Pentref yng nghymuned Derwen, Sir Ddinbych, Cymru, yw Clawddnewydd[1] ( ynganiad ), weithiau Clawdd-newydd.[2] Saif yn Nyffryn Clwyd, tua dwy filltir i'r gorllewin o dref hynafol Rhuthun yn ne Sir Ddinbych ar derfyn Coedwig Clocaenog. Mae'n rhan o gymuned Derwen. Mae'r pentref yn edrych tuag at Fynyddoedd y Berwyn a Bryniau Clwyd. Ceir yma hefyd, fel nifer o bentrefi yng Nghymru, dafarn (Glan Llyn) a chapel.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1°N 3.4°W |
Cod OS | SJ083524 |
Sefydlwyd Siop-Y-Fro yng Nghanolfan Cae Cymro, yn y pentref yn 2002, sy'n siop cydweithredol.[3] Mae plant cynradd y pentref yn mynychu Ysgol Clocaenog a leolir ym mhentref Clocaenog, tua hanner milltir i'r gogledd o Glawddnewydd; mae'r plant hŷn yn mynychu Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.