Tref fechan hanesyddol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw'r Hendy-gwyn[1] neu Hendy-gwyn ar Daf[2] (hefyd Hendy Gwyn ar Daf)[3] (Saesneg: Whitland).[4] Roedd yn adnabyddus yn yr Oesoedd Canol fel safle Y Tŷ Gwyn ar Daf, canolfan eglwysig a noddwyd gan dywysogion teyrnas Deheubarth. Saif yng ngorllewin y sir ar y ffin â Sir Benfro, i'r gogledd o Afon Taf, ac i'r de o briffordd yr A40, rhwng Sanclêr ac Arberth.
Math | tref bost, tref, cymuned |
---|---|
Cysylltir gyda | Fflewyn |
Poblogaeth | 1,792, 1,903 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 628.42 ha |
Cyfesurynnau | 51.818°N 4.611°W |
Cod SYG | W04000560 |
Cod OS | SN201165 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[6]
Abaty'r Tŷ Gwyn ar Daf
- Prif: Abaty Hendy-gwyn ar Daf
Sefydlwyd yr abaty enwog yma fel cangen Gymreig o abaty Clairvaux yn Ffrainc, un o abatai mawr y Sistersiaid, yn y flwyddyn 1140. Er mai sefydliad Normanaidd oedd yr abaty ar y dechrau, gyda'r mynachod wedi dod drosodd o Ffrainc, dan nawdd yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth daeth yn sefydliad trwyadl Gymreig a fu'n gefnogol iawn i ymdrechion tywysogion Cymru i gadw annibyniaeth y wlad. Ond talodd y pris am ei gefnogaeth yn 1257 pan gafodd ei anrheithio gan filwyr Seisnig a lladd llawer o'r brodyr. Claddwyd y bardd Dafydd Nanmor (fl. 1450-1480) ym mynwent y Tŷ Gwyn.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Hendy-gwyn (pob oed) (1,792) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hendy-gwyn) (749) | 43.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hendy-gwyn) (1325) | 73.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hendy-gwyn) (300) | 37.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Côr Meibion Hendy-gwyn
Oriel
- Bet Foxhall, Hendy-gwyn, o tua 1885
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.