Ivor Allchurch

pêl-droediwr From Wikipedia, the free encyclopedia

Ivor Allchurch

Pêl-droediwr Cymreig oedd Ivor John Allchurch (16 Hydref 192910 Gorffennaf 1997). Fe'i magwyd yn Abertawe. Roedd yn frawd i Len Allchurch a oedd hefyd yn nhîm Cymru.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Ivor Allchurch
Thumb
FfugenwGolden Boy 
Ganwyd16 Hydref 1929 
Abertawe 
Bu farw10 Gorffennaf 1997 
Abertawe 
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig 
Alma mater
  • Ysgol Gynradd Plasmarl 
Galwedigaethpêl-droediwr 
Taldra1.78 metr 
Gwobr/auMBE 
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Dinas Caerdydd, Newcastle United F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, C.P.D. Dinas Abertawe, Shrewsbury Town F.C., Worcester City F.C. 
Safleblaenwr, mewnwr 
Gwlad chwaraeonCymru 
Cau
Ffeithiau sydyn Gyrfa Lawn*, Blwyddyn ...
Ivor Allchurch
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1947–1958Tref Abertawe327(124)
1958–1962Newcastle United143(46)
1962–1965Dinas Caerdydd103(39)
1965–1968Tref Abertawe118(40)
Cyfanswm691(249)
Tîm Cenedlaethol
1950–1966Cymru68(23)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).
Cau

Chwaraeodd rôl bwysig fel ymosodwr i sicrhau bod Cymru'n cyrraedd yr wyth olaf yng nghystadlaeaeth Cwpan y Byd Pêl-droed 1958, a dyma hefyd pan y daeth i amlygrwydd yn gyntaf. Cafodd 68 cap dros ei wlad, record hyd at 1986, pan gafodd ei dorri gan Joey Jones.[1] Ef hefyd oedd sgoriwr y nifer mwyaf o goliau dros Gymru: 28 gôl, a thorrwyd y record yma'n ddiweddarach gan Ian Rush.

Cychwyn arni

Yn 1947, cychwynodd ei yrfa bêl-droed yn nhref ei eni - Abertawe, ond byr iawn y parhaodd yno oherwydd y cafodd ei alw i'r fyddin. Ei dymor cyntaf, mewn gwirionedd, oedd 1950–51. Chwaraeodd 445 gwaith i Abertawe gan sgorio 164 o goliau.

Thumb

Ymunodd â Newcastle United yn 1958 am £28,000.[2] Yn Awst 1962 symudodd i Gaerdydd gan sgorio yn ei gêm gyntaf - yn erbyn Newcastle United![1] Y tymor hwnnw (1963–64), ef oedd sgoriwr ucha'r Clwb ac felly hefyd y tymor dilynol (1964–65). Ar ddiwedd tymor 1967–68 ymunodd gyda Worcester City. Ac yna, am ysbaid, bu'n rheolwr-chwaraewr gyda Hwlffordd gan orffen ei yrfa'n chwarae i Bontardawe - yn 0 oed. Dros ei yrfa roedd wedi chwarae 691 o gemau'r Gynghrair ac wedi sgorio 249 o goliau.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.