From Wikipedia, the free encyclopedia
System gysylltiedig o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, sydd ar gael i'r cyhoedd, yw'r rhyngrwyd ac sy'n gwasanaethu biliynau o ddefnyddwyr. Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwys lluniau, sain, fideo a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Trosglwyddir y data hyn gyda'r safon Protocol Rhyngrwyd (IP). Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y rhyngrwyd yw'r we fyd-eang (WWW) ac e-bost, a hefyd gwasanaethau sgwrsio a throsglwyddo ffeiliau. Mae'r defnyddrwyd ('usenet' neu 'newsnet') hefyd yn bodoli ar y rhyngrwyd, ond nid mor boblogaidd bellach. Hyd at ddiwedd y 2000au roedd angen cyfrifiadur i gysylltu â'r rhyngrwyd, ond yna gwelwyd y cyfryngau traddodiadol i gyd yn cael eu hailbobi i gario rhan o'r rhyngrwyd e.e. y ffôn, systemau cerdd, ffilm a'r teledu. Gwelwyd hefyd cyhoeddwyr yn addasu ar gyfer y dechnoleg newydd er mwyn dosbarthu eu cynnyrch; yng Nghymru er enghraifft bu Gwasg y Lolfa'n flaenllaw iawn yn gwerthu e-lyfrau a Golwg360 yn bapur newydd digidol.
Nid yw'r rhyngrwyd a'r we fyd-eang yn gyfystyr. Casgliad o ddogfennau hyperdestun yw'r we, a defnyddir y rhyngrwyd (sy'n llawer mwy na'r we) i gael mynediad i'r dogfennau hyn.
Crewyd y rhyngrwyd yn yr Unol daliaethau America ar ffurf rhwydwaith o gyfrifiaduron yn 1969 gan adran amddifynnol y llywodraeth. Pwmpiwyd arian i'r cynllun gan y National Science Foundation (ac arian preifat) yn y 1980au a chysylltwyd y cyfan gan linell ffôn. Erbyn 2012 roedd 2.4 biliwn o bobl ledled y byd - dros draean poblogaeth y byd - wedi defnyddio gwasanaethau'r rhyngrwyd.[1]
Cafodd y We fyd-eang ei chreu yn CERN yn y Swistir yn yr 1990'au gan Sais o'r enw Tim Berners-Lee i gysylltu gwyddonwyr gyda'i gilydd. Mae'r enw "net" yn dod o'r term Saesneg llawn "the internet" a'r gair "internet" yn ei dro'n dalfyriad o "inter-" a "networking" i creu "internetworking" (rhyngrwydweithio).[2] Defnyddir priflythyren yn yr enw ("y Rhyngrwyd") a llythyren fach pan fo'r gair yn ansoddair "marchnata rhyngrwyd" yn Saesneg ac yn y Gymraeg.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.