mynachlog a fu yn Ninbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd Brodordy Dinbych yn nhref Dinbych ar ddiwedd y 13g gan Urdd y Carmeliaid, a adnabyddir hefyd fel 'Y Brodyr Gwynion'.
Codwyd y brodordy i'r dwyrain o Gastell Dinbych. Cafodd nawdd gan Esgobaeth Llanelwy a noddwyr llÿyg. Erbyn dechrau'r 16g cofnodir dau o frodyr-esgobion Llanelwy yn byw yno. Erbyn 1537, pan ddiddymwyd y brodordy gan Harri VIII o Loegr, dim ond pedwar brawd oedd yn byw yno.
Roedd eglwys y brodordy yn cael ei rhannu'n ddau gan lobi gyda'r brodyr yn eistedd mewn côr i'r dwyrain gyda'u hallor eu hunain a'r bobl llÿyg i'r gorllewin, hwythau gyda'u hallor eu hunain.
Ar wahân i ddarn bychan o'r abaty, dim ond eglwys adfeiliedig y brodordy sy'n sefyll heddiw. Llosgwyd yr adeiladau eraill i'r llawr yn 1899; roeddent yn cael eu defnyddio fel ystordy gwlân ar y pryd. Lleolir yr eglwys ar Stryd y Wyddgrug.
Mae'r adfeilion yng ngofal Cadw.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.