Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales national football team) yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ffeithiau sydyn Conffederasiwn, Hyfforddwr ...
Cymru
Shirt badge/Association crest
Conffederasiwn UEFA (Ewrop)
Hyfforddwr Craig Bellamy
Mwyaf o Gapiau Gareth Bale (111)
Prif sgoriwr Gareth Bale (41)
Cod FIFA WAL
Safle FIFA 24 (24 Hydref 2019)[1]
Safle FIFA uchaf 8 (Hydref 2015)
Safle FIFA isaf 117 (Awst 2011)
Safle Elo 30 (18 Hydref 2019) [2]
Safle Elo uchaf 3 (1876~1885)
Safle Elo isaf 88 (Mawrth 2011)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
 yr Alban 4–0  Cymru
(Glasgow; 26 Mawrth 1876)
Y fuddugoliaeth fwyaf
 Cymru 11–0  Iwerddon
(Wrecsam; 3 Mawrth 1888)
Colled fwyaf
 yr Alban 9–0  Cymru
(Glasgow; 23 Mawrth 1878)
Cwpan FIFA y Byd
Ymddangosiadau 2 (Cyntaf yn 1958)
Canlyniad gorau Rownd Go-gynderfynol, 1958
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop
Ymddangosiadau 2 (Cyntaf yn 2016)
Canlyniad gorau Rownd Gyn-derfynol, 2016
Gwefan faw.cymru/cy/
Cau
Cymru yn erbyn Gwlad Belg, Stadiwm Dinas Caerdydd, 12 Mehefin 2015

Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o holl dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban.

Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed ddwywaith, sef Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 a phencampwriaeth Ewro 2016. Llwyddodd Cymru hefyd i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Bencampwriaethau Ewrop 1976, sef y flwyddyn olaf y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal dros ddau gymal. Yn 2022, curodd Cymru dîm Wcráin, gan gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, cyfnod o 64 o flynyddoedd.

Yn Ebrill 2013, agorodd Parc y Ddraig, Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, yng Nghasnewydd.

Hanes

Y Blynyddoedd Cynnar

Chwaraeodd Cymru ei gêm gystadleuol gyntaf ar 25 Mawrth 1876 yn erbyn yr Alban yn Glasgow gan ei gwneud y trydydd tîm pêl-droed rhyngwladol hyna'n y byd. Yr Alban enillodd y gêm gyntaf 4-0. Trefnwyd gêm gyfatebol yng Nghymru y flwyddyn ganlynol ac felly y cafwyd y gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf ar dir Cymru, ar Gae Ras Wrecsam ar 5 Mawrth 1882. Enillodd yr Alban eto, 2-0 y tro hwn. Roedd y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn 1879 pan welwyd Cymru'n colli 2-1 yn Kennington Oval, Llundain ac yn 1882 wynebodd Cymru Iwerddon am y tro cyntaf gan ennill 7-1 yn Wrecsam.

Cyfarfu cynrychiolwyr y pedair gwlad ym Manceinion ar 6 Ragfyr 1882 i greu rheolau a thrwy hyn sefydlwyd Bwrdd y Cymdeithasau Pêl-droed Rhyngwladol. Yn 1883-84 ffurfiwyd Pencampwriaeth Cartref Prydain, twrnameint a chwaraewyd yn flynyddol rhwng Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru hyd 1983-84. Bu Cymru'n bencampwr 12 gwaith.

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2014

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp A ar gyfer gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ynghyd â Croatia, Serbia, Gwlad Belg, yr Alban a Macedonia. Ni lwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, gan orffen yn bumed yn y grŵp rhagbrofol.

