From Wikipedia, the free encyclopedia
Pêl-droed yw'r gêm mwyaf poblogaidd o holl chwaraeon tîm y byd. Fe'i chwaraeir gyda phêl rhwng dau dîm o unarddeg o chwaraewyr, gan geisio ennill trwy gael y bêl y nifer fwyaf o weithiau drwy gôl eu gwrthwynebwyr. Cafodd y gêm pêl-droed ei greu o gwmpas y flwyddyn 476 B.C yn Tsieina.
Enghraifft o: | math o chwaraeon, chwaraeon tîm, chwaraeon olympaidd, chwaraeon i wylwyr, difyrwaith |
---|---|
Math | sport industry, chwaraeon peli |
Dyddiad darganfod | 1848 |
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Gwefan | https://www.fifa.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n cael ei chwarae drwy'r byd ar lefel broffesiynol erbyn hyn ond mae nifer fawr yn ei chwarae ar lefel amatur hefyd.
Mae FIFA a'r Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (IFAB) yn rheoli'r gêm. Y prif gystadleuaeth ydy Cwpan y Byd
Mae yna fwy o cystadleuthau enwog. Y prif gystadleuaeth I clybiau yw 'UEFA Champions League'.
Rhaid gwisgo dillad ac offer addas I chwarae pêl-droed. Rydych angen crys, siorts, sanau pen glin, ac sgidiau arbennig, Rhain yw gwisg y chwaraewyr sydd tu allan i'r cae. Mae gol geidwad yn gwisgo yr un peth, ond mae'r grys hefo llewys hir. Mae'r gol geidwad hefyd yn gwisgo mennig I reoli'r bel. Mae'r capten yn gwisgo band ar ei cyhyr deuben I ddangos mai fo/hi yw'r capten
Mae gan wahanol chwaraewyr eu dyletswyddau a safleodd eu hunain o fewn y tîm o unarddeg.
Gôl-geidwad yw'r safle mwyaf unigol mewn dîm pel-droed. Yn ôl y rheolau caniateir un gôl-geidwad i dîm. Y gôl-geidwad yw'r unig chwaraewr sy'n cael defnyddio ei ddwylo i reoli'r bêl, ac mae'n rhaid iddo wisgo gwisg o liw gwahanol i'w wahaniaethu oddi wrth chwaraewyr eraill y tîm.
Swydd y gôl-geidwad yw defnyddio unrhyw ran o'i gorff i atal y bel rhag mynd trwy'r gôl mae ei dîm yn amddiffyn. Ar ôl dal y bêl, mi fydd y gôl-geidwad yn ei throsglwyddo i chwaraewr arall o'i dîm trwy ei lluci ato neu ei rhoid ar lawr ac ei chicio ato. Y gôl-geidwad yw'r unig chwaraewr sy'n cael sefyll rhwng y bel a'r gôl pan mae cig gosb yn cael ei chymryd gan y tîm arall. Yn aml, y gôl-geidwad fydd yn rheoli lleoliad chwaraewyr ei dîm tra maent yn amddifyn cic rydd yn agos at eu gôl.
Mae chwaraewyr yn y safle yma yn aml yn dal, i'w galluogi i ddal y bêl yn haws.
Prif swydd amddiffynnwr yw rhwystro chwaraewyr y tîm arall rhag cael siawns i gicio'r bel tuag at y gôl. Bydd amddifynwr yn gwneud hyn wrth leoli ei gorff rhwng y bêl ac y gôl, ac wrth fygwth cymryd y bel o ei wrthwynebwr. Bydd amddiffynnwr yn aml yn aros yn agos i chwaraewr penodol, i allu amddifyn yn haws os bydd y chwaraewr yn cael y bel.
Mae amddiffynnwr canol yn sefyll o flaen y gôl, ac yn defnyddio ei gorff i rwystro ciciau i mewn i'r gôl. Mae amddiffynwyr canol yn aml yn dal ac yn gryf yn gorfforol. Maent yn gallu defnyddio eu cryfder i guro blaenwyr y tîm arall i'r bêl pan mae'n cael ei gicio drwy'r awyr.
Prif swydd y blaenwr yw derbyn y bel oddi wrth ei chyd chwaraewyr, ac yna ynelu I gael y pêl yn gol y tîm arall.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.