pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Blaen-y-coed.[1] Fe'i lleolir ar ffordd wledig tua 9 milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin a thua 4 milltir i'r gorllewin o bentref Cynwyl Elfed, yng ngogledd y sir.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9158°N 4.4028°W |
Cod OS | SN348271 |
Cod post | SA33 |
Mae'r pentref yn cynnwys 17 tŷ, Capel, blwch post a chwpwl o ffermydd cyfagos. Mae hefyd yn gartref i safle gwersylla a charafanio Woodland Rise.[2]
Ganed y bardd Howell Elvet Lewis (Elfed) tua 2 filltir o'r pentref yn 1860. Roedd yn byw yn ei phlentyndod mewn bwthyn o'r enw 'Y Gangell', sydd nawr yn amgueddfa o'i fywyd. Roedd yn pregethu yn yr ardal a chapel Blaen-y-coed oedd capel y teulu. Pregrethwyd ei pregeth gyntaf yng nghapel Pen-y-bont. Roedd Elfed yn derbyn ei addysg gynnar yn festri'r Capel a cyn hynny yn derbyn ei addysg mewn llofft stabl un o'r ffermydd.[3]
Mae gan y capel ffenestr coffa oedd yn rhodd o Gapel Gymraeg Annibynwyr Kings Cross (Llundain) a gaeodd i lawr. Mae Elfed wedi cael ei gladdu yn fynwent y capel.[4][5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.