Gemau Rhagbrofol Ewro 2016

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp B ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2016 ynghyd ag Andorra, Gwlad Belg, Bosnia-Hertsegofina, Cyprus ac Israel. Ar 10 Hydref 2015, er colli yn erbyn Bosnia-Hertsegofina, llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016, gan fod Cyprus wedi curo Israel. Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ers Cwpan y Byd Pêl-droed 1958.[3] Gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp ar ôl curo Andorra o 2-0 yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2015.[4]

Rhagor o wybodaeth Ch, E ...
Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/e +/- P
 Gwlad Belg 10721245+1923
 Cymru 10631114+721
 Bosnia-Hertsegofina 105231712+517
 Israel 104151614+213
 Cyprus 104061617-112
 Andorra 100010436-320
Cau
Rhagor o wybodaeth Allwedd i'r lliwiau yn y tabl ...
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2016
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle
Cau

Rowndiau Terfynol Ewro 2016

Ar 12 Rhagfyr 2015, tynnwyd enwau y timau i chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gosodwyd Cymru yng ngrŵp B, ynghyd â Lloegr, Rwsia a Slofacia.[5]

Ar 20 Mehefin 2016, llwyddodd Cymru i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.[6]

Rhagor o wybodaeth Ch, E ...
Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
 Cymru 320163+36
 Lloegr 312032+15
 Slofacia 31113304
 Rwsia 301226-41
Cau
Rhagor o wybodaeth Allwedd i'r lliwiau yn y tabl ...
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i'r 16 olaf
Posibilrwydd o gyrraedd yr 16 olaf (os yn un o'r pedwar tîm trydydd safle gorau)
Cau
Ar ôl cyrraedd rownd gyn-derfynol pencampwriaeth UEFA Euro 2016, dychwelodd Tîm Pêl-droed Cymru i Gymru gan fynd ar daith bws agored drwy ganol dinas Caerdydd.

Ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon ym Mharis ar 25 Mehefin 2016 yn rownd yr 16 olaf. Enillodd Cymru y gêm 1-0, gan sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.[7] Enillodd Cymru'r rownd honno o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg[8], gan sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf erioed. Portiwgal oedd gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd gynderfynol. Nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn gallu chwarae oherwydd gwaharddiad, wedi iddynt dderbyn dau gerdyn melyn yr un yn ystod y gystadleuaeth. Cafwyd gêm agos, ond colli 2-0 fu hanes Cymru, gan roi terfyn ar y freuddwyd o gyrraedd y rownd derfynol.[9]

Dychwelodd carfan Cymru a'r tîm hyfforddi i Gymru ar 8 Gorffennaf 2016. Ar ôl glanio ym Maes Awyr Caerdydd, teithiodd y garfan i Gastell Caerdydd, lle roedd torfeydd o filoedd yn aros i'w croesawu. Teithiodd y chwaraewyr ar fws to agored drwy ganol y brifddinas, gan orffen yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle cynhaliwyd cyngerdd gan amrywiol artistiaid, gan gynnwys y Manic Street Preachers a Kizzy Crawford.[10]

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018

Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau Rhagbrofol Ewro 2016, gosodwyd Cymru ymhlith y deg tîm gorau yn y Byd yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf erioed ym mis Gorffennaf 2015. Golygodd hynny fod Cymru ymhlith y detholion uchaf ar gyfer dewis y grwpiau ar gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018. Fe dynnwyd enwau'r timau ar 25 Gorffennaf 2015 yn St Petersburg, Rwsia. Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp D ynghyd ag Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldofa a Georgia.[11]

Rhagor o wybodaeth Ch, E ...
Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
 Serbia 106312010+1021
 Iwerddon 10541126+619
 Cymru 10451136+717
 Awstria 104331412+215
 Georgia 10055814-65
 Moldofa 10028423-192
Cau
Rhagor o wybodaeth Allwedd i'r lliwiau yn y tabl ...
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle
Cau

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2018-19

Fe osodwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yng Ngrŵp 4, Cynghrair B y gystadleuaeth gychwynnol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn 2018-19. Ynghyd ag Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc.[12]

Rhagor o wybodaeth Ch, E ...
Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
 Denmarc 422041+38
 Cymru 420265+16
 Iwerddon 402215-42
Cau
Rhagor o wybodaeth Allwedd i'r lliwiau yn y tabl ...
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Dyrchafiad i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Gostwng i Gynghrair C Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Cau

Gemau Rhagbrofol Ewro 2020

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp E ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2020 ynghyd ag Aserbaijan, Croatia, Hwngari a Slofacia. Fe fydd y ddau dîm fydd ar frîg y tabl ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol yn symud yn uniongyrchol i rowndiau terfynol Ewro 2020.

