enwad Cristnogol yng Nghymru ac yn Lloegr ynghynt From Wikipedia, the free encyclopedia
Eglwysi Cristnogol Protestannaidd yw'r Annibynwyr (a'u gelwir hefyd yn eglwysi Annibynnol neu'n eglwysi Cynulleidfaol). Defnyddir yr enw Annibynwyr heddiw i gyfeirio at yr eglwysi Cristnogol hynny sy'n gysylltiedig ag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Mae'r Annibynwyr yn rhan o'r traddodiad Cristnogol Diwygiedig ac maent yn arddel yr egwyddor fod pob cynulleidfa leol yn annibynnol oddi ar ei gilydd ac yn hunanlywodraethol dros eu materion a'u penderfyniadau eu hunain. Rhai o Annibynwyr amlycaf hanes Cymru yw John Penri, Vavasor Powell, Stephen Hughes, George Lewis, Edward Williams, Gwilym Hiraethog ac R. Tudur Jones.
Dechreuodd hanes yr Annibynwyr yng Nghymru yn gynnar ar ôl y diwygiadau mawr a fu yn Ewrop yn ystod yr 16g.
Mae tua saith mil ar hugain o aelodau yn perthyn i'r eglwysi sy'n perthyn i Undeb yr Annibynwyr. Yr Undeb hwn sy'n cydlynu gweithgarwch yr eglwysi, ond nid yw yn eu llywodraethu gan mai cred yr Annibynwyr yw mai aelodau pob eglwys unigol sy'n gyfrifol ac i benderfynu ar drefniadaeth y gynulleidfa.
Credir mai Annibynnwr cyntaf Cymru oedd John Penri, Piwritan o Frycheiniog a ddienyddiwyd yn 1593 am herio’r drefn eglwysig, ond tua chanol yr 17g y dechreuodd Piwritaniaeth fwrw ei gwreiddiau yng Nghymru. Corfforwyd yr eglwys gynulleidfaol gyntaf ar dir Cymru yn eglwys blwyf Llanfaches, Sir Fynwy, yn Nhachwedd 1639. Cyfarfu’r gynulleidfa fechan honno o dan weinidogaeth Walter Cradoc, Piwritan dysgedig o Fynwy, ac yn ôl atgofion ei gyd-Biwritaniaid, Morgan Llwyd o Wynedd a William Erbury, yr oedd yno gymdeithas wresog, seiadu brwd a chanu salmau nwyfus. Byrhoedlog fu'r sefyllfa hynny. Ym 1642, dechreuodd Rhyfeloedd Cartref Lloegr rhwng Siarl I a’i Senedd, a chan mai gyda’r brenin yr oedd cydymdeimlad y rhelyw o bobl Cymru, bu’n rhaid i nifer o’r Piwritaniaid ffoi i Loegr.
Yn ddiweddarach, bu’r cysylltiadau a wnaed gyda phobl o argyhoeddiadau tebyg yn Lloegr o fantais i Biwritaniaid Cymru. Ym 1650, ychydig dros flwyddyn wedi i’r Seneddwyr ddienyddio Siarl I, cyflwynwyd Deddf Taenu’r Efengyl yng Nghymru a sicrhaodd fod holl eiddo ac adnoddau Eglwys Lloegr yng Nghymru o dan reolaeth comisiwn o Biwritaniaid. Yn ogystal, roedd pwyllgor o weinidogion Piwritanaidd yn gyfrifol am enwebu gweinidogion i’r plwyfi. Bu’r ddeddf mewn grym am dair blynedd, ac er bod mesur ei dylanwad yn destun trafod, nid oes amheuaeth iddi ledu’r Efengyl yn ei gwedd Biwritanaidd i blwyfi na chawsant gyfle i’w chlywed cyn hynny, er mai cyfyng ar y cyfan fu ei dylanwad. Ceir tystiolaeth o’r lledaeniad hwn yn yr eglwysi newydd a gorfforwyd yn ystod y 1650au mewn mannau megis Capel Isaac, y Cilgwyn yng Ngheredigion, Llanigon ym Mrycheiniog, Abertawe, Merthyr Tudful a Phwllheli.
