Pentref diwydiannol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llandybïe[1] (hefyd Llandybie;[2] weithiau hefyd Llandebie). Mae'n un o'r pentrefi mwyaf yn y sir. Sir ger Rhydaman. Mae Gorsaf reilffordd Llandybïe ar llinell Rheilffordd Calon Cymru.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,994 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,164.33 ha |
Cyfesurynnau | 51.82°N 4°W |
Cod OS | SN617154 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ann Davies (Plaid Cymru).[4]
Hanes
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys yn Llandybïe gan y Santes Dybïe (Tybïe), un o blant niferus Brychan, brenin Brycheiniog.
Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybïe gan y brodyr Aneirin Talfan Davies ac Alun Talfan Davies yn 1940.
Mae'n gartref i Gôr Meibion Llandybïe.
Cymuned Llandybïe
Mae ardal Cyngor Cymuned Llandybïe yn fawr hefyd, gydag 8,700 o drigolion - dros 6,000 ohonynt yn Gymraeg eu hiaith - ac yn cynnwys pentrefi Saron, Blaenau, Cae'r-bryn, Cwmgwili, Pen-y-banc, Capel Hendre, Pentregwenlais a Phen-y-groes.
Addysg
Lleolir Ysgol Gynradd Llandybïe yn y pentref. Mae'n ysgol ddwyieithog.
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llandybie ym 1944. Am wybodaeth bellach gweler:
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.