Rhagor o wybodaeth Ch, E ...
Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/e +/- P
 Croatia 8521177+1017
 Cymru 8422106+414
 Slofacia 84131311+213
 Hwngari 8404811-312
 Aserbaijan 8017518-131
Cau

Cywir ar 19 Tachwedd 2019

Rhagor o wybodaeth Allwedd i liwiau'r tabl ...
Allwedd i liwiau'r tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2020
Cau

Canlyniadau Diweddar a Gornestau'r Dyfodol

Rhagor o wybodaeth Dyddiad, Cystadleuaeth ...
Dyddiad Cystadleuaeth Canlyniad
15 Hydref 2013Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 Gwlad Belg1 - 1 Cymru
16 Tachwedd 2013Cyfeillgar Cymru1 - 1 Y Ffindir
5 Mawrth 2014Cyfeillgar Cymru3 - 1 Gwlad yr Iâ
4 Mehefin 2014Cyfeillgar Yr Iseldiroedd2 - 0 Cymru
9 Medi 2014Rhagbrofol Ewro 2016 Andorra1 - 2 Cymru
10 Hydref 2014Rhagbrofol Ewro 2016 Cymru0 - 0 Bosnia-Hertsegofina
13 Hydref 2014Rhagbrofol Ewro 2016 Cymru2 - 1 Cyprus
16 Tachwedd 2014Rhagbrofol Ewro 2016 Gwlad Belg0 - 0 Cymru
28 Mawrth 2015Rhagbrofol Ewro 2016 Israel0 - 3 Cymru
12 Mehefin 2015Rhagbrofol Ewro 2016 Cymru1 - 0 Gwlad Belg
3 Medi 2015Rhagbrofol Ewro 2016 Cyprus0 - 1 Cymru
6 Medi 2015Rhagbrofol Ewro 2016 Cymru0 - 0 Israel
10 Hydref 2015Rhagbrofol Ewro 2016 Bosnia-Hertsegofina2 - 0 Cymru
13 Hydref 2015Rhagbrofol Ewro 2016 Cymru2 - 0 Andorra
13 Tachwedd 2015Cyfeillgar Cymru2 - 3 Yr Iseldiroedd
24 Mawrth 2016Cyfeillgar Cymru1 - 1 Gogledd Iwerddon
28 Mawrth 2016Cyfeillgar Wcrain1 - 0 Cymru
5 Mehefin 2016Cyfeillgar Sweden3 - 0 Cymru
11 Mehefin 2016Ewro 2016 Cymru2 - 1 Slofacia
16 Mehefin 2016Ewro 2016 Lloegr2 - 1 Cymru
20 Mehefin 2016Ewro 2016 Rwsia0 - 3 Cymru
25 Mehefin 2016Ewro 2016 (Rownd yr 16 Olaf) Cymru1 - 0 Gogledd Iwerddon
1 Gorffennaf 2016Ewro 2016 (Rownd Gogynderfynol) Cymru3 - 1 Gwlad Belg
6 Gorffennaf 2016Ewro 2016 (Rownd Gynderfynol) Portiwgal2 - 0 Cymru
5 Medi 2016Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Cymru4 - 0 Moldofa
6 Hydref 2016Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Awstria2 - 2 Cymru
9 Hydref 2016Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Cymru1 - 1 Georgia
12 Tachwedd 2016Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Cymru1 - 1 Serbia
24 Mawrth 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Iwerddon0 - 0 Cymru
11 Mehefin 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Serbia1 - 1 Cymru
2 Medi 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Cymru1 - 0 Awstria
5 Medi 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Moldofa0 - 2 Cymru
6 Hydref 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Georgia0 - 1 Cymru
9 Hydref 2017Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 Cymru0 - 1 Iwerddon
10 Tachwedd 2017Cyfeillgar Ffrainc2 - 0 Cymru
14 Tachwedd 2017Cyfeillgar Cymru1 - 1 Panama
22 Mawrth 2018Cwpan Tsiena 2018 Gweriniaeth Pobl Tsieina0 - 6 Cymru
26 Mawrth 2018Cwpan Tsiena 2018 Wrwgwái1 - 0 Cymru
29 Mai 2018Cyfeillgar Mecsico0 - 0 Cymru
6 Medi 2018Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Cymru4 - 1 Iwerddon
9 Medi 2018Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Denmarc2 - 0 Cymru
11 Hydref 2018Cyfeillgar Cymru1 - 4 Sbaen
16 Hydref 2018Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Iwerddon0 - 1 Cymru
16 Tachwedd 2018Cynghrair y Cenhedloedd UEFA Cymru1 - 2 Denmarc
20 Tachwedd 2018Cyfeillgar Albania1 - 0 Cymru
20 Mawrth 2019Cyfeillgar Cymru1 - 0 Trinidad a Thobago
24 Mawrth 2019Rhagbrofol Ewro 2020 Cymru1 - 0 Slofacia
8 Mehefin 2019Rhagbrofol Ewro 2020 Croatia2 - 1 Cymru
11 Mehefin 2019Rhagbrofol Ewro 2020 Hwngari1 - 0 Cymru
6 Medi 2019Rhagbrofol Ewro 2020 Cymru2 - 1 Aserbaijan
10 Medi 2019Cyfeillgar Cymru1 - 0 Belarws
10 Hydref 2019Rhagbrofol Ewro 2020 Slofacia1 - 1 Cymru
13 Hydref 2019Rhagbrofol Ewro 2020 Cymru1 - 1 Croatia
16 Tachwedd 2019Rhagbrofol Ewro 2020 Aserbaijan0 - 2 Cymru
19 Tachwedd 2019Rhagbrofol Ewro 2020 Cymru2 - 0 Hwngari
Cau

