Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Paul Dummett (ganed 26 Medi 1991). Mae'n chwarae i Newcastle United yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Paul Dummett[1] | ||
Dyddiad geni | 26 Medi 1991 | ||
Man geni | Newcastle upon Tyne, Lloegr | ||
Taldra | 1.83m[2] | ||
Safle | Amddiffynnwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Newcastle United | ||
Rhif | 3 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2008–2010 | Newcastle United | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2010– | Newcastle United | 199 | (3) |
2012 | → Gateshead (ar fenthyg) | 10 | (0) |
2012–2013 | → St. Mirren (ar fenthyg) | 30 | (2) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2011–2012 | Cymru dan 21 | 4 | (0) |
2014–2019 | Cymru | 5 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 20:06, 26 May 2015 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Gyrfa clwb
Dechreuodd Dummett ei yrfa gyda thîm ieuenctid Newcastle United[3] cyn ymuno â Gateshead o'r Gyngres Bêl-droed ar fenthyg ym mis Mawrth 2012[4][5].
Y tymor canlynol ymunodd â St. Mirren yn Uwch Gynghrair Yr Alban ar fenthyg[6][7] gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb mewn buddugoliaeth dros Heart of Midlothian ar 15 Medi 2012.
Dychwelodd Dummett i Newcastle ar ddiwedd 2011-12 gan arwyddo cytundeb newydd â'r clwb[8] a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb mewn gêm gyfartal 2–2 yn erbyn Lerpwl ym mis Hydref 2013.[9]
Gyrfa ryngwladol
Mae Dummett yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd ei daid Cymreig[10]. Mae wedi ennill capiau i dîm dan 21 Cymru [7] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin 2014[11].
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.