Llanarmon-yn-Iâl
pentref yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
pentref yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych yw Llanarmon-yn-Iâl( ynganiad ) (Llanarmon ar lafar yn lleol). Saif ar y ffordd B5431, gerllaw'r gyffordd a'r B5430, i'r dwyrain o dref Rhuthun a chwe milltir i'r de o'r Wyddgrug. Llifa Afon Alun heibio'r pentref, ac mae Llwybr Clawdd Offa rhyw filltir a hanner i'r gorllewin.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,062 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,785.25 ha |
Cyfesurynnau | 53.0965°N 3.2114°W |
Cod SYG | W04000157 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | Becky Gittins (Llafur) |
Yn ogystal â Llanarmon ei hun, mae'r gymunedd yn cynnwys pentrefi llai Eryrys a Graeanrhyd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Becky Gittins (Llafur).[1][2]
Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 14g, i Sant Garmon; dyma ganolfan eglwysig draddodiadol cwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog).
Ar gwr y pentref ceir Tomen y Faerdre, amddiffynfa o'r 12g.
Mewn ogof yma ceir un o'r ychydig olion yng Nghymru sy'n dyddio yn ôl tua 10,000 o flynyddoedd i'r cyfnod Mesolithig (sef Oes Ganol y Cerrig).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.