Metel coch yw copr sy'n gynhwysyn pres ac efydd. Mae e'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Cu
a'r rhif atomig 29.
Mwynglawdd Copr Y Gogarth Fawr, Cymru - mwynglawdd cynhanes mwya'r byd | |
Enghraifft o'r canlynol | elfen gemegol, sylweddyn syml, chalcophile element |
---|---|
Math | deunydd, meddyginiaeth, metel |
Lliw/iau | browngoch |
Deunydd | chalcopyrite, chalcocite, covellite, bornite, tetrahedrite-(Cu), digenite, malachite, azurite, cuprite, chrysocolla, tennantite-(Cu), dioptase, enargite |
Màs | 63.546 ±0.003 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | Cu |
Dyddiad darganfod | c. Mileniwm 7. CC |
Symbol | Cu |
Rhif atomig | 29 |
Electronegatifedd | 1.9 |
Cyflwr ocsidiad | 1.9 |
Rhan o | proteinau copr, elfen cyfnod 4, Elfen Grŵp 11 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gydag ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu. Gwneir defnydd sylweddol o gopr mewn electroneg, gan ei fod yn ei ffurf bur yn dargludo gwres a thrydan yn dda.
Mae'r enw yn dod o'r ynys Cyprus, lle cafodd copr ei gloddio yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig. Mwyngloddiwyd copr ers c. 8000 CC a'i mwyndoddi a'i siapio tua c. 5000 CC.
Mae galwad uchel am gopr wedi achosi codiad mawr mewn pris copr ar y marchnadoedd rhyngwladol ers 2000.
Mae i fetel copr lliw coch, oren neu frown fel arfer, am fod haen o amhureddau (megis ocsidau copr) yn ffurfio lle mae copr yn dodi gyswllt ag aer. Er hyn, lliw pinc hufenog sydd gan gopr pur. Ynghyd ag Osmiwm (glas) ac Aur, mae'n un o'r unig dri metel elfennol nad yw'n llwyd neu'n arian ei liw; daw'r lliw llwyd o'r môr electronau sy'n gallu amsugno ac ail-allyrru golau ar ystod o donfeddi. Mae lliw anarferol Copr yn ganlyniad i'w strwythr electronig unigryw. Yn ôl rheol Madelung, dylid llenwi'r is-blisgyn 4s cyn llenwi'r plisgyn 3d, ond mae Copr yn eithriad i'r rheol gan fod ganddo'r strwythur (Ar) 3d 10 4s 1 (hynny yw, mae'r is-blisgyn 4s yn hanner llawn, a'r 3d yn llawn). Mae lefel egni un photon o olau glas neu fioled yn cyfateb i'r naid rhwng y plisgyn 3d a'r plisgyn 4s. Felly mae'n amsugno golau glas a fioled wrth ddyrchafu electronnau i blisgyn 4s, gan rhoi lliw coch iddo gan fod y golau coch yn cael ei adlewyrchu. Mae effaith tebyg i'w weld gydag electronau 5s/4d mewn Aur. Yn eu cyflyrau hylifol, mae arwyneb copr ac aur yn ymddangos yn wyrdd os nad oes golau yn disgleirio arno o'r tu allan, ond dan olau cryf mae lliw pinc copr yn dal i'w weld.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.