cymuned yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandysilio-yn-Iâl( ynganiad ) (hefyd: Llantysilio ar fapiau Saesneg). Saif i'r gogledd o dref Llangollen, o gwmpas y briffordd A452 ac yn ymestyn i gynnwys Bwlch yr Oernant. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 472.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 421, 424 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,797.76 ha |
Cyfesurynnau | 52.983°N 3.203°W |
Cod SYG | W04000168 |
Cod post | LL20 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]
Mae'r gymuned yn cynnwys nifer o hynafiaethau, yn enwedig Croes Eliseg, colofn sy'n coffhau Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), brenin Powys. Codwyd y golofn gan or-ŵyr Elisedd, Cyngen ap Cadell. Gerllaw mae gweddillion Abaty Glyn-y-groes. Ym mynwent Eglwys Sant Tysilio y claddwyd y gwleidydd Rhyddfrydol George Osborne Morgan (1826 - 1897).
Mae olion hen chwareli llechi o fewn tafliad carreg i'r pentref hefyd. Moel y Gamelin ydy enw'r mynydd y tu ôl i'r pentref, rhan o gadwyn isel a elwir yn Fynydd Llandysilio. Ceir bryngaer Moel y Gaer hefyd.
Mae Eglwys Sant Tysilio yn adeilad cofrestredig Gradd II* oherwydd fod ynddi llawer o drawstia a tho ac waliau sy'n dyddio'n ôl i'r canoloesoedd. Mae un o'r ffenestri lliw hefyd cyn hyned (15g) - llun melyn o Sant Iago.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.