pentref yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentrefan yng nghymuned Tirymynach, Ceredigion, yw Pen-y-garn. Saif tua 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.4497°N 4.0228°W |
Cod OS | SN6285 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Erbyn hyn, ynghyd â'r pentrefan Rhydypennau, mae'n cael ei ystyried fel rhan o bentref cyfagos Bow Street. Mae’r tri lle yn ymestyn ar hyd y briffordd o Aberystwyth i Fachynlleth (A487). Yn ogystal â'r tai ar y briffordd o Ysgol Rhydypennau i lawr i'r Lôn Groes, mae Pen-y-Garn yn cynnwys hefyd yr ystadau tai Cae'r Odyn, Maes y Garn, Bryn Mellion a Maes Ceiro.
'Capel y Garn' yw enw capel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhen-y-Garn. Evan Richardson, athro John Elias a Hugh Owen, oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn 1780. Codwyd y capel cyntaf yn 1793, a chodwyd capel newydd ar y safle yn 1833 am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.