pentref a chymuned yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan hanesyddol a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Henllan( ynganiad ) (cyfeiriad grid SJ023681). Saif ar groesffordd wledig tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych, ar yr hen lôn o'r dref honno i Lansannan. Mae Eglwys Sant Sadwrn a'i glochdy canoloesol hynod yn edrych i lawr ar y pentref.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 862, 853 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 464.59 ha |
Cyfesurynnau | 53.2011°N 3.4633°W |
Cod SYG | W04000156 |
Cod OS | SJ022681 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | James Davies (Ceidwadwyr) |
Ceir nifer o hen dai yn y pentref. Mae'r eglwys yn hynod am fod ei chlochdy yn sefyll ar wahân ar fryncyn calchfaen isel.
Mae cerdd gan Guto'r Glyn yn y 15g yn gofyn i Ddeon Bangor yrru llwyth o lechi iddo o Aberogwen, ger Bangor, i Ruddlan i’w rhoi ar dô tŷ Syr Gruffudd ab Einion ap Tudur ap Heilyn Goch yn Henllan.[1]
Claddwyd yr emynydd Hugh Jones o Faesglasau (1749-1825) ym mynwent eglwys y plwyf yn Ebrill 1825, ar ôl iddo farw yn Ninbych yn 75 oed.
Saif Foxhall, cartref teulu Humphrey Lhuyd, o fewn y gymuned. Heb fod yn nepell ceir plasdy Foxhall Newydd, sy'n adeilad rhestredig Graddfa I.
Mae CPD Henllan yn cystadlu yng Nghyngrair Pêl Droed Haf Llandyrnog a'r Cylch. Derbyniwyd i'r gynghrair yn 1932. Ers hyn maent wedi ennill y gynghrair 7 gwaith a'r darian 4 gwaith. Cafwyd eu llwyddiant diwethaf yn 2012 wrth guro Clawddnewydd yn rownd derfynol y darian, ac yn y broses yn cipio'u tlws cyntaf ers 38 mlynedd.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Henllan, Sir Ddinbych (pob oed) (862) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Henllan, Sir Ddinbych) (353) | 42.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Henllan, Sir Ddinbych) (575) | 66.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Henllan, Sir Ddinbych) (123) | 32.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.