pentref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref canolig ei faint a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Diserth ( Diserth )[1][2] neu Dyserth.[3][4] Mae'n gorwedd ychydig o filltiroedd i'r de o Brestatyn ac i'r dwyrain o dref Rhuddlan. Poblogaeth 2566 (Cyfrifiad 2001).
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,269, 2,523 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 372.3 ha |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3.4°W |
Cod SYG | W04000153 |
Cod OS | SJ056789 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Yn yr Oesoedd Canol, Diserth oedd canolfan cwmwd Prestatyn, yng nghantref Tegeingl. Yma, ar gyrion y pentref presennol, roedd plasdy Botryddan, canolfan y Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol grymusaf y Gogledd. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, claddwyd y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370) yn eglwys Diserth.
Ger y pentref ceir olion hen chwareli a rhaeadrau, ac mae bryn deniadol Moel Hiraddug yn y cyffiniau. Gorwedd ar yr A5151 ac mae rhan o Lwybr y Gogledd yn rhedeg heibio i'r pentref.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Diserth (pob oed) (2,269) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Diserth) (444) | 20.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Diserth) (1369) | 60.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Diserth) (344) | 35.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.