pentref a chymuned yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandegla ( ynganiad ) (hanesyddol: Llandegla-yn-Iâl). Fe'i lleolir ar groesffordd ar lôn yr A525, tua hanner ffordd rhwng Dinbych a Wrecsam. Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Tegla.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 604 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0632°N 3.2009°W |
Cod SYG | W04000159 |
Cod OS | SJ196524 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[1][2]
Yn yr Oesoedd Canol, roedd Llandegla yn gorwedd yng nghwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys, a dyna sut y cafodd ei enw gwreiddiol.
Tua'r flwyddyn 1149, codwyd castell mwnt a beili Tomen y Rhodwydd gan Owain Gwynedd, tua milltir a hanner i'r de-orllewin o safle'r pentref heddiw.
Mae adeilad yr eglwys bresennol yn dyddio o 1866 pan ailadeiladwyd yr hen eglwys ganoloesol bron yn llwyr. Gerllaw ceir Ffynnon Tegla a ystyrid yn ffynnon sanctaidd, iachaol.
Saif ffynnon sanctaidd y Santes Tegla, ger Afon Alun y tu allan i'r pentref. Yn ôl dogfen a ysgrifennwyd yn yr 2g, roedd y Santes Tegla yn ddisgybl i Sant Pawl, ac roedd yn byw yn Iconium (Konya yn Nhwrci heddiw) ac roedd yn enwog am ei galluoedd iachaol; fe'i merthyrwyd yn 90 oed. Ni wyddys yn iawn sut y daethpwyd i anrhydeddu'r santes hon yn Ninbych, ond roedd Tegla Cymru, hefyd, yn enwog am iacháu clefyd o'r enw ‘Clwyf Tegla', neu'r epilepsi, gyda dŵr ei ffynnon. Arferai dioddefwyr gymryd rhan mewn defod gymhleth, sef ymdrochi yn y ffynnon, cerdded o'i chwmpas dair gwaith yn cario iâr (iâr ar gyfer dynes, ceiliog ar gyfer dyn) a chysgu o dan allor yr eglwys (gyda'r iâr), gan ddefnyddio'r Beibl yn obennydd. Teflid pinnau (a ddefnyddid i drywanau'r aderyn) i'r ffynnon ac, yn olaf, rhoddid pig yr iâr yng ngheg y claf. Trwy wneud hyn, trosglwyddid y ffitiau epileptig i'r iâr a oedd (fel y gellid disgwyl) yn gwanhau. Er iddynt gael eu condemnio gan awdurdodau'r eglwys, honnid bod y defodau hyn yn llwyddiannus yn aml, gan barhau hyd at oddeutu 1813.
Anrhydeddir Ffynnon y Santes Tegla yn flynyddol ar ei dydd gŵyl ym mis Medi. Nid yw ei nant byth yn rhedeg yn sych ac yn ystod cyfnod o sychder ym 1921 parhâi i ffrydio. Pan gloddiwyd y ffynnon ym 1935, daethpwyd o hyd i nifer o binnau, darnau arian ac offrymau eraill. yn 2018 roedd pedwar tamed o rhuban wedi'u gosod ar frigau'r goeden gerllaw.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llandegla (pob oed) (567) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandegla) (149) | 27.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandegla) (282) | 49.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llandegla) (58) | 26.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.