Remove ads
pentref a chymuned From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanelidan( ynganiad ). Mae'r pentref tua hanner ffordd rhwng trefi Rhuthun a Chorwen, yn nyffryn Afon y Maes, sy’n isafon i Afon Clwyd. Mae pentrefan Rhydymeudwy o fewn y gymuned hon.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 305, 362 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,150.62 ha |
Cyfesurynnau | 53.0333°N 3.3333°W |
Cod SYG | W04000162 |
Cod OS | SJ106504 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Mae'r eglwys yno wedi ei chysegru i Sant Elidan, a dyma darddiad enw'r pentref. Adeiladwyd yr eglwys yn y 15g; mae'n parhau i gadw nifer o'i nodweddion gwreiddiol o'r Oesoedd Canol, er gwaethaf gwaith adnewyddu sylweddol yn y 19g.
Rhwng Bryneglwys a Chorwen, ceir swp o gerrig hynafol a elwir yn 'Fwrdd y Tri Arglwydd'. Yn ôl traddodiad, mae'r cerrig hyn yn nodi'r ffin ganoloesol rhwng Arglwyddiaeth Dinbych, ym meddiant Reginald de Grey, a chwmwd Cynllaith Owain, ym meddiant Owain Glyndŵr. Ceir plac ar y cerrig sy'n cofnodi'r hanes. Ychydig lathenni o'r garreg ceir cerrig eraill - olion hen siambr gladdu neolithig.[1] Yn ddiweddarach, yma oedd y ffin rhwng yr hen Sir Ddinbych a Meirionnydd, gyda phlwyfi Llanelidan, Bryneglwys, Gwyddelwern a Llansanffraid Glyn Dyfrdwy yn cwrdd yma, fel oedd arglwyddiaethi Rhuthun, Glyndyfrdwy ac Iâl.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan David Jones (Ceidwadwr).[3][4]
Saif yr eglwys wrth dafarn y Leyland Arms, wedi ei hamgylchynu gan goed yw a hen gerrig beddi Cymraeg. Cysegrwyd yr eglwys i sant lleol na wyddom llawer amdano. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yn y 15g ac mae’n cynnwys dwy ran, yn unol ag arddull yr ardal, ac mae ynddo nifer o nodweddion canoloesol, er yr adnewyddu sylweddol a fu yn ystod cyfnod Fictoria.
Mae’r eglwys wedi ei chysegru i sant lleol na wyddys llawer amdano. Wedi ei hadeiladu'n wreiddiol yn y 15g, mae’n cynnwys dwy brif ran, yn unol ag arddull yr ardal. Ceir pâr o ganopïau anrhydedd crymdo dros yr allor, darnau o wydr canoloesol, sef symbolau’r croesholiad mewn tariannau glas uwchben yr allor, ac yn bwysicach oll, gwaith coed cerfiedig rhyfeddol. Mae rhannau o’r groglen ganoloesol wedi eu gosod wrth y pulpud, yn eu plith fwystfilod ar ffurf ceffylau, tariannau crynion cain, a gwinwydd ac aeron eiddew. Mae gan y pulpud Jacobeaidd ei gerfiedau ei hun, gyda mwy o baneli sy’n dyddio o’r un cyfnod y tu ôl i’r allor. Mae’r hen gorau bocs (gorlan y seddi), sy’n gofebau i ysgweiriaid Plas Nantclwyd gerllaw, a’r portread teimladwy o’r merthyr Pabyddol lleol, Edward Jones, yn gwneud yr eglwys hon yn unigryw. Mae ar agor yn ystod golau dydd fel arfer.
Roedd Richard Parry yn rheithor Llanelidan am gyfnod cyn iddo ddod yn Esgob Llanelwy.[5]. O 1891 hyd ei farwolaeth yn 1937, bu John Morris o Glarach yn rheithor ar y plwyf ag ef a gladdodd Coch Bach y Bala.[6]
Mae llawer o dir amaethyddol, coedwigoedd a thai Llanelidan, yn ogystal a'r unig dafarn, y Leyland Arms, yn rhan o stad Nantclwyd ac yn perthyn i'r teulu Naylor-Leyland. Saif Plas Nantclwyd wrth ochr Afon Clwyd i'r gogledd o'r pentref.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanelidan (pob oed) (305) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelidan) (131) | 44.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelidan) (163) | 53.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanelidan) (29) | 22.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Canwyd cân o'r enw Llanelidan gan y triawd, Trisgell, gyda cherddoriaeth gan Robat Arwyn. Mae'r gân am Syr Vivian Naylor-Leyland yn llosgi tai'r Cymry a oedd ar ei stad, Plas Nantclwyd. Mae'r gân ar yr albwm Caneuon Robat Arwyn.[10] Mae'r gân yn dechrau gyda'r gytgan a'r geiriau yn dechrau ar nodyn cyntaf y cyfeiliant.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.