Oherwydd yr anhrefn a ddilynodd farwolaeth Oliver Cromwell ym Medi 1658, gwahoddwyd Siarl II, mab Siarl I, i orsedd Lloegr. Glaniodd y brenin newydd yn Dover ym mis Mai 1660, a daeth newid mawr i sefyllfa’r Piwritaniaid. Rhoddwyd rheolaeth yr Eglwys yn nwylo disgyblion William Laud, Archesgob Caergaint a ddienyddiwyd yn ystod y Rhyfeloedd Cartref am gefnogi’r brenin ac erlid ei wrthwynebwyr. Rhoddwyd hyd at 24 Awst 1662 i weinidogion Piwritanaidd ymrwymo i gydymffurfio â’r Llyfr Gweddi Gyffredin, neu adael eu gofalaethau. Diswyddwyd 130 o weinidogion Piwritanaidd yng Nghymru, 30 ohonynt yn Annibynwyr.
Bu pasio Ddeddf Unffurfiaeth 1662 yn ddechrau ar gyfnod o erlid y bobl hynny a ddewisai ymneilltuo o’r Eglwys. Gwaharddwyd eu hoedfaon, ac fel hyn y disgrifiai Jeremy Owen, gweinidog eglwys Henllan Amgoed, y driniaeth a gawsant dan ddwylo’r awdurdodau: "Llawer a fwriwyd yng ngharchar: llawer a ysbeiliwyd o’i meddiannau: yr hyn a ddioddefasant yn llawen: ie, llawer a oddefasant angau".
Cafwyd rhywfaint o seibiant ym 1672, pan gyhoeddodd Siarl II ei Ddatganiad yn cynnig rhyddid i Ymneilltuwyr addoli ar yr amod eu bod yn cofrestru eu mannau cynnull ac yn sicrhau trwyddedau i’w pregethwyr. Blwyddyn yn unig y parodd yr egwyl hon, a pharhau wnaeth yr erlid tan ddiwedd y 1680au.
Roedd yr eglwysi Annibynnol yn dal ati i addoli er gwaethaf pob rhwystr, a chefnogwyd y cynulleidfaoedd gan arweinwyr mentrus a dygn. Roedd Stephen Hughes yn weithgar yr ardal rhwng Abertawe a Phencader, yn ogystal â Henry Maurice ym Mrycheiniog a Hugh Owen ym Meirionnydd. Erbyn 1675, yr oedd deuddeg eglwys Annibynnol yng Nghymru. Eglwysi canghennog oedd amryw ohonynt, ac felly, mewn gwirionedd, roedd llawer mwy na dwsin o gynulleidfaoedd yn ymgynnull i addoli.
Ym 1689, daeth rhywfaint o ryddhad i’r Ymneilltuwyr. Buont yn gefnogol i’r ymgyrch i ddod â William, Tywysog Orange, i Loegr i gymryd lle ei dad-yng-nghyfraith ac olynydd Siarl II, y brenin Iago II. Coronwyd William ym 1688, a gwobrwywyd yr Ymneilltuwyr am eu cefnogaeth gyda Deddf Goddefiad. Dan y ddeddf honno, rhoddwyd rhyddid cydwybod i’r Ymneilltuwyr ar yr amod iddynt ddatgan eu cydsyniad â diwinyddiaeth Eglwys Loegr, cofrestru eu mannau addoli a sicrhau trwyddedau i’w pregethwyr. Ond er gwaethaf y tamaid rhyddid a roddai’r Ddeddf Goddefiad iddynt, cawsant eu trin fel dinasyddion eilradd o dan gyfyngiadau Deddfau’r Prawf a’r Corfforaethau a ddaeth i rym o dan Siarl II. Roedd y deddfau hynny’n eu hatal rhag dod yn ddylanwadol o fewn y gymdeithas.