Chwaraewyr

Carfan ddiweddaraf

Enwodd Rob Page y tîm 26-dyn ar y gêmau yn erbyn De Corea a Latfia ym mis Medi 2023.

Capiau a goliau yn dilyn 3 Medi 2023

Rhagor o wybodaeth 0#0, Safle ...
0#0 Safle Chwaraewr Dyddiad geni (oed) Capiau Goliau Clybiau
1G Wayne Hennessey (1987-01-24) 24 Ionawr 1987 (37 oed) 108 0 Lloegr Nottingham Forest
1G Danny Ward (1993-06-22) 22 Mehefin 1993 (31 oed) 32 0 Lloegr Leicester City
1G Adam Davies (1992-07-17) 17 Gorffennaf 1992 (32 oed) 4 0 Lloegr Sheffield United
1G Tom King (1995-03-09) 9 Mawrth 1995 (29 oed) 0 0 Lloegr Wolverhampton Wanderers
2AM Ben Davies (1993-04-24) 24 Ebrill 1993 (31 oed) 78 1 Lloegr Tottenham Hotspur
2AM Connor Roberts (1995-09-23) 23 Medi 1995 (28 oed) 48 3 Lloegr Burnley
2AM Chris Mepham (1997-11-05) 5 Tachwedd 1997 (26 oed) 40 0 Lloegr Bournemouth
2AM Joe Rodon (1997-10-22) 22 Hydref 1997 (26 oed) 37 0 Lloegr Leeds United
2AM Neco Williams (2001-04-13) 13 Ebrill 2001 (23 oed) 30 2 Lloegr Nottingham Forest
2AM Tom Lockyer (1994-12-03) 3 Rhagfyr 1994 (29 oed) 14 0 Lloegr Luton Town
2AM Ben Cabango (2000-05-30) 30 Mai 2000 (24 oed) 7 0 Cymru Dinas Abertawe
2AM Morgan Fox (1993-09-21) 21 Medi 1993 (30 oed) 0 0 Lloegr Queens Park Rangers
3CC Aaron Ramsey (capten) (1990-12-26) 26 Rhagfyr 1990 (33 oed) 82 20 Cymru Dinas Caerdydd
3CC Harry Wilson (1997-03-22) 22 Mawrth 1997 (27 oed) 46 6 Lloegr Fulham
3CC Ethan Ampadu (2000-09-14) 14 Medi 2000 (23 oed) 44 0 Lloegr Leeds United
3CC Joe Morrell (1997-01-03) 3 Ionawr 1997 (27 oed) 36 0 Lloegr Portsmouth
3CC David Brooks (1997-07-08) 8 Gorffennaf 1997 (27 oed) 22 2 Lloegr Bournemouth
3CC Wes Burns (1994-11-23) 23 Tachwedd 1994 (29 oed) 4 0 Lloegr Ipswich Town
3CC Josh Sheehan (1995-03-30) 30 Mawrth 1995 (29 oed) 3 0 Lloegr Bolton Wanderers
3CC Jordan James (2004-07-02) 2 Gorffennaf 2004 (20 oed) 2 0 Lloegr Birmingham City
4YM Kieffer Moore (1992-08-08) 8 Awst 1992 (32 oed) 34 10 Lloegr Bournemouth
4YM Brennan Johnson (2001-05-23) 23 Mai 2001 (23 oed) 20 2 Lloegr Tottenham Hotspur
4YM Rabbi Matondo (2000-09-09) 9 Medi 2000 (23 oed) 11 yr Alban Rangers
4YM Tom Bradshaw (1992-07-27) 27 Gorffennaf 1992 (32 oed) 6 0 Lloegr Millwall
4YM Nathan Broadhead (1998-04-05) 5 Ebrill 1998 (26 oed) 4 1 Lloegr Ipswich Town F.C.
4YM Liam Cullen (1999-04-03) 3 Ebrill 1999 (25 oed) 0 0 Cymru Dinas Abertawe
Cau

