tref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref hanesyddol a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Dinbych (Saesneg: Denbigh). "Caer fechan" yw ystyr ei enw ac ymddengys gyntaf mewn dogfen yn 1211 gyda'r silafiad: "Dunbeig" ac yna "Tynbey" yn 1230 a "Dymbech" yn 1304-5. Ceir Dinbych y Pysgod yn ne Cymru hefyd.
Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 8,670 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Clwyd |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1872°N 3.4157°W |
Cod SYG | W04000151 |
Cod OS | SJ055665 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Yn 1290 derbyniwyd Dinbych fel bwrdeistref, a chafodd y dref gyfan ei chynnwys o fewn muriau allanol y castell. Pan gododd Madog ap Llywelyn a'i wŷr rhwng 1294 a 1295, roedd y dref yng nghanol y gwrthryfel. Llwyddodd Madog i gipio'r castell ym mis hydref 1294 a phan ddaeth catrawd o filwyr Seisnig i'w ailfeddiannu, fe drechedwyd y rheiny hefyd. Ond er hynny, cipiodd Edward I y castell ym mis Rhagfyr.
Yn 1400, ymledodd gwreichion gwrthryfel Glyn Dŵr ar draws y dyffryn ac fel sawl tref arall yn y cyffiniau, llosgwyd y rhannau Seisnig o'r dref i'r llawr, cyn i'r gwrthryfelwyr fynd yn eu blaen i ymosod ar Ruddlan.
Tua thri-chwarter milltir i'r de o'r castell presennol y sefydlwyd y gaer yn wreiddiol a hynny ar dir Llywelyn ap Iorwerth a roddodd yn anrheg i'w ferch Gwenllian ac fe elwyd am flynyddoedd fel 'Llys Gwenllian'. (Cyfeirnod OS: SJ06SE1).Yn yr'Hen Ddinbych' codwyd Castell mwnt a beili yno cyn [1][2] yn 1283 y rhoddodd Edward 1af orchymun i godi'r castell presennol.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych ym 1882, 1939 a 2001. Caiff y nesaf ei gynnal ym mIs Awst 2013. Am wybodaeth bellach gweler:
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Dinbych (pob oed) (8,986) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dinbych) (3,057) | 35.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dinbych) (6555) | 72.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dinbych) (1,325) | 34.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.