O dan ryddid bregus y Ddeddf Goddefiad y dechreuwyd adeiladu’r capeli Ymneilltuol cyntaf. Agorwyd capeli Brynberian a Cross Street, Y Fenni, ym 1690, ond parhâi’r mwyafrif i gyfarfod mewn tai preifat, ysguboriau a mannau cyffelyb. Cyfnod o gynnydd graddol a gafwyd ar droad y 18g. Ym 1715 yr oedd gan Annibynwyr Cymru 26 o eglwysi gyda rhyw 7,640 o aelodau. Cafwyd cynnydd hefyd yn nifer y gweinidogion, ac oherwydd nad oedd ganddynt hawl o dan y Deddfau Prawf a Chorfforaethau i fynychu prifysgolion, derbyniasant eu haddysg mewn academïau preifat.
Er gwaethaf y cynnydd hwn, ni welwyd eto lacio ar y cyfyngiadau oedd ar Ymneilltuwyr fel dinasyddion, a chafwyd enghreifftiau pellach o erlid. O ganlyniad, daeth yr Annibynwyr yn bobl ofalus a gwyliadwrus, yn meddu argyhoeddiadau dyfnion ond dim ond ychydig o egni efengylaidd. Fel y dywed R. Tudur Jones, "caiff dyn yr argraff mai pobl dda oedd Annibynwyr y ddeunawfed ganrif, pobl dawel eu rhodiad, uchel eu safonau moesol, deallus eu hamgyffrediad o wirioneddau’r Ffydd ac yn ymroi i gyfoethogi a dyfnhau eu bywyd ysbrydol. . . Cadw’r fflam ynghyn mewn dyddiau tywyll a merfaidd oedd eu braint hwy, ac ni fuont yn anffyddlon i’r dasg honno".
Ym 1735, cafodd dyn ifanc o Sir Frycheiniog o’r enw Howel Harris dröedigaeth mewn gwasanaeth yn eglwys Talgarth. Wedi ei argyhoeddi o wirioneddau’r Efengyl, aeth Harris i’r priffyrdd a’r caeau i’w chyhoeddi. Yn ddiweddarach, daeth tröedigaeth Harris i’w gweld fel man cychwyn y Diwygiad Efengylaidd yng Nghymru.
Er bod Harris a nifer dda o’r pregethwyr efengylaidd eraill yn perthyn i’r Eglwys Sefydledig, cawsant gryn gefnogaeth gan yr Ymneilltuwyr. Gwelwyd dylanwad y Diwygiad nid yn unig ar eglwysi Annibynnol a oedd eisoes yn bodoli cyn i’r Diwygiad ddechrau, ond hefyd wrth i seiadau Methodistaidd bellhau oddi wrth yr Eglwys Sefydledig a throi’n eglwysi Annibynnol newydd.
Ynghyd ag egni’r Diwygiad Efengylaidd, daeth diwydrwydd a dyfeisgarwch. Yn y cyfnod rhwng 1770 a 1830, trefnodd yr Annibynwyr Gyrddau Chwarter sirol er mwyn hwyluso cydweithrediad rhwng eglwysi. Bu creu rhwydwaith o gymanfaoedd pregethu hefyd yn llwyfan effeithiol i gyflwyno’r Efengyl i’r cyhoedd.
Ar droad y 19eg ganrif, dechreuodd yr Ysgol Sul ennill poblogrwydd. O fewn cenhedlaeth, daeth pob eglwys i drefnu Ysgol Sul, a daeth yn sefydliad dylanwadol. Trodd gwerin Cymru yn werin lafar; galluogwyd hi i fynegi ei meddwl yn glir a huawdl. Ymhen rhai blynyddoedd, daethpwyd i weld arwyddocâd hynny ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru.
Cynhyrchwyd corff enfawr o lenyddiaeth ar gyfer y werin lythrennog hon, ac ymddangosodd llu o gyfnodolion misol, rhai’n enwadol ac eraill yn gyd-enwadol. Y Dysgedydd oedd y misolyn cyntaf a gyhoeddwyd gan yr Annibynwyr. Fe’i golygwyd gan Cadwaladr Jones o Ddolgellau, ac ymddangosodd am y tro cyntaf ym 1821.
Bu hwn hefyd yn gyfnod o genhadu dros y môr. Bu'r Cymry yn arbennig o gefnogol i waith Cymdeithas Genhadol Llundain a sefydlwyd ym 1795, ac y mae cysylltiadau gyda Madagasgar, un o feysydd cenhadol cyntaf y Cymry, yn parhau hyd heddiw.
