pentref yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Maeshafn ( ynganiad ), a leolir ger y ffin rhwng y sir honno a Sir y Fflint tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o'r Wyddgrug.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1401°N 3.1945°W |
Cod OS | SJ201610 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Gorwedd y pentref mewn ardal wledig ar lôn sy'n ei gysylltu â'r briffordd A494, sy'n mynd heibio i'r gogledd o Faeshafn. Y pentref agosaf yw Llanferres a'r goedwig agosaf yw Y Goedwal Fawr, Maeshafn, lle ceir ogof gydag olion cynhanes nodedig.
Bu i’r capel yn y pentref gael ei werthu yn y flwyddyn 2000 a’r aelodau yn ymuno gyda chapel Soar, Nercwys, dwy filltir i ffwrdd. Y Miner's Arms yw'r dafarn leol. Ar un adeg bu Maeshafn yn bentref mwyngloddio, yn gartref i weithwyr ym mwyngloddiau plwm y fro. Ceir hen chwareli calchfaen gerllaw hefyd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.