'n rheolaidd, ym Mae'r Bwrdd ar eu ffordd i'r India. Roeddent yn masnachu tybaco, copr a haearn gyda llwythi'r Khoekhoe, yn gyfnewid am gig ffres a phethau eraill.
Sefydlwyd Tref y Penrhyn ym 1652 gan y llywodraethwr Jan van Riebeeck, Cadlywydd Trefedigaeth y Penrhyn, yn orsaf gyflenwi ar fôr-lwybr Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain. Hon oedd y wladfa Ewropeaidd gyntaf yn Ne Affrica. Meddiannwyd y ddinas gan yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1795. Dychwelodd i'r Iseldirwyr ym 1803, ond cafodd ei hailgipio gan y Prydeinwyr ym 1806 a'i gwneud yn brifddinas Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Da. Daeth Tref y Penrhyn yn y brifddinas ddeddfwriaethol genedlaethol, a Pretoria yn y brifddinas weinyddol, pan ffurfiodd Undeb De Affrica ym 1910. Roedd yn brifddinas Talaith y Penrhyn o 1910 hyd 1994, ac yn brifddinas Dwyrain y Penrhyn ers hynny.
Un o ganolfannau economaidd mwyaf Affrica yw Tref y Penrhyn. Ceir, nwyddau lledr a phlastig, a dillad yw'r prif ddiwydiannau, ac mae puro olew, bwyd a gwin, offer peirianyddol, a chemegion a gwrtaith i gyd yn ddiwydiannau pwysig.
Allforir aur, diemyntau a ffrwythau gan y porthladd. Hwn yw un o ddociau sych mwya'r byd, ac mae atgyweirio llongau yn ddiwydiant pwysig. Mae rhan fawr o ardal y dociau bellach yn ganolfan fasnachol a thwristaidd ar lan y dŵr gydag amgueddfeydd, marchnadau crefftau, a bwytai.
Yn 2011 roedd Cynnyrch mewnwladol crynswth (neu CMC) y brifddinas yn UD US$ 56.8 biliwn gyda CMC y pen o US$ 15,721; o'i gymhary a CMC y pen o US$ 31,148 Cymru.[11]
Trigai dros 3.7 miliwn o bobl yn yr ardal fetropolitanaidd, yn ôl cyfrifiad 2011. Tref y Penrhyn felly yw'r ddinas ail fwyaf boblog yn Ne Affrica ar ôl Johannesburg. Mae 42.4% o'r boblogaeth yn bobl liw'r Penrhyn, 38.6% yn Affricanwyr Duon, 15.7% yn groenwyn, 1.4% yn Indiaidd neu Asiaidd, a 1.9% o hil neu grŵp ethnig arall. Affricaneg, Xhosa a Saesneg yw prif ieithoedd y ddinas.[12]
Mae Tref y Penrhyn nid yn unig yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid yn Ne Affrica, ond yn un o'r cyrchfannau pwysicaf yn Affrica gyfan. Mae hyn oherwydd ei hinsawdd fwyn, ei lleoliad naturiol, dramatig a'i seilwaith modern. Ceir sawl nodwedd naturiol adnabyddus sy'n denu twristiaid, yn fwyaf arbennig Bwrdd y Mynydd, sy'n ffurfio rhan fawr o Barc Cenedlaethol Bwrdd y Mynydd ac sy'n rhan ôl o Fowlen y Ddinas.[13] Gellir cyrraedd pen y mynydd naill ai trwy heicio i fyny, neu trwy gymryd rhaffbont y Table Mountain Cableway.[14]
Cydnabyddir Cape Point fel y pentir dramatig ar ddiwedd Penrhyn Cape. Mae llawer o dwristiaid hefyd yn gyrru ar hyd Chapman's Peak Drive, ffordd gul sy'n cysylltu Noordhoek â Hout Bay, i gael golygfeydd o Gefnfor yr Iwerydd a mynyddoedd cyfagos. Mae'n bosibl naill ai gyrru neu heicio i fyny Signal Hill i gael golygfeydd agosach o Fowlen y Ddinas a Mynydd y Bwrdd
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.