Chwaraewyr eraill a alwyd i'r garfan yn ddiweddar

Rhagor o wybodaeth 0#0, Safle ...
0#0 Safle Chwaraewr Dyddiad geni (oed) Capiau Goliau Clybiau
2AM Adam Henley (1994-06-14) 14 Mehefin 1994 (30 oed) 2 0 Lloegr Blackburn Rovers
2AM Adam Matthews (1992-01-13) 13 Ionawr 1992 (32 oed) 13 0 Lloegr Sunderland
2AM Morgan Fox (1993-09-21) 21 Medi 1993 (30 oed) 0 0 Lloegr Charlton Athletic
2AM Sam Ricketts (1981-10-11) 11 Hydref 1981 (42 oed) 52 0 Lloegr Coventry City
2AM James Lawrence (1992-08-22) 22 Awst 1992 (32 oed) 3 0 Gwlad Belg Anderlecht
2AM Paul Dummett (1991-09-26) 26 Medi 1991 (32 oed) 5 0 Lloegr Newcastle United
2AM Declan John (1995-06-30) 30 Mehefin 1995 (29 oed) 7 0 Cymru Dinas Abertawe
2AM Jazz Richards (1991-04-12) 12 Ebrill 1991 (33 oed) 14 0 Cymru Dinas Caerdydd
2AM James Chester (1989-01-23) 23 Ionawr 1989 (35 oed) 34 0 Lloegr Aston Villa F.C.
3 2AM Neil Taylor (1989-02-07) 7 Chwefror 1989 (35 oed) 39 1 Lloegr Aston Villa
6 2AM Joe Walsh (1989-05-13) 13 Mai 1989 (35 oed) 0 0 Lloegr MK Dons
14 3CC David Edwards (1986-02-03) 3 Chwefror 1986 (38 oed) 38 3 Lloegr Wolverhampton Wanderers
3CC Emyr Huws (1993-09-30) 30 Medi 1993 (30 oed) 9 1 Cymru Dinas Caerdydd
16 3CC Joe Ledley (1987-01-23) 23 Ionawr 1987 (37 oed) 72 4 Lloegr Crystal Palace
8 3CC Andy King (1988-10-29) 29 Hydref 1988 (35 oed) 49 2 Lloegr Caerlyr
3CC David Brooks (1997-07-08) 8 Gorffennaf 1997 (27 oed) 10 0 Lloegr Bournemouth
3CC Shaun MacDonald (1988-06-17) 17 Mehefin 1988 (36 oed) 4 0 Lloegr Wigan Athletic
3CC Lloyd Isgrove (1993-12-01) 1 Rhagfyr 1993 (30 oed) 1 0 Lloegr Barnsley
22 3CC David Vaughan (1983-02-18) 18 Chwefror 1983 (41 oed) 43 1 Lloegr Nottingham Forest
3CC Jordan Williams (1995-11-06) 6 Tachwedd 1995 (28 oed) 0 0 Lloegr Swindon Town
4YM Tom Bradshaw (1992-07-27) 27 Gorffennaf 1992 (32 oed) 1 0 Lloegr Walsall
4YM Wes Burns (1994-11-23) 23 Tachwedd 1994 (29 oed) 0 0 Lloegr Fleetwood Town
23 4YM Simon Church (1988-12-10) 10 Rhagfyr 1988 (35 oed) 38 3 Lloegr MK Dons
17 3CC David Cotterill (1987-12-04) 4 Rhagfyr 1987 (36 oed) 23 2 Lloegr Birmingham City
9 4YM Hal Robson-Kanu (1989-05-21) 21 Mai 1989 (35 oed) 40 4 Lloegr West Bromwich Albion
