bwlch rhwng Moel Famau a Moel Fenlli, Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Lleolir Bwlch Pen Barras ym Mryniau Clwyd, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'r bwlch 551 metr yn gorwedd rhwng bryniau Moel Fenlli (i'r de) a Moel Famau (i'r gogledd-ddwyrain).
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.137°N 3.251°W |
Croesir y bwlch gan ffordd gul. Hon oedd yr hen lôn hanesyddol rhwng Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych a'r Wyddgrug yn Sir y Fflint cyn i'r A494 gael ei adeiladau. Mae'n cysylltu Llanbedr Dyffryn Clwyd a Tafarn-y-Gelyn.
Cyfeiria'r hynafiaethydd Thomas Pennant at ryw "Fwlch Agricola" yn gorwedd rhwng Moel Fenlli a Moel Eithinen, gan honni mai dyma oedd llywbr Agricola ar ei ymgyrch yn erbyn yr Ordoficiaid.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.