From Wikipedia, the free encyclopedia
Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales national football team) yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | ||
---|---|---|---|
Hyfforddwr | Craig Bellamy | ||
Mwyaf o Gapiau | Gareth Bale (111) | ||
Prif sgoriwr | Gareth Bale (41) | ||
Cod FIFA | WAL | ||
Safle FIFA | 24 (24 Hydref 2019)[1] | ||
Safle FIFA uchaf | 8 (Hydref 2015) | ||
Safle FIFA isaf | 117 (Awst 2011) | ||
Safle Elo | 30 (18 Hydref 2019) [2] | ||
Safle Elo uchaf | 3 (1876~1885) | ||
Safle Elo isaf | 88 (Mawrth 2011) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
yr Alban 4–0 Cymru (Glasgow; 26 Mawrth 1876) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Cymru 11–0 Iwerddon (Wrecsam; 3 Mawrth 1888) | |||
Colled fwyaf | |||
yr Alban 9–0 Cymru (Glasgow; 23 Mawrth 1878) | |||
Cwpan FIFA y Byd | |||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 1958) | ||
Canlyniad gorau | Rownd Go-gynderfynol, 1958 | ||
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop | |||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 2016) | ||
Canlyniad gorau | Rownd Gyn-derfynol, 2016 | ||
Gwefan | faw.cymru/cy/ |
Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o holl dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban.
Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed ddwywaith, sef Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 a phencampwriaeth Ewro 2016. Llwyddodd Cymru hefyd i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Bencampwriaethau Ewrop 1976, sef y flwyddyn olaf y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal dros ddau gymal. Yn 2022, curodd Cymru dîm Wcráin, gan gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, cyfnod o 64 o flynyddoedd.
Yn Ebrill 2013, agorodd Parc y Ddraig, Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, yng Nghasnewydd.
Chwaraeodd Cymru ei gêm gystadleuol gyntaf ar 25 Mawrth 1876 yn erbyn yr Alban yn Glasgow gan ei gwneud y trydydd tîm pêl-droed rhyngwladol hyna'n y byd. Yr Alban enillodd y gêm gyntaf 4-0. Trefnwyd gêm gyfatebol yng Nghymru y flwyddyn ganlynol ac felly y cafwyd y gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf ar dir Cymru, ar Gae Ras Wrecsam ar 5 Mawrth 1882. Enillodd yr Alban eto, 2-0 y tro hwn. Roedd y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn 1879 pan welwyd Cymru'n colli 2-1 yn Kennington Oval, Llundain ac yn 1882 wynebodd Cymru Iwerddon am y tro cyntaf gan ennill 7-1 yn Wrecsam.
Cyfarfu cynrychiolwyr y pedair gwlad ym Manceinion ar 6 Ragfyr 1882 i greu rheolau a thrwy hyn sefydlwyd Bwrdd y Cymdeithasau Pêl-droed Rhyngwladol. Yn 1883-84 ffurfiwyd Pencampwriaeth Cartref Prydain, twrnameint a chwaraewyd yn flynyddol rhwng Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru hyd 1983-84. Bu Cymru'n bencampwr 12 gwaith.
Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp A ar gyfer gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ynghyd â Croatia, Serbia, Gwlad Belg, yr Alban a Macedonia. Ni lwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, gan orffen yn bumed yn y grŵp rhagbrofol.
Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp B ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2016 ynghyd ag Andorra, Gwlad Belg, Bosnia-Hertsegofina, Cyprus ac Israel. Ar 10 Hydref 2015, er colli yn erbyn Bosnia-Hertsegofina, llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016, gan fod Cyprus wedi curo Israel. Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ers Cwpan y Byd Pêl-droed 1958.[3] Gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp ar ôl curo Andorra o 2-0 yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2015.[4]
Tîm | Ch | E | Cyf | Coll | Dros | Y/e | +/- | P |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwlad Belg | 10 | 7 | 2 | 1 | 24 | 5 | +19 | 23 |
Cymru | 10 | 6 | 3 | 1 | 11 | 4 | +7 | 21 |
Bosnia-Hertsegofina | 10 | 5 | 2 | 3 | 17 | 12 | +5 | 17 |
Israel | 10 | 4 | 1 | 5 | 16 | 14 | +2 | 13 |
Cyprus | 10 | 4 | 0 | 6 | 16 | 17 | -1 | 12 |
Andorra | 10 | 0 | 0 | 10 | 4 | 36 | -32 | 0 |
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl | |
---|---|
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2016 | |
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle |
Ar 12 Rhagfyr 2015, tynnwyd enwau y timau i chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gosodwyd Cymru yng ngrŵp B, ynghyd â Lloegr, Rwsia a Slofacia.[5]
Ar 20 Mehefin 2016, llwyddodd Cymru i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.[6]
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl | |
---|---|
Symud ymlaen i'r 16 olaf | |
