pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed (1949- ) From Wikipedia, the free encyclopedia
Rheolwr pêl-droed a chyn-chwaraewr [o Gymru ydy John Benjamin Toshack (ganed 22 Mawrth 1949 yng Nghaerdydd).
John Toshack yn 2011 | ||
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | John Benjamin Toshack | |
Dyddiad geni | 22 Mawrth 1949 | |
Man geni | Caerdydd, Cymru | |
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1966-1970 1970-1978 1978-1984 |
Dinas Caerdydd Lerpwl Dinas Abertawe |
162 (74) 246 (96) 63 (25) |
Tîm Cenedlaethol | ||
1968-1969 1969-1980 |
Cymru o dan-23 Cymru |
4 (0) 40 (12) |
Clybiau a reolwyd | ||
1978-1983 1983-1984 1984-1985 1985-1989 1989-1990 1990-1994 1994 1995-1997 1997-1999 1999 2000-2001 2001-2002 2002-2003 2004 2004-2010 |
Dinas Abertawe Dinas Abertawe Sporting CP Real Sociedad Real Madrid Real Sociedad Cymru Deportivo de La Coruña Besiktas Real Madrid St. Étienne Real Sociedad Catania Real Murcia Cymru | |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Ymunodd â Dinas Caerdydd yn 16 oed, a treuliodd 4 mlynedd gyda'r clwb. Ar 11 Tachwedd 1970 fe dalodd Bill Shankly £110,000 amdano wrth iddo symud i Lerpwl. Tra gyda Lerpwl fe sgoriodd 96 o goliau ac ennill hen Bencampwriaeth Cynghrair Lloegr yn 1973, 1976 a 1977, Cwpan FA a Chwpan UEFA yn 1973 ac 1976. Fe chwaraeodd dros Gymru 40 o weithiau a sgoriodd 12 gôl. Cafodd broblemau gydag anafiadau ac fe ymunodd â Dinas Abertawe yn 1978 fel chwaraewr-reolwr.
Cafodd ddechrau llwyddiannus iawn i'w yrfa fel reolwr drwy arwain Abertawe o'r hen bedwerydd adran i'r adran cyntaf o fewn pedwar tymor. Yn 1984 fe'i benodwyd yn rheolwr ar Sporting Lisbon ym Mhortiwgal, ond treuliodd dim ond un tymor yno cyn gadael am Sbaen. Profodd cryn lwyddiant yno tra'n rheoli Real Madrid ddwy waith, Real Sociedad dair gwaith, Deportivo La Coruna a Real Murcia. Treuliodd gyfnod yn Nhwrci'n rheoli Beşiktaş J.K., AS Saint-Étienne yn Ffrainc a Catania yn yr Eidal. Fe'i benodwyd yn rheolwr ar dîm cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 1994 ond bu ond yn y swydd am 41 diwrnod, cyn ymddiswyddo yn dilyn colled o 3-1 yn erbyn Norwy. Er hyn cafodd ei benodi i'r swydd eto yn Nhachwedd 2004 wrth olynu Mark Hughes.
Rhagflaenydd: Duncan Evans |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1981 |
Olynydd: Steve Barry |
Rhagflaenydd: Leo Beenhakker |
Rheolwr Real Madrid C.F. Mehefin 1989 – Tachwedd 1990 |
Olynydd: Alfredo Di Stéfano |
Rhagflaenydd: Guus Hiddink |
Rheolwr Real Madrid C.F. Chwefror 1999 – Tachwedd 1999 |
Olynydd: Vicente Del Bosque |
Rhagflaenydd: Terry Yorath |
Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru 1994 |
Olynydd: Mike Smith |
Rhagflaenydd: Mark Hughes |
Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru Tachwedd 2004 – Medi 2010 |
Olynydd: Gary Speed |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.