Pentref bychan yng nghymuned Llangadog, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Bethlehem.[1][2] Saif rhwng tref Llandeilo a phentref Llangadog, nepell o bentref Gwynfe.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Bethlehem
Thumb
Mathpentrefan 
Daearyddiaeth
SirLlangadog 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau51.9125°N 3.9132°W 
Cod OSSN686253 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruAdam Price (Plaid Cymru)
AS/au y DUAnn Davies (Plaid Cymru)
Thumb
Cau
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Bethlehem (gwahaniaethu).

Enwir y pentref ar ôl y capel sydd yno. Yr enw gwreiddiol ar y pentref oedd "Dyffryn Ceidrych", ar ôl yr afon leol. Byddai'r trigolion lleol yn cyfeirio ati fel "Bethlem, dyffryn Ceidrych", ond fe'i hadwaenir orau fel "Bethlehem, dyffryn Tywi" yn genedlaethol - Tywi yw'r afon fwyaf sydd nepell o'r pentref a'r afon fwyaf yn Sir Gaerfyrddin. Tai, ffermydd, neuadd bentref a chapel sydd yn y pentref. Gwnaeth y swyddfa bost gau ac yna'r ysgol gynradd sydd bellach yn neuadd gymunedol. Mae dal modd i brynu stamp arbennig ar gyfer y Nadolig o'r neuadd, mae hyn yn boblogaidd yn ystod y cyfnod hwn er mwyn cael derbyn y nôd "Bethlehem" ar yr amlen adeg y Nadolig.[3]

Yn gysgod uwchlaw'r pentref mae Heneb y Garn Goch - bryn ac arni gaer o'r Oes Efydd ar ei phen. Ceir golygfeydd godidog o ddyffryn Tywi o'r fan honno. Gellir gyrru car a'i barcio wrth droed y bryn. Yno ceir carreg goffa Gwynfor Evans a saernïwyd mewn caligraffeg Geltaidd gan yr artist Ieuan Rhys. Bu Gwynfor (fel y'i adnabuwyd) yn byw rhwng Bethlehem a Llangadog gan fagu teulu yn y Dalar Wen.

Cyfeiriadau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.