Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr

From Wikipedia, the free encyclopedia

Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn cynrychioli Lloegr yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth y Gymdeithas Bêl-droed (Saesneg: The Football Association; FA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FA yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...
Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr
Thumb
Enghraifft o:tîm pêl-droed cenedlaethol 
Dechrau/Sefydlu1863 
PerchennogCymdeithas Bêl-droed Lloegr 
Enw brodorolEngland national association football team 
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig 
Gwefanhttps://www.thefa.com/England/ 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Mae Lloegr wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd pedairarddeg o weithiau gan ennill y gystadleuaeth ar eu tomen eu hunain ym 1966. Maent hefyd wedi chwarae ym Mhencampwriaethau Pêl-droed Ewrop wyth o weithiau gan gynnal y gystadleuaeth ym 1996.[1]

Hanes

Honnir mai Timau Lloegr a'r Alban yw'r ddau dîm pêl-droed cenedlaethol hyna'r byd. Chwaraewyd y gêm gyntaf rhwng yr Alban a Lloegr ar 5 Mawrth 1870.

Am flynyddoedd, tan iddynt ymuno gyda FIFA yn 1906, yr Alban, Iwerddon a Chymru oedd eu hunig gwrthwynebwyr. Nid oedd ganddynt stadiwm cenedlaethol hyd nes i Wembley gael ei agor yn 1923. Roedd y berthynas rhyngddyn nhw a FIFA yn sigledig iawn, a gadawodd Lloegr yn 1928, cyn ailymuno yn 1946. Oherwydd hyn, ni chymeron nhw ran ym Mhencampwriaeth y Byd tan 1950.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.