tref a chymuned yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref glan môr a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Y Rhyl. Roedd cynt yng Nghlwyd, a chyn hynny yn Sir y Fflint. Fe'i lleolir i'r dwyrain o'r Foryd, aber Afon Clwyd. Ar hyd yr arfordir i'r gorllewin mae Bae Cinmel a 4 milltir i'r dwyrain mae Prestatyn. 2 filltir i'r de mae tref Rhuddlan. Ei phoblogaeth yw 24,889 (Cyfrifiad 2001).
Math | tref, cyrchfan lan môr, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 25,149, 27,060 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3212°N 3.4802°W |
Cod SYG | W04000173 |
Cod OS | SJ015815 |
Cod post | LL18 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae gan y Rhyl un o'r traethau gorau yn y gogledd[angen ffynhonnell] sy'n denu ymwelwyr lu yn yr haf i ymdrochi a mwynhau'r "Tywod Euraidd". Mae'r Prom llydan yn enwog am ei barlwrs gemau, neuaddau bingo a siopau cofroddion rhad. Yr atyniad mawr heddiw yw Canolfan yr Haul a'i thŵr trawiadol. Ar ben gorllewinol y prom ceir y ffair hwyl a'i holwynion a big dipper. Gerllaw mae'r Llyn Morwrol (Marine Lake) a'r Trên Bach i blant sy'n rhedeg oddi amgylch iddo. Yn harbwr Y Foryd lle rhed Afon Clwyd i'r môr ceir nifer o gychod pysgota a hamdden a gorsaf y bad achub. Y brif ardal siopio yw'r Stryd Fawr, sy'n ymestyn rhwng y prom a'r orsaf drenau.
Darganfuwyd matog wedi'i wneud o gorn carw yn nechrau'r 20g yn ystod archwiliad o olion cyn-hanes a ellir ei weld pan fo'r môr ar drai; mae dyddio carbon wedi ei osod yn y 5g CC.[1] Cyfeirir at y lleoliad fel 'Splash Point', nid nepell o'r 'Heulfan' modern[2] a gellir gweld hen foncyffion fforest a arferai dyfu yno rhwng 6,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Does dim sôn am y Rhyl yn llyfr Thomas Pennant yn 1778 nac ychwaith gan William Bingley yn 1798.[3] Ond mae sawl dogfen yn cyfeirio at dŷ o'r enw 'Hill-house' neu 'hillouse' a 'Hullhouse' (o'r gair 'hill' am allt) - a hynny ynmor bell yn ôl â 1351. Mae'n bosib, felly, i'r dref gael ei ho'r tŷ hwn. Gan nad oes yr un gallt i'w weld am rai milltiroedd, ac mae'n bosib y cyfeirir at 'motte' rhyw gaer a oedd yn arfer amddiffyn aber afon Clwyd. Cyfeirir at ddyn o'r enw 'Gronou del Hull' yn 1303 er enghraifft.[4] Dywed Lewis yn ei 'Lewis's Topographical Dictionary' (argraffwyd yn 1833), '...previously to the year 1820, (Rhyl) consisted only of a few scattered dwellings.'[3] Yn ei lyfr 'Wanderings and excursions in North Wales' gan Thomas Roscoe (1791-1871) a gyhoeddwyd yn 1836[5] dywed yr awdur: The place owes it's prosperity to its contiguity to Liverpool, from which town it is only distant three or four hours sail, - to its being the outlet of the Vale of Clwyd, and the northern point from which travellers start on their excursions to the beautiful scenery of Wales, and to its fine and extensive beach...
Yn 1801 roedd y boblogaeth yn 289 o drigolion a llai yn 1811: 252 o drigolion.[6]
Roedd y Rhyl yn dechrau datblygu fel canolfan gwyliau glan môr ac roedd y llongau o Lerpwl yn angori ger traeth y Rhyl a byddai pysgotwyr lleol yn cludo'r teithwyr i'r lan. Erbyn 1831 roedd gwasanaeth llongau ager rheolaidd yn bodoli ac felly codwyd pier bychan yn y Foryd. Hwyliai 'gwasanaeth paced' rhwng Lerpwl a Rhuddlan. Byddai nwyddau fel grawn yn cael eu cludo hefyd, yn ogystal â theithwyr. Arhosodd y Foryd y brif ffordd i deithwyr o ogledd-orllewin Lloegr gyrraedd y Rhyl tan 1848 pan agorodd gorsaf reilffordd y Rhyl. Cofnodir i dros 30 o longau hwyliau gael eu hadeiladu yn y Foryd yn hanner cyntaf y 19g.[7]
Fel yn achos nifer o drefi glan môr eraill yng Nghymru, tyfodd y Rhyl yn gyflym yn y 19g; gwestai preifat (megis y Royal Hotel a'r Mostyn Arms Hotel, y New Inn a'r Manchester Arms, y Belvoir a'r Family Hotel) a thai gwely a brecwast yw llawer o'r tai a godwyd yno erbyn heddiw. Ceir ambell enghraifft o bensaernïaeth briciau coch Fictoraidd o'r cyfnod hwnnw hefyd, er enghraifft Neuadd Frenhinol y Blodau, sy'n farchnad dan do heddiw, a Neuadd y Dref.
Mae'r Rhyl wedi dioddef dwy broblem fawr yn y degawdau diwethaf, sef methu cystadlu yn y farchnad gwyliau poblogaidd a'r mewnlifiad o bobl ddi-waith o drefi gogledd-orllewin Lloegr[angen ffynhonnell]. Mae nifer o'r hen westai a'r tai teras yn fflatiau rhad erbyn hyn ac mae'r dref yn dioddef problemau cymdeithasol o'u herwydd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Rhyl (pob oed) (25,149) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Rhyl) (3,435) | 14.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Rhyl) (13768) | 54.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Rhyl) (4,849) | 44.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Uwchradd:
Cynradd:
Mae gorsaf drenau Rhyl ar orsaf Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae nifer fawr o fysus lleol yn rhedeg yn y dref ei hun ac i'r trefi cyfagos.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Y Rhyl ym 1892, 1904, 1953 a 1985.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.