From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed wedi'i leoli yn Glasgow, yr Alban ydy Glasgow Rangers F.C. sy'n chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Ibrox yn ne-orllewin y ddinas. Fe'i sefydlwyd yn 1872, a Rangers oedd un o ddeg aelod-sylfaenydd Cynghrair Pêl-droed yr Alban. Fe arhosodd y clwb yn adran uchaf yr Alban tan ddiwedd tymor 2011-12. Dychwelodd y clwb i Uwchgynghrair yr Alban ar gyfer tymor 2016–17. Yn nhymor 2020/21, enillodd Rangers Uwchgynghrair yr Alban am y 55 tro.
Enw llawn | Rangers Football Club (Clwb Pêl-droed Rangers) | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | The Gers; The Teddy Bears; The Light Blues | |||
Sefydlwyd | Mawrth, 1872 | |||
Maes | Ibrox Stadium Glasgow, yr Alban (sy'n dal: 50,817) | |||
Perchennog | The Rangers Football Club Ltd | |||
Cadeirydd | Dave King | |||
Rheolwr | Steven Gerrard | |||
Cynghrair | Uwchgynghrair yr Alban | |||
2021/22 | 2. | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
|
Yn 2012, daeth The Rangers Football Club plc yn fethdalwr ac aeth i weinyddiaeth, gan arwain at ddatodiad (liquidation) pan fethwyd â dod i gytundeb gyda'i gredydwyr.[1].[2] Prynwyud ei asedau, gan gynnwys Rangers FC, gan gwmni newydd, ac fe hefyd drosglwyddwyd ei aelodaeth o Gymdeithas Pêl-droed Yr Alban, gan alluogi Rangers i ddechrau tymor 2012-13 yn Nhrydedd Adran Cynghrair Pêl-droed yr Alban.[3] Llwyddodd y clwb i gael tri dyrchafiad mewn pedwar tymor ac adennill ei le yn adran uchaf yr Alban ar ddechrau tymor 2016–17.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.