4YM Tom Lawrence (1994-01-13) 13 Ionawr 1994 (30 oed) 17 3 Lloegr Derby County
4YM Sam Vokes (1989-10-21) 21 Hydref 1989 (34 oed) 60 11 Lloegr Burnley F.C.
13 4YM George Williams (1995-09-07) 7 Medi 1995 (28 oed) 7 0 Lloegr MK Dons
20 3CC Jonathan Williams (1993-10-09) 9 Hydref 1993 (30 oed) 17 0 Lloegr Crystal Palace
Cau

Prif sgorwyr

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n dal i chwarae mewn print trwm):

Rhagor o wybodaeth #, Enw ...
# Enw Goliau Capiau Cyfartaledd
1 Gareth Bale 33 83 0.4
2 Ian Rush 28 73 0.38
3 Trevor Ford 23 38 0.61
Ivor Allchurch 23 68 0.34
5 Dean Saunders 22 75 0.29
6 Craig Bellamy 19 78 0.24
7 Robert Earnshaw 16 59 0.27
Cliff Jones 16 59 0.27
Mark Hughes 16 72 0.22
Aaron Ramsey 16 60 0.27
Cau


Mwyaf o Gapiau

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

Rhagor o wybodaeth #, Name ...
# Name First/Latest Cap Caps Goals
1 Chris Gunter 2007– 96 0
2 Neville Southall 1982–1997 92 0
3 Wayne Hennessey 2007– 89 0
4 Ashley Williams 2007– 86 2
5 Gary Speed 1990–2004 85 7
6 Gareth Bale 2006– 83 33
7 Craig Bellamy 1998–2013 78 19
8 Joe Ledley 2007– 77 4
9 Dean Saunders 1986–2001 75 22
10 Peter Nicholas 1979–1991 73 2
Ian Rush 1980–1996 73 28
Cau

Chwaraewyr Eraill gyda 50 neu fwy o gapiau

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

Rheolwyr

Rhestrir rheolwyr dros dro yn italig.

Cyn 1954 roedd tîm Cymru yn cael ei ddewis gan banel o ddewiswyr, gyda'r capten yn chwarae rôl hyforddwr.

Nodiadau

    Gweler hefyd

    • Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru
    • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 21 Cymru
    • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 20 Cymru
    • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 19 Cymru
    • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 18 Cymru
    • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 17 Cymru
    • Tîm futsal cenedlaethol Cymru

    Cyfeiriadau

    Wikiwand in your browser!

    Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

    Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

    Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.