![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1b/Borth_-_2008-03-01.jpg/640px-Borth_-_2008-03-01.jpg&w=640&q=50)
Y Borth
cymuned a phentref yng Ngheredigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngheredigion yw y Borth. Saif ar arfordir Bae Ceredigion, 9 km i'r gogledd o Aberystwyth. Mae ganddi tua 1,463 o drigolion, 32.4% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2011).
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,399 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 745.61 ha ![]() |
Yn ffinio gyda | Machynlleth ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4853°N 4.051°W ![]() |
Cod SYG | W04000362 ![]() |
Cod OS | SN608894 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cau
- Am y dref ar Ynys Môn, gweler Porthaethwy
Pentref bach pysgotwyr a morwyr fu'r Borth yn y gorffennol ond mae'r Borth, bellach, yn dref glan môr boblogaidd gyda sawl gwersyll carafanio yn y cylch. I'r dwyrain ceir corsdir eang o'r enw Cors Fochno ar lan aber Afon Dyfi. Ar un adeg gellid croesi gyda fferi bach o'r Ynys Las i'r gogledd o'r pentref i Aberdyfi dros Afon Dyfi.
Mae gan y Borth orsaf reilffordd ar Reilffordd y Cambrian.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]