pentref yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanbedr Dyffryn Clwyd( ynganiad ). Saif ger cyffordd y briffordd A494 a'r ffordd B5429, ychydig i'r dwyrain o dref Rhuthun. I'r dwyrain o'r pentref mae bryn Moel Fenlli, gyda Moel Famau i'r gogledd-ddwyrain. Rhwng y ddau fryn yma mae Bwlch Pen Barras (551m); roedd yr hen lôn rhwng Dyffryn Clwyd a'r Wyddgrug cyn i'r A494 gael ei adeiladau yn arwain o Lanbedr Dyffryn Clwyd dros y bwlch yma i Dafarn-y-Gelyn. Yn 1851 roedd 461 o drigolion yma.[1]
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 787, 861 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,648.28 ha |
Cyfesurynnau | 53.1242°N 3.2805°W |
Cod SYG | W04000158 |
Cod OS | SJ145595 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[2][3]
Dyddia'r eglwys o'r cyfnod Fictoraidd; roedd yr hen eglwys ganoloesol (Eglwys St Pedr) ar safle wahanol gerllaw Neuadd Llanbedr, i'r gogledd o'r pentref presennol.
Ceir plasty o'r enw Neuadd Llanbedr ('Llanbedr Hall') yma yna edrych dros y dyffryn. Arferai Joseph Ablett (1770-1847) fyw yno, sef y gŵr a noddodd Ysbyty Meddwl Dinbych; roedd hefyd yn Uwch Siryff y sir yn 1809 ac yn gyfaill mynwesol i William Owen Pughe (1759-1835).
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd (pob oed) (787) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedr Dyffryn Clwyd) (239) | 31% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedr Dyffryn Clwyd) (362) | 46% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbedr Dyffryn Clwyd) (137) | 36.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.