Posibilrwydd o gyrraedd yr 16 olaf (os yn un o'r pedwar tîm trydydd safle gorau) |
Ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon ym Mharis ar 25 Mehefin 2016 yn rownd yr 16 olaf. Enillodd Cymru y gêm 1-0, gan sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.[7] Enillodd Cymru'r rownd honno o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg[8], gan sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf erioed. Portiwgal oedd gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd gynderfynol. Nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn gallu chwarae oherwydd gwaharddiad, wedi iddynt dderbyn dau gerdyn melyn yr un yn ystod y gystadleuaeth. Cafwyd gêm agos, ond colli 2-0 fu hanes Cymru, gan roi terfyn ar y freuddwyd o gyrraedd y rownd derfynol.[9]
Dychwelodd carfan Cymru a'r tîm hyfforddi i Gymru ar 8 Gorffennaf 2016. Ar ôl glanio ym Maes Awyr Caerdydd, teithiodd y garfan i Gastell Caerdydd, lle roedd torfeydd o filoedd yn aros i'w croesawu. Teithiodd y chwaraewyr ar fws to agored drwy ganol y brifddinas, gan orffen yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle cynhaliwyd cyngerdd gan amrywiol artistiaid, gan gynnwys y Manic Street Preachers a Kizzy Crawford.[10]
Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau Rhagbrofol Ewro 2016, gosodwyd Cymru ymhlith y deg tîm gorau yn y Byd yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf erioed ym mis Gorffennaf 2015. Golygodd hynny fod Cymru ymhlith y detholion uchaf ar gyfer dewis y grwpiau ar gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018. Fe dynnwyd enwau'r timau ar 25 Gorffennaf 2015 yn St Petersburg, Rwsia. Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp D ynghyd ag Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldofa a Georgia.[11]
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl | |
---|---|
Symud ymlaen i brif gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018 | |
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle |
Fe osodwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yng Ngrŵp 4, Cynghrair B y gystadleuaeth gychwynnol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn 2018-19. Ynghyd ag Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc.[12]
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl | |
---|---|
Dyrchafiad i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA | |
Gostwng i Gynghrair C Cynghrair y Cenhedloedd UEFA |
Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp E ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2020 ynghyd ag Aserbaijan, Croatia, Hwngari a Slofacia. Fe fydd y ddau dîm fydd ar frîg y tabl ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol yn symud yn uniongyrchol i rowndiau terfynol Ewro 2020.
Tîm | Ch | E | Cyf | Coll | Dros | Y/e | +/- | P |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croatia | 8 | 5 | 2 | 1 | 17 | 7 | +10 | 17 |
Cymru | 8 | 4 | 2 | 2 | 10 | 6 | +4 | 14 |
Slofacia | 8 | 4 | 1 | 3 | 13 | 11 | +2 | 13 |
Hwngari | 8 | 4 | 0 | 4 | 8 | 11 | -3 | 12 |
Aserbaijan | 8 | 0 | 1 | 7 | 5 | 18 | -13 | 1 |
Cywir ar 19 Tachwedd 2019
Allwedd i liwiau'r tabl | |
---|---|
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2020 |
Enwodd Rob Page y tîm 26-dyn ar y gêmau yn erbyn De Corea a Latfia ym mis Medi 2023.
Capiau a goliau yn dilyn 3 Medi 2023
|
|
Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n dal i chwarae mewn print trwm):
# | Enw | Goliau | Capiau | Cyfartaledd |
---|---|---|---|---|
1 | Gareth Bale | 33 | 83 | 0.4 |
2 | Ian Rush | 28 | 73 | 0.38 |
3 | Trevor Ford | 23 | 38 | 0.61 |
Ivor Allchurch | 23 | 68 | 0.34 | |
5 | Dean Saunders | 22 | 75 | 0.29 |
6 | Craig Bellamy | 19 | 78 | 0.24 |
7 | Robert Earnshaw | 16 | 59 | 0.27 |
Cliff Jones | 16 | 59 | 0.27 | |
Mark Hughes | 16 | 72 | 0.22 | |
Aaron Ramsey | 16 | 60 | 0.27 |
Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):
# | Name | First/Latest Cap | Caps | Goals |
---|---|---|---|---|
1 | Chris Gunter | 2007– | 96 | 0 |
2 | Neville Southall | 1982–1997 | 92 | 0 |
3 | Wayne Hennessey | 2007– | 89 | 0 |
4 | Ashley Williams | 2007– | 86 | 2 |
5 | Gary Speed | 1990–2004 | 85 | 7 |
6 | Gareth Bale | 2006– | 83 | 33 |
7 | Craig Bellamy | 1998–2013 | 78 | 19 |
8 | Joe Ledley | 2007– | 77 | 4 |
9 | Dean Saunders | 1986–2001 | 75 | 22 |
10 | Peter Nicholas | 1979–1991 | 73 | 2 |
Ian Rush | 1980–1996 | 73 | 28 |
Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):
|
Cyn 1954 roedd tîm Cymru yn cael ei ddewis gan banel o ddewiswyr, gyda'r capten yn chwarae rôl hyforddwr.
Nodiadau
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.