Nantglyn

From Wikipedia, the free encyclopedia

Nantglyn

Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Nantglyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif rhyw 4.5 milltir o dref Dinbych ac ychydig i'r gorllewin o Fynydd Hiraethog. Ychydig llai na milltir i'r gogledd-orllewin mae Waen, Nantglyn.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Nantglyn
Thumb
Mathcymuned, pentref 
Poblogaeth323, 291 
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych 
Gwlad Cymru
Arwynebedd3,328.48 ha 
Cyfesurynnau53.1474°N 3.49°W 
Cod SYGW04000170 
Cod OSSJ003621 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Jones (Ceidwadwr)
Thumb
Cau

Saif Nantglyn ar Afon Ystrad, sy'n llifo i mewn i Afon Clwyd. Mae afon lai, Afon Lliwen, yn ymuno a'r Ystrad ger y pentref. Mae traddodiad fod clas wedi ei sefydlu yma gan Mordeyrn, ŵyr i Gunedda Wledig. Ymhlith hynodion y pentref mae'r "pulpud mewn coeden", a ddefnyddiwyd unwaith gan John Wesley yn ôl y traddodiad. Caeodd yr ysgol yn y 1990au ac erbyn hyn nid oes siop yn y pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Enwogion

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nantglyn (pob oed) (323)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nantglyn) (130)
 
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nantglyn) (185)
 
57.3%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Nantglyn) (19)
 
14.4%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.