pêl-droediwr From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn bêldroediwr a rheolwr pêl-droed Cymreig yw Brian Flynn (ganwyd 12 Hydref 1955). Roedd yn chwaraewr rhyngwladol ac yn reolwr ar dîm cenedlaethol Cymru ond sydd bellach yn Gyfarwyddwr Pêl-droed ar glwb Doncaster Rovers.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Brian Flynn | ||
Dyddiad geni | 12 Hydref 1955 | ||
Man geni | Port Talbot, Cymru | ||
Taldra | 5 ft 3½ in (1.61 m | ||
Safle | Canol-cae | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1972–1977 | Burnley | 120 | (8) |
1977–1982 | Leeds United | 154 | (11) |
1982 | → Burnley (ar fenthyg) | 2 | (0) |
1982–1984 | Burnley | 80 | (11) |
1984–1985 | Dinas Caerdydd | 32 | (0) |
1985–1986 | Doncaster Rovers | 27 | (0) |
1986–1987 | Bury | 19 | (0) |
1987 | Limerick City | 10 | (1) |
1987–1988 | Doncaster Rovers | 24 | (1) |
1988–1993 | Wrecsam | 100 | (5) |
Cyfanswm | 568 | (37) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
1974–1984 | Cymru | 66 | (7) |
Timau a Reolwyd | |||
1989–2001 | Wrecsam | ||
2002–2004 | Abertawe | ||
2004–2012 | Cymru dan 21 | ||
2010 | Cymru (gofalwr) | ||
2013 | Doncaster Rovers | ||
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Roedd yn reolwr ar dîm pêl-droed dan 21 Cymru o 2004 tan fis Mai 2012[1] a chymrodd yr awenau dros-dro fel rheolwr Cymru wedi i John Toshack ymddiswyddo a chyn i'r Gymdeithas Bêl-droed benodi Gary Speed
Dechreodd Flynn ei yrfa gyda Burnley gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ym 1973-74. Wedi 120 o ymddangosiadau yn y gynghrair, symudodd i Leeds United ym mis Tachwedd 1977. Wedi pum mlynedd yn Elland Road, symudodd yn ôl i Burnley ym mis Tachwedd 1982. Ar ôl 80 o gemau cynghrair dros gyfnod o pedair blynedd, ymunodd Flynn â Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd 1984.[2]
Aeth ymlaen i chwarae dros Doncaster Rovers, Bury, Limerick City a Wrecsam[3] a gwnaeth ei ymddangosiad olaf yn y gynghrair ar 3 Tachwedd 1992 pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Scunthorpe United.[4]
Gwnaeth Flynn ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd 1974[5]. Llwyddodd i ennill 66 cap rhwng 1974 a 1984 gan sgorio 7 gôl.
Cafodd ei benodi'n chwaraewr-reolwr ar Wrecsam ym 1989 cyn gadael Y Cae Ras yn 2001[6]. Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw llwyddodd Wrecsam i ennill Cwpan Cenedlaethol yr FAW ar dair achlysur a daeth y clwb yn enwog am drechu rhai o gewri pêl-droed Lloegr yng Nghwpan FA Lloegr, timau fel Arsenal a West Ham United.[7][8]. Llwyddodd Flynn i sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf[8].
Cafodd ei benodi'n reolwr ar Abertawe ym mis Medi 2002[9]. Roedd Abertawe ar waelod Y Gynghrair Bêl-droed pan gymrodd yr awenau[10] a bu rhaid disgwyl tan gêm olaf y tymor a buddugoliaeth 4-2 dros Hull City i sicrhau bod Abertawe yn cadw eu lle yn y Gynghrair[10][11]. Collodd Flynn ei swydd ym mis Mawrth 2004 yn dilyn rhediad siomedig o ganlyniadau[12]
Ymunodd Flynn â thîm rheoli Cymru yn 2004 fel hyfforddwr tîm pêl-droed dan 21 Cymru[13]. Daeth y tîm o fewn trwch blewyn o gyrraedd Pencampwriaeth UEFA dan 21 Euro 2009 gan golli yn erbyn Lloegr yn y gemau ail gyfle[14].
Yn dilyn ymadawiad John Toshack fel rheolwr Cymru ym mis Medi 2010 cafodd Flynn ei benodi'n reolwr dros dro ar Gymru[15]. Cymerodd ofal o ddwy gêm yn erbyn Bwlgaria[16] a'r Swistir[17].
Ym mis Medi 2012, ni chafodd cytundeb Flynn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ei adnewyddu [18].
Ym mis Ionawr 2013 cafodd Flynn ei benodi'n reolwr ar Doncaster Rovers[19] a llwyddodd i arwain y clwb i ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth[20]
Yn dilyn dyrchafiad cafodd Flynn ei benodi'n Gyfarwyddwr Pêl-droed ar Doncaster Rovers ond ym mis Awst 2014 gadawodd y clwb[21].
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.