Wrth i’r Annibynwyr gynyddu eu gwaith cenhadol, cafwyd datblygiad yn eu diwinyddiaeth. Ers yr 17g, yr oedd y mwyafrif o Annibynwyr wedi bod yn Galfiniaid cadarn, yn credu bod achubiaeth yn dod yn llwyr trwy ras Duw. Ond yr oedd eu sêl genhadol yn codi cwestiwn: sut y gellid gwahodd pawb yn ddiwahân "i gofleidio Crist fel Gwaredwr" tra ar yr un pryd honni nad oedd gan yr unigolyn unrhyw ran yn ei iachawdwriaeth ei hun? Cafwyd dadlau brwd, ac eto, nid oedd yr Annibynwyr yn barod i lwyr gofleidio’r gred Arminaidd fod achubiaeth yn gywaith rhwng Duw a’r pechadur, yn enwedig wedi i’r Methodistiaid Wesleaidd, gyda’u diwinyddiaeth lwyr Arminaidd, sefydlu cyfundeb yng Nghymru ym 1800.
O ganol yr holl ddiwinydda ar droad y 19eg ganrif, ymddangosodd llwybr canol ar ffurf 'Calfinyddiaeth Fodern', neu 'Sustem Newydd', Edward Williams o Rotherham. Yn fab i Galfinydd a Weslead, dadleuai Williams fod yr Iawn a dalodd Crist ar y Groes yn ddigonol i bawb ond yn effeithiol i nifer neilltuol. Ar y naill law, dadleuai bod cyfrifoldeb ar bob unigolyn i ymateb i’r Efengyl, ond, ar y llaw arall credai mai Duw yn unig oedd yn haeddu’r clod am yr achubiaeth. Bu Edward Williams yn ddylanwad ar do ifanc o weinidogion yng Nghymru, ac yn eu plith yr oedd John Roberts o Lanbrynmair, David Davies o Bant-teg a Michael Jones o Lanuwchllyn. Erbyn canol y 19eg ganrif, ‘Sustem Newydd’ Edward Williams oedd y prif safbwynt diwinyddol ymhlith Annibynwyr Cymru.
Fodd bynnag, y newid mwyaf amlwg a welwyd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif oedd y cynnydd aruthrol yn nifer yr eglwysi ledled Cymru. Rhwng 1800 a 1850, amcangyfrifir bod achos newydd wedi ei sefydlu yng Nghymru, ar gyfartaledd, bob pum wythnos. Yn 1775 yr oedd tua 100 o eglwysi Annibynnol yng Nghymru; erbyn 1851, yr oedd 684 ohonynt. Cafwyd cynnydd ar raddfa debyg yn y weinidogaeth, o 46 gweinidog ym 1800, i 319 ym 1851. Ni ddylid rhoi’r argraff bod hwn yn gynnydd cyson. Trwy gydol y 19eg ganrif, bu cyfres o ddiwygiadau crefyddol, pob un gyda’i gylch a’i ddylanwad ei hun. Beth bynnag am hynny, gwelwyd cynnydd tebyg ymysg y Methodistiaid Calfinaidd a’r Bedyddwyr. Roedd arwyddion bod yr Anghydffurfwyr yn datblygu’n garfan ddylanwadol dros ben yng Nghymru.
Wrth i nifer yr Annibynwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o’u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai’n cyfateb i’w delfrydau.
Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i’w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau llenyddol a grwpiau drama, trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul.
Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf yn Aberdâr ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y tonic sol-ffa yn allweddol i’r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa.
Oherwydd iddynt ymddangos yng Nghymru yng nghyfnod y chwyldro Piwritanaidd, bu'r Ymneilltuwyr yn ymhél â gwleidyddiaeth o'u dyddiau cynnar. Collwyd rhywfaint o’r agwedd wleidyddol honno yn ystod y 18g, ond cafwyd adfywiad wrth iddynt fagu hyder yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Dechreuasant ymgyrchu yn erbyn y Deddfau Prawf a Chorfforaethau a'u cadwant yn ddinasyddion eilradd, ac yn erbyn anghyfiawnder y drefn gaethwasiaeth.
Carreg filltir bwysig yn neffroad gwleidyddol yr Anghydffurfwyr oedd cyhoeddi'r Llyfrau Gleision ym 1847. Er mai adroddiadau ar addysg yng Nghymru oedd y Llyfrau Gleision, yr oeddent yn cynnwys ensyniadau difrifol ynghylch moesoldeb y Cymry a gwerth yr iaith Gymraeg a chafwyd adwaith ffyrnig iddynt o du’r Anghydffurfwyr ac eraill.
Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i’w gwneud yn 'enwad' cyfartal â’r Ymneilltuwyr yn hytrach nac yn eglwys wladol. I ddechrau, ymunodd Ymneilltuwyr Cymru gyda’u cymdogion yn Lloegr i alw am ddatgysylltu’r Eglwys yn gyfan gwbl, ond wrth iddynt gynyddu eu dylanwad yng Nghymru, sylweddolwyd y byddai gwell gobaith o lwyddiant pe byddent yn canolbwyntio ar ddatgysylltu yng Nghymru yn unig. Ac felly y bu. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd ymdrech gydwybodol yn cael ei gwneud gan Ymneilltuwyr Cymru, o bob tuedd ac enwad, i ddatgysylltu’r Eglwys yn eu gwlad eu hunain.
Yn ail hanner yn y 19eg ganrif, daeth rhai Annibynwyr i bleidio ‘Annibyniaeth Gyfundrefnol’. Eu gweledigaeth oedd creu ‘enwad’ oedd wedi ei ganoli, er mwyn sicrhau cysondeb ac effeithiolrwydd yng ngwaith yr eglwysi. Adeiladwyd ar drefn y Cyrddau Chwarter trwy ffurfio Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym 1872.
Nid oedd pawb yn cytuno â’r datblygiadau hyn. Bu’r ymgais i roi rhan amlycach i’r Cyrddau Chwarter yng ngweithgareddau rhyng-eglwysig yr Annibynwyr yn ffactor ym ‘Mrwydr y Ddau Gyfansoddiad’ yng Ngholeg y Bala – un o’r dadleuon ffyrnicaf a welwyd gan Annibynwyr Cymru.
Er bod yr Anghydffurfwyr yn ail hanner y 19eg ganrif yn fwy dylanwadol nag erioed yng Nghymru, buan yr ymddangosodd sialensiau newydd i’r eglwysi. Yn un peth, roedd Cymru yn wynebu cyfnod o newid ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen. I filoedd o Gymry, chwalwyd yr hen ffordd o fyw gan ddiwydiannu a threfoli.
Ymddangosodd sialensiau deallusol hefyd. Bu ymosodiadau ar ysbrydoliaeth ddwyfol a dilysrwydd cyffredinol y Beibl o gyfeiriad cyfandir Ewrop, a theimlid bod darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth yn tanseilio rhai o gysyniadau sylfaenol Cristnogaeth ynglŷn â Duw fel Creawdwr, effeithiolrwydd gweddi, y gwyrthiau a’r Atgyfodiad.
Nid o’r tu allan y daeth pob bygythiad i’r Annibynwyr yn y cyfnod hwn, er bod y bygythiadau oedd yn gosod gwarchae yn fwy amlwg ar y pryd. Trwy gyfuniad o dueddiadau oes Fictoria ac ymwybyddiaeth o’u statws a’u dylanwad yn y gymdeithas, parchusodd ymddygiad ac ymarweddiad yr Annibynwyr. Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ‘capelwyr’ a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a’u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai’r diwylliant capelyddol hwn yn troi’n rhwystr i’r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru.
Rhai o'i gapeli amlycaf heddiw yw: Ebeneser, Rhosmeirch, Môn; Seion, Aberystwyth; Siloa, Aberdâr; Lôn Swan, Dinbych (sefydlwyd 1662); Henllan Amgoed, Dyfed; Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn; Bethlehem, Rhosllanerchrugog; Ebeneser, Caerdydd a'r Tabernacl Treforys a adnabyddir fel "Cadeirlan Anghydffurfiol